Coronafeirws: Rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
O ddydd Llun bydd modd i bobl Cymru ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd fel rhan o fesurau i lacio mymryn ar gyfyngiadau cymdeithasol.
Bydd hawl gan ganolfannau garddio agor hefyd, os oes modd glynu wrth bellter o ddwy fetr rhwng pobl.
Fe gyhoeddodd Boris Johnson gynlluniau pellach i lacio rheolau yn Lloegr o ddydd Mercher ymlaen, ond mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi pwysleisio nad yw'r cyngor wedi newid i Gymru.
Yn ôl Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, mae'r gwahaniaethau yn creu amwysedd sy'n ei gwneud yn anodd i'r heddlu i'w gweithredu.
Mewn datganiad fideo dywedodd Mr Drakeford: "Os oes angen i chi adael y cartref i weithio, ymarfer corff, neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn wyliadwrus.
"Nid yw coronafeirws wedi diflannu. Bydd y ffordd yr ydym yn ymddwyn dros yr wythnosau i ddod yn parhau i gael effaith dwys ar ein gwasanaeth iechyd a'n gallu i achub bywydau.
"Os ydych yn mentro allan, arhoswch yn lleol ac arhoswch yn ddiogel."
Ychwanegodd bod y fframwaith i ddod â Chymru allan o'r pandemig gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl yr un fath - ac nad oes bwriad i ail-agor ysgolion yn llawn erbyn 1 Mehefin.
Cymru v Lloegr
O ddydd Mercher ymlaen bydd hawl gan bobl sy'n byw yn Lloegr yrru i fannau eraill. Yng Nghymru y neges yw 'arhoswch yn lleol'.
Yn Lloegr, bydd hawl gan bobl ymgymryd â gweithgareddau hamdden a chwaraeon, gan gynnwys eistedd yn yr haul yn eu parc lleol. Fydd hynny ddim yn bosibl yng Nghymru, lle mai dim ond ymarfer corff sy'n cael eu ganiatáu o hyd, nid chwaraeon.
Yn Lloegr, y bwriad yw ailagor ysgolion erbyn mis Mehefin. Yng Nghymru, does dim disgwyl i ysgolion agor ar 1 Mehefin, ond dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi diystyru'r posibilrwydd o ailagor yn hwyrach yn y mis. Mae'r llywodraeth wedi addo o leiaf dair wythnos o rybudd cyn ailagor ysgolion.
Yn Lloegr, mae pawb yn cael eu hannog i ddychwelyd i'r gwaith, hyd yn oed os na allan nhw weithio o adref. Nid dyna'r neges yng Nghymru.
Bydd System Rhybudd Covid i ddilyn trywydd y feirws yn cael ei gyflwyno yn Lloegr. Does dim sôn am system o'r fath yng Nghymru eto.
Yn Lloegr, bydd rhannau o'r diwydiant lletygarwch a rhagor o siopau yn agor o fis Mehefin ymlaen, yn dibynnu ar ddata. Yng Nghymru, dim ond cynlluniau i ailagor canolfannau garddio a rhai llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu sydd wedi'u cadarnhau hyd yma.
Mae cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter, wedi galw am fwy o eglurder gan Boris Johnson.
"Yr hyn ry'n ni ei angen wrth y Prif Weinidog a'r Llywodraeth nawr, yw neges glir a diamwys ynglŷn â beth yn union sy'n cael ei ofyn gan y cyhoedd, fel y gall fy nghydweithwyr wneud eu gorau i'w plismona," meddai.
"Bydd plismyn yn gwneud eu gorau, ond dylai eu gwaith fod yn seiliedig ar ganllawiau clir, nid rheolau amwys sy'n agored i'w dadansoddi, oherwydd mae hynny yn annheg ar swyddogion sydd â swydd heriol yn barod."
