'All bywyd ddim mynd nôl i 'normal''
- Cyhoeddwyd
Mewn fersiwn o erthygl a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, dolen allanol mae'r uwch ddarlithydd anthropoleg Dr Luci Attala yn rhoi ei barn am sut mae'r pandemig coronafeirws yn debyg o newid y ffordd rydyn ni'n byw - a pham ei bod hi'n credu na all bywyd fynd yn ôl i fel yr oedd.
Bydd 'normal' yn newid
Mae'r nifer sy'n galw am gael dychwelyd i 'normalrwydd' yn cynyddu. Mae pobl wedi cael llond bol ar y cyfyngiadau ...ond mae unrhyw alw am eu codi unwaith eto'n cael ei ateb yn syth â'r rhybudd "all pethau ddim mynd nôl i fel roedden nhw o'r blaen".
Yn amlwg, mewn perthynas â'r niferoedd erchyll o farwolaethau sydd yn y DU a ledled y byd, ni fydd bywydau llawer o deuluoedd fyth yn dychwelyd i fel ag oedden nhw cyn dechrau 2020.
Ond beth yw ystyr dychwelyd i normalrwydd a pham na all pethau fynd nôl i'r ffordd oedden nhw cyn y cyfyngiadau symud?
Ar un lefel, yn syml, am fod y firws yma i aros; dydyn ni ddim am gael gwared arno'n fuan, os o gwbl. Fel yr holl afiechydon heintus eraill rydym yn eu lledaenu mewn gwahanol ffyrdd, mae Covid-19 wedi'i gloi mewn gyda ni, ac yn aml, nes bod triniaeth neu frechiad, bydd rhaid i lawer o'n hymddygiad cymdeithasol 'normal' gael eu haddasu i geisio atal y lledaeniad.
Cadw pellter
Er mwyn rheoli'r afiechyd yn effeithiol bydd yn rhaid inni gadw pellter corfforol oddi wrth ein gilydd.
Fodd bynnag, bydd cadw pellter yn effeithio ar bron popeth. Bydd rhaid i bethau a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn arferol a diniwed, fel rhoi llaw ar ein hwyneb - face palm - yn gorfod newid.
Hefyd y ffordd rydyn ni'n cyfarch ein gilydd; golchi dwylo; siopa; defnyddio cludiant cyhoeddus; mynychu cyfarfodydd; ymdrin â'r rush hour; cael addysg ac adloniant, ymysg nifer di-ri o weithgareddau eraill.
Yn ogystal, bydd rhaid rhoi sylw i'r ffordd mae adeiladau, llwybrau cerdded, a lleoedd cymdeithasol yn cael eu dylunio, yn ogystal â mathau gwahanol o waith. Efallai y bydd cael MOT i'r car yn hawdd ei wneud o bellter diogel ond bydd mynd at y deintydd neu fynd i dorri eich gwallt yn stori wahanol.
Efallai y bydd gwisgo mygydau o ryw fath mewn ardaloedd prysur yn norm.
Er ei bod yn gwbl amlwg nad oeddem yn barod am hyn a'n bod wedi straffaglu i addasu, 'dyw hynny ddim yn golygu na allwn addasu'n llwyddiannus yn y dyfodol. Mae'r hil ddynol yn rhywogaeth greadigol sydd â llawer o sgiliau a does gen i ddim amheuaeth y bydd yna bethau newydd gwych yn dod i'r amlwg a hyd yn oed yn gwella ein bywydau yn yr hir dymor - fel y cwymp mewn allyriadau, er enghraifft.
Bywyd yn fwy hamddenol?
Mae llawer o deuluoedd yn treulio'r hyn oedd yn cael ei alw'n 'amser ansawdd' gyda'i gilydd: garddio, coginio, dawnsio, canu a - pwy fyddai'n meddwl - darllen!
Yn bersonol, mae wedi rhoi'r lle i mi anwybyddu'r cloc a dod o hyd i fy rhythm fy hun mewn diwrnod ac rwy'n credu fod byw fel hyn yn well i mi.
Rwy'n dal i fod yn gynhyrchiol, yn dal i eistedd mewn cyfarfodydd diflas, ond dydw i ddim yn rhuthro o un lle i'r llall, yn ceisio dod o hyd i leoedd parcio a gwneud yn siŵr fy mod wedi dod â phopeth sydd ei angen gyda fi.
Yn ogystal, 'dyw'r ymyrraeth ddiddiwedd sy'n digwydd yn anorfod mewn coridor o swyddfeydd ddim yn tarfu arnaf sy'n awgrymu y gallai rhai pethau, mewn rhai meysydd, fod yn fwy effeithlon.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol nad yw hyn yn wir i gyfran sylweddol o boblogaeth y DU a chenhedloedd eraill a bod dioddefaint byd-eang o ganlyniad i anghydraddoldeb yn enfawr, yn waeth ac yn boen meddwl ofnadwy.
DIWEDDARAF: Coronafeirws: Dydd Llun, Mai 11
RHEOLAU: Coronafeirws: Rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
DYSGU: Gwersi dyddiol Bitesize
Pwyso a mesur beth sy'n werthfawr
Mae'r pandemig yn cynnig cyfle i bawb feddwl yn galed ac yn fwy gofalus am yr hyn sydd wir o werth ac y dylid rhoi amser, egni ac ystyriaeth ychwanegol iddo.
Mewn geiriau eraill: mae'r firws yn esbonio bod rhai o'r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi'u gwau i mewn i ffabrig cymdeithasol bywyd bob dydd yn broblematig ac efallai y bydd rhaid eu dileu fesul cam ac yna eu cloi yn y drôr 'camgymeriadau hanes' am byth.
O ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd heddiw, rwy'n credu mai'r sector iechyd a gofal yw ceffyl blaen y teitl 'sefydliad cymdeithasol pwysicaf a mwyaf gwerthfawr', gan ddangos ei hun yn gwbl angenrheidiol uwchben 'y marchnadoedd' a'r holl fflwff economaidd sy'n cylchdroi o gwmpas y draen hwnnw. Bydd cymdeithas nad yw'n rhoi iechyd, ar ei holl weddau, wrth ei chraidd yn siŵr o ddioddef ac yn peidio â ffynnu.
Hoffwn weld iechyd a gofal wrth galon cymdeithas yn y dyfodol, yn hytrach nag economeg foel, fel y mae nawr.
Yr hyn rwy'n ei olygu yw bod penderfyniadau'n cael eu gwneud drwy weithio allan beth sy'n angenrheidiol yn hytrach na'n bosibl yn ariannol.
Dydw i ddim yn meddwl y gall cymdeithas fforddio gwneud hyn mewn unrhyw ffordd arall nawr, gan ein bod wedi gweld yn glir nad oes dim yn gweithio'n dda os nad yw'r pethau hynny sy'n helpu'r boblogaeth i aros yn iach, saff ac yn fyw gennym ni.
Hoffwn weld penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar iechyd a gofal dinasyddion, ar yr amgylchedd, ar anifeiliaid heblaw pobl, cymunedau, cyflogaeth, addysg, y system gyfreithiol ac ati.
Yn sgil hynny, nid yn unig y bydden yn barod i helpu ein gilydd, ond fe fyddai gofal yn greiddiol ac yn cael ei ddangos ym mhopeth, pob newid, pob eitem, pob gwasanaeth a gynhyrchwn.
Hefyd o ddiddordeb: