Pandemig yn creu pryder i bobl ifanc, medd mudiadau
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n helpu pobl ifanc sydd â risg o ladd eu hunain wedi dweud bod 90% o'u ymholiadau ar hyn o bryd gan bobl sy'n poeni am effaith coronafeirws ar fywydau pobl.
Dywed Papyrus fod cynnydd "cymharol fach" hefyd yn y nifer o bobl sydd wedi cysylltu â nhw.
Yn ôl pennaeth yr elusen yng Nghymru, Kate Heneghan, mae coronafeirws yn effeithio ar ein bywydau mewn sawl ffordd.
"'Dan ni'n gweld pobl yn rhannu gofidiau am golli incwm, y potensial o golli swyddi a'r pryder o golli'u cartrefi, a myfyrwyr yn poeni am arholiadau ac ansicrwydd am eu dyfodol academaidd," meddai.
"Er ein bod yn gwybod bod nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd, mae'n bwysig cofio bod hunanladdiad yn weithred hynod gymhleth.
"Mae cyfuniad o bethau'n cyfrannu at risg person o hunanladdiad - mae pur anaml o ganlyniad un ffactor unigol."
'Pwysig cadw cysylltiad'
Mae elusen y Samariaid yn dweud bod un o bob tri galwad maen nhw'n ei dderbyn yn ymwneud â coronafeirws.
"Does dim amheuaeth bod yr adeg ansicr a heriol hyn yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl a lles," meddai Sarah Stone, cyfarwyddwr gweithredol y Samariaid yng Nghymru.
"Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad gyda'r bobl 'da ni'n gofalu amdanyn nhw, a'r rhai hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn ôl People and Work, elusen cymunedol yn y Rhondda sy'n gweithio gyda phobl ifanc, mae o leiaf tri dyn ifanc wedi lladd eu hunain ers i'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu ddod i rym.
Ond ychwanegodd yr elusen nad y cyfyngiadau yn unig oedd wedi cymell yr unigolion hyn i ladd eu hunain. Maen nhw eisiau sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bobl, ac yn enwedig dynion ifanc.
'Peidiwch ag anobeithio'
Mae James Watts-Rees o'r elusen wedi bod yn gweithio gyda dynion ifanc yn y Rhondda ers dwy flynedd.
Mae'n dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw'n dangos gwendid os nad ydyn nhw'n gallu delio a sefyllfaoedd anodd.
"'Dan ni i gyd yn y sefyllfa yma gyda'n gilydd," meddai James. "Os 'dach chi'n poeni am eich dyfodol ac yn teimlo bod dim gobaith, peidiwch ag anobeithio.
"Ffoniwch fi, ffoniwch y cyngor, ffoniwch y Samariaid, ffoniwch yr eglwys. Mae pobl yn barod i helpu. Dyna pam ry'n ni yma."
Mae ficer yn ardal Trelái o Gaerdydd wedi cynnal o leiaf pedwar angladd ar gyfer pobl sydd wedi lladd eu hunain yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Creda Jan Gould bod mwyafrif y bobl hynny â materion iechyd meddwl yn barod, ond mae'n dweud bod cysylltu â helpu eraill yn bwysicach nag erioed.
"'Dan ni'n ceisio gwneud popeth allwn ni i aros mewn cysylltiad," meddai.
"Mae'r eglwys wedi cynnal gwasanaethau ar-lein a 'dwi wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â'r plwyfolion dros y ffôn."
Os ydych chi'n poeni am bwnc y stori yma, gallwch ffonio'r Samariaid ar eu llinell ffôn iaith Gymraeg ar 0808 164 0123.
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar wefan arbennig BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020