Staff Betsi Cadwaladr yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu cwyno
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad annibynnol i wasanaethau fasgwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dangos fod nifer o staff yn teimlo "nad oes modd iddyn nhw gwyno" am fethiannau'r adran gan y byddai'n "ddinistriol i'w gyrfa".
Yn ôl yr adroddiad terfynol mae BBC Cymru wedi ei dderbyn, mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CIC) i weld yn amlygu rhagor o bryderon damniol gan staff a chleifion am ddarpariaeth gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd.
Nid yw'r ddogfen wedi ei chyhoeddi'n ffurfiol eto.
Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd eu canoli o Ysbyty Gwynedd, Bangor i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn 2019.
Wrth ymateb i'r pryderon fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "na fyddai'n addas" iddyn nhw wneud sylw gan nad yw'r adroddiad wedi ei gyhoeddi'n ffurfiol eto ond eu bod yn "gweithio gyda'r CIC i fynd i'r afael â'r pryderon sydd wedi eu codi".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "na fyddai'n addas" gwneud sylw ar adroddiad sydd heb ei gyhoeddi ond eu bod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda'r CIC wrth ymateb i bryderon.
'Gwrthod rhyddhau gwybodaeth'
Mae'r CIC hefyd wedi cyhuddo'r bwrdd iechyd, unwaith yn rhagor, o "wrthod rhyddhau" gwybodaeth am berfformiad y gwasanaeth, sy'n "groes i'r ddeddfwriaeth", yn eu barn nhw.
Wrth siarad â BBC Cymru fe ddywedodd yr Aelod Cynulliad Sian Gwenllian fod canoli'r gwasanaethau wedi bod yn "gamgymeriad mawr" a bod symud yr uned o Ysbyty Gwynedd yn "profi fod cynllun ar droed i israddio Ysbyty Gwynedd".
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb drwy ddweud nad yw'n wir fod cynlluniau i israddio'r ysbyty, a'u bod "wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol i atgyfnerthu gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd yn ystod y blynyddoedd diweddar" gan gynnwys "£14m i uwchraddio ac ehangu Adran Achosion Brys yr ysbyty".
Mae'r adroddiad terfynol, sy'n seiliedig ar 14 ymgynghoriad cyhoeddus ac un ymgynghoriad gyda staff y bwrdd, yn dangos fod pobl yn pryderu ynglŷn â defnyddio'r gwasanaethau o hyd.
Wrth edrych ar bryderon staff mae'r adroddiad yn nodi fod rhai aelodau wedi dweud wrth y CIC eu bod yn teimlo nad oes modd iddyn nhw ddefnyddio'r broses 'whistleblowing' gan y gallai gael effaith negyddol ar eu gyrfa.
Yn ôl yr adroddiad mae staff yn dweud fod rhai aelodau sydd wedi codi pryderon yn y gorffennol wedi wynebu "camau disgyblu" a'u bod yn teimlo fod cwyno yn "ddinistriol i'w gyrfa".
Tra bod y CIC yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am hyn, maen nhw'n dweud fod yr honiadau yn "bryderus".
Yn sgil hyn mae'r corff wedi galw ar y bwrdd iechyd i'w cynnwys nhw fel rhan annibynnol o'r system gwyno er mwyn "adfer hyder" staff yn y broses.
Pryder cleifion
Yn debyg i'r adroddiad interim a ddaeth i sylw BBC Cymru ym mis Chwefror, mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu pryderon cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau fasgwlar yn rheolaidd.
Mae'r adroddiad yn nodi fod yna bryder bod canoli'r gwasanaethau wedi cael effaith negyddol ar wasanaeth achub rhannau o'r corff a bod poeni o hyd am nifer yr aelodau staff ymgynghorol sydd wedi gadael.
Yn ôl yr adroddiad mae'r nifer y cwynion ffurfiol yn erbyn y gwasanaeth wedi cynyddu ac mae rhai cleifion sâl yn honni eu bod yn croesi'r ffin i gael mynediad at ofal fasgwlar drwy unedau brys y GIG yn Lloegr.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod pryderon sylfaenol am ddiffyg bodolaeth "ward llawdriniaeth fasgwlaidd" a diffyg nyrsys sydd wedi eu hyfforddi mewn triniaeth fasgwlar.
Dywedodd Ms Gwenllian: "Mae'r argyfwng wedi dangos pwysigrwydd Ysbyty Gwynedd i'r gymuned leol.
"Buddsoddi sydd angen, nid gweld gwasanaethau yn diflannu i'r dwyrain."
Ychwanegodd y "dylid ail-gyflwyno rhannau o'r gwasanaeth i Ysbyty Gwynedd er mwyn gwella gofal cleifion".
"Mae'r bwrdd wedi torri ei air. Addawyd gwell gwasanaeth. Mae'r gofal wedi gwaethygu, nid gwella. Mae angen iddyn nhw unioni'r cam ar frys," meddai.
Parhau mae cwynion fod nifer o gleifion yn gorfod teithio yn rhy bell i dderbyn gofal arbenigol a bod hyder staff yn y gwasanaeth wedi ei chwalu.
Galw am adolygiad
Cynhaliwyd 15 o sesiynau ymgynghori gan y CIC yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i beidio â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater - cam sydd wedi ennyn beirniadaeth.
Mae'r CIC yn nodi yn yr adroddiad fod modd i'r bwrdd iechyd adfer y gwasanaethu i fod yn un "byd enwog", fel yr oedd gynt pan yn Ysbyty Gwynedd, ond bod angen i'r bwrdd ymateb yn sydyn.
Mae'r adroddiad yn cloi gyda galwad unwaith yn rhagor gan y CIC am adolygiad annibynnol i effaith canoli'r gwasanaethau ar staff a chleifion.
Er mwyn rhwystro achos tebyg yn y dyfodol mae'r CIC wedi dweud na allent "adael i'r bwrdd iechyd wneud newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol heb ymgynghori'n ddigonol yn unol â pholisïau'r gwasanaeth iechyd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2019