Ras yr Iaith: Codi arian at weithwyr iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ras yr Iaith 2018Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ras yr Iaith 2018

Fel arfer mae Ras yr Iaith yn codi arian er budd yr iaith Gymraeg, ond eleni codi arian at elusennau iechyd yng Nghymru yw'r nod.

Mae ymgyrch Ras123 yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn barod i redeg milltir er mwyn codi arian i elusennau iechyd yng Nghymru yn ystod mis Mai.

"Ein ffordd ni o ymateb yn gadarnhaol ac i ddangos ein diolch, a hefyd i drio casglu arian at elusennau'n byrddau iechyd yw i gynnal ras 123 drwy gydol mis Mai," meddai Heledd ap Gwynfor o Mentrau Iaith Cymru ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Mae croeso i bob un wneud elfen fach o'r ras hon sydd yn bwriadu cwmpasu arfordir Cymru a Chlawdd Offa."

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cymryd fideos neu luniau o'u hunain yn gwneud yr her, ac yn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

"Hyd yn oed os y'n ni'n gwneud ras bach ein hunain, yn ein gardd gefn, neu lan a lawr grisiau a bo ni'n neud milltir ein hunain, neu fel teulu," medd Heledd, "ac ry'n ni'n gofyn i bobl ddangos y lluniau a tagio'u mentrau iaith lleol."

Ras rithiol

Mae'r ymgyrch Ras123 yn ddigwyddiad cenedlaethol sy'n digwydd bob dwy flynedd i godi arian at brosiectau cymunedol a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Roedd Ras yr Iaith 2020 i fod i gael ei chynnal ym mis Gorffennaf eleni, ond mae wedi ei gohirio tan 2021 yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Er hyn, mae Ras yr Iaith ar y cyd â'r Mentrau Iaith dros Gymru yn bwriadu cynnal ras rithiol er mwyn codi arian tuag at waith gweithwyr y rheng flaen yn ystod yr argyfwng presennol.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd pobl yn cymryd rhan yn yr her i redeg yn lleol, gan gyfrannu at ymdrech genedlaethol i redeg o gwmpas Cymru gynifer o weithiau ag sy'n bosibl o fewn mis.

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ras yr Iaith ei sefydlu yn 2014

Bydd gofyn i'r rhai sy'n cymryd rhan enwebu dau berson arall i gymryd rhan a chyfrannu £5 neu fwy.

Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng elusennau'r byrddau iechyd yng Nghymru i fynd tuag at anghenion iechyd cymunedol yn eu hardaloedd.

"Er y siom o orfod gohirio Ras yr Iaith ar ei ffurf arferol, roeddem yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i ni godi arian rywsut i gefnogi'r ymdrech yn erbyn Coronafeirws," medd Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, a threfnydd y Ras.

"Penderfynom drefnu ras rithiol, a rydym yn annog pawb o bob oed i gymryd rhan drwy redeg, loncian neu gerdded un milltir, tu fewn neu tu allan."