Ann Clwyd: Pobl dros 70 oed wedi cael eu 'cyfyngu ddigon'

  • Cyhoeddwyd
ann clwyd

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Ann Clwyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â pharhau i orfodi'r henoed yn unig i hunan ynysu.

Yn ôl Ann Clwyd, sy'n 83 oed, mae pobl dros 70 wedi cael eu "cyfyngu ddigon" a byddai'n "hollol annheg" i lacio cyfyngiadau ar weddill y boblogaeth ac nid y nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog pawb sydd dros 70 oed i aros adref a hunan ynysu, gan eu bod nhw yn y categori risg uchel.

Ond yn ôl Ms Clwyd, oedd yn AS dros Gwm Cynon ers 1984 tan iddi ymddeol ym mis Rhagfyr y llynedd, mae aros adref yn "anodd ac unig".

"Dwi 'di ffeindio fo braidd yn od, braidd yn ddigalon ar adegau," meddai. "Ac oni bai bod nith a nai i mi yn dod yma mi fysa'i reit anodd.

"Ond maen nhw'n mynd i siopa i mi a chael bwyd felly dwi'n lwcus o'r safbwynt yna."

'Wedi cael niwmonia'

Yn ôl Ms Clwyd, mae pobl yn dechrau dioddef o iselder os nad ydyn nhw'n gallu gweld diwedd i'r cyfyngiadau.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod pryd y byddan nhw'n gallu gwneud pethau cyffredin unwaith eto," meddai.

"Dwi'n meddwl bod ni wedi cael ein cyfyngu ddigon i ddweud y gwir yn barod.

"Dwi'n meddwl y bysai'n hollol annheg penderfynu bod pawb dros eu 70 mewn peryg neu'n beryg i rywun arall."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw gyfiawnhad am wahardd drwy oedran yn unig," medd Helena Herklots

Mae Ms Clwyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn deg i bobl hŷn sydd ddim â phroblemau iechyd.

"Ces i niwmonia y llynedd, roeddwn i yn yr uned gofal dwys felly rydw i'n un o'r rheiny sydd yn y grŵp risg uchel," meddai.

"Ond mae yna bobl eraill sydd heb gael problemau anadlu neu broblemau gyda'r galon ac maen nhw'n ddigon iach.

"Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd gwahaniaethu ac rwy'n credu bod rhaid gadael eitha' tipyn i synnwyr cyffredin."

Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, mae nifer wedi cysylltu â hi gyda'r un pryderon.

"Pan dwi'n siarad â phobl hŷn, mae yna deimlad cryf iawn bod pawb sydd dros 70 wedi cael eu taflu i mewn i un grŵp," meddai.

"Mae yna amrywiaeth enfawr ymysg pobl dros 70. Mae nifer yn cyfrannu llawer iawn i'n heconomi, o wirfoddoli i ofalu dros blant."

'Dim cyfiawnhad'

Mae hi'n dweud y dylai pobl hŷn fod yn rhan o unrhyw lacio o'r cyfyngiadau ynghyd â phawb arall.

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw gyfiawnhad am wahardd drwy oedran yn unig.

"Rydyn ni'n gwybod bod oedran yn ffactor risg, ond mae yna hefyd ffactorau eraill... mae yna linc gyda gordewdra er enghraifft, felly mae angen i'r cyfathrebu fod yn glir iawn ynglŷn â beth yw'r ffactorau risg."

Dywedodd Ms Herklots ei bod hi hefyd yn poeni'n arw dros yr effaith y mae hunan ynysu yn ei gael ar iechyd meddwl pobl hŷn.

Ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, bod y feirws yn targedu pobl hŷn ac felly roedd yn iawn i'w cynghori i gymryd camau ychwanegol i gadw'n ddiogel.

Dywedodd: "Dydyn ni ddim wedi rhoi'r cyngor yna i bobl o'r oedran hynny er mwyn gwneud eu bywydau'n anoddach ond achos rydyn ni'n gwybod bod yna risg mwyach i'r boblogaeth, ac mae'n gwneud synnwyr i bobl dros 70 i gymryd camau ychwanegol i gadw'n ddiogel."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyngor ar bellhau cymdeithasol yr un peth i bawb. Mae pobl hŷn mewn mwy o berygl o salwch difrifol o ganlyniad i coronafeirws ac rydym yn eu cynghori i fod yn arbennig o ofalus wrth ddilyn y rheolau."