'Daw'r haint yn ôl trwy lacio cyfyngiadau'n rhy gyflym'

  • Cyhoeddwyd
Dr Rob Orford
Disgrifiad o’r llun,

Dr Rob Orford sy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor SAGE sy'n cynghori Llywodraeth y DU

Bydd coronafeirws yn "dod yn ôl â dialedd" os caiff mesurau'r cyfnod clo eu llacio'n rhy gyflym, yn ôl prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd.

Dywedodd Dr Rob Orford fod angen cymryd "camau gofalus iawn."

Hefyd fe ddywedodd y bydd cyfathrebu'r cynllun yn effeithiol i'r cyhoedd yn allweddol, ac y gallai plant fod ymhlith y cyntaf i weld newidiadau.

Byddai angen i fesurau gwyliadwriaeth fod ar waith hefyd i fonitro lledaeniad y clefyd.

'Cwestiynau allweddol'

"Mae'r risg o ail a thrydedd don [Covid-19] yno'n barhaol," meddai Dr Orford.

"Dy'n ni ddim yn gwybod yn union i ba raddau mae'r haint wedi lledu - dy'n ni ddim yn gwybod chwaith a oes risg is i bobl sydd wedi bod yn sâl â coronafeirws yn barod."

"Felly mae 'na rai cwestiynau allweddol y mae'n rhaid i ni eu hateb wrth i ni symud ymlaen yn araf bach.

"Os wnewn ni daflu'r drysau yn lled agored fe ddaw'r haint yn ôl â dialedd."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn addas i siarad am lacio cyfyngiadau cyn i strategaeth wyliadwriaeth gael ei chyhoeddi, dywedodd fod gwaith ar y ddwy elfen yn digwydd "law yn llaw".

"Ry'n ni'n gweithio'n agos iawn ar lefel y DU ac yn edrych dramor ar ymdrechion rhyngwladol fel y gallwn ni ddysgu gan eraill."

Byddai profion yn dod yn "bwysicach", meddai, ond nid oedd yn "ateb i bob problem." Mae defnyddio ap ffôn clyfar i gofnodi pobl â symptomau yn cael ei dreialu ar Ynys Wyth ar hyn o bryd, ac hefyd yn cael ei ystyried ochr yn ochr â "datblygiadau technolegol" eraill.

"O ran tracio, canfod ac ynysu pobl, mae'r fethodoleg wedi'i brofi ac ry'n ni wedi'i weld yn gweithio mewn mannau eraill ar draws y byd.

"Felly wrth i ni symud i'r cam nesaf bydd y tri maes yma yn dod yn bwysicach ac mae'n allweddol hefyd ein bod ni'n eu cyfathrebu'n effeithiol."

Rôl plant

Ar yr awgrym o ail-agor ysgolion a meithrinfeydd, dywedodd Dr Orford fod mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu bod y clefyd yn cael llai o ddylanwad ar bobl ifanc.

"Mae'n debyg y gallwch chi ddod i'r casgliad mai nhw fyddai'r grŵp gorau i edrych arno i ddechrau."

Fodd bynnag, dywedodd fod llai o sicrwydd ynghylch rôl plant wrth drosglwyddo'r afiechyd.

"Rhaid i ni edrych yn ofalus ar yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud i sicrhau ein bod nid yn unig yn lleihau effaith uniongyrchol coronafeirws ar blant, ond hefyd yn meddwl am y niwed anuniongyrchol y bydd cau ysgolion yn ei gael ar eu dyfodol hefyd."

'Ffordd bell eto i fynd'

Ffynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Athro Judith Hall ei hurddo ag OBE am ei gwasanaethau i feddygaeth

Mae anesthetydd ymgynghorol blaenllaw hefyd yn rhybuddio fod angen pwyllo wrth lacio'r cyfyngiadau i "warchod bywydau".

"Mae gofyn i ni fod yn eithriadol o bwyllog oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod digon eto am y feirws yma," meddai'r Athro Judith Hall. "Mae gyda ni ffordd bell i fynd eto i fynd cyn ei drechu."

Mae'n rhybuddio rhag "bod yn rhy hunanfodlon... oherwydd mae'r raddfa heintio a nifer y cleifion sy'n cael gofal dwys yn dechrau lleihau."

Mae hi'n gobeithio y bydd pobl yn "synhwyrol" a "ddim yn rhuthro i gael partïon" pan fydd y cyfyngiadau'n dechrau llacio "oherwydd dyna'r broblem."

"Mae pobl yn dweud fod ail benllanw'n rhwym o ddigwydd, ond gadewch i ni sicrhau ail benllanw fydd mor fach â phosib."

Mae'r Athro Hall yn dadlau o blaid dilyn trywydd gwahanol i Loegr mewn ymateb i'r argyfwng gan fod y boblogaeth yn hŷn a'r wlad â natur fwy gwledig.

Mae hefyd yn rhybuddio fod trin cleifion difrifol wael yn achosi niwed seicolegol "aruthrol" i gydweithwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.