Ymateb gwrthbleidiau
Mae gwrthbleidiau wedi ymateb yn chwyrn i gynlluniau Boris Johnson, gyda Phlaid Cymru yn ei gyhuddo o gyhoeddi neges 'ddryslyd a pheryglus'.
"Mae Boris Johnson yn honni mai fe yw Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol gyfan, ond mae wedi ymddwyn fel Prif Weinidog Lloegr, ac nid un cyfrifol chwaith," meddai Adam Price wedi i Mr Johnson gyflwyno ei araith deledu.
"Mae ei neges yn ddryslyd a pheryglus. Allwch chi ddim bod yn wyliadwrus am rywbeth na allwch chi weld."
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, bod neges y Prif Weinidog heb "eglurder na chonsensws".
"Mae'r datganiad yn codi cynifer o gwestiynau ag y mae yn eu hateb," dywedodd wrth y BBC.
"Ry'n ni'n gweld bod Lloegr, yr Alban a Chymru yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol, felly mae 'na fwlch i'r llywodraeth lenwi."
Newid slogan
Y slogan newydd yn Lloegr yw "aros yn wyliadwrus, rheoli'r feirws ac achub bywydau".
Yng Nghymru, yr un yw'r slogan sef "aros adref, gwarchod y GIG, achub bywydau".
Yn gynharach ddydd Sul fe ddywedodd Vaughan Gething nad yw llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i'r slogan newydd.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ei bod hi o'r farn y dylai Mr Johnson fod wedi pwysleisio mai dim ond i Loegr y byddai ei araith yn berthnasol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae disgwyl manylion cynllun strategol i gael eu cyhoeddi heddiw.
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Cerddi i roi cysur mewn cyfnod tywyll
Fe wnaeth Mr Johnson rybuddio yn erbyn cael gwared â'r cyfyngiadau gan ddweud: "Mae'n dibynnu ar bob un ohonom - y wlad gyfan [Lloegr] i ddilyn y cyngor, i lynu at bellhau cymdeithasol a chadw'r raddfa R yn isel."
Dywedodd hefyd ei fod yn awyddus i atal ail don o achosion gan y byddai hynny yn llethu'r GIG. Mynnodd hefyd y byddai unrhyw newidiadau yn Lloegr yn cael eu monitro ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Ond mae pryder eisoes y gallai'r gwahaniaethau rhwng y gwledydd arwain at ddryswch a gwaith ychwanegol i swyddogion fydd yn gorfod egluro'r sefyllfa.
Mae cyfreithwyr hefyd wedi honni y gallai'r gwahaniaeth rhwng canllawiau Cymru a Lloegr arwain at ddryswch yn y llysoedd, gan eu bod yn gweithredu o fewn yr un system gyfreithiol.
Cam nesaf Cymru
"Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n dod gyntaf" yw neges Mark Drakeford.
Dywedodd: "Byddwn yn parhau i wneud newidiadau sy'n iawn i Gymru, gan ddefnyddio gwybodaeth a chyngor arbenigol."
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi egluro nad yw'r rheolau yn caniatáu i bobl yng Nghymru wneud cynlluniau i gyfarfod pobl eraill yn gyhoeddus.
Daeth hynny wedi i Mr Drakeford awgrymu ddydd Llun fod y canllawiau newydd yn Lloegr sy'n gadael i rywun gyfarfod un person arall o du allan i'w cartref eu hunain eisoes yn bodoli yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau fod hynny ddim ond yn wir ar gyfer pobl sy'n gadael y tŷ am reswm teilwng, ac yn stopio i sgwrsio gyda rhywun tra'u bod nhw allan.
"Y broblem yw os 'dych chi wedi trefnu i'w cyfarfod," meddai llefarydd wrth BBC Cymru. "Y gwir ydy na ddylai grwpiau o bobl drefnu cyfarfod."
Bydd yr arolwg nesaf o'r cyfyngiadau yng Nghymru yn cael ei gynnal ymhen tair wythnos ar 28 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020