Enwi dyn fu farw wedi ymosodiad gan ychen yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
Gwehelog
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad masnachol ym mhentref Gwehelog ddydd Mawrth

Mae enw dyn 57 oed fu farw ar ôl i byfflo dŵr ymosod arno yn Sir Fynwy wedi cael ei rannu yn lleol.

Yn ôl pobl leol, Ralph Jump oedd ei enw, ac mae dyn 19 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad yng Ngwehelog ger Brynbuga am 14:50 ddydd Mawrth.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag "anafiadau difrifol iawn."

Fe gafodd menyw 22 oed "anaf difrifol i'w choes," ac fe gafodd hithau ei chludo i'r ysbyty.

Cadarnhaodd yr heddlu hefyd bod yr anifail wedi cael ei ddifa.

'Trychineb ofnadwy'

Roedd Mr Jump, oedd yn cael eu nabod fel Jon, yn gweithio fel rheolwr gyda chwmni gwresogi yng Nghil-y-Coed.

Roedd yntau a'i deulu wedi sefydlu busnes cynhyrchu sebon ar y fferm yng Ngwehelog, ac yn rhentu'r tir gan Ystâd Parc Pont-y-pŵl.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ystâd fod yn achos yn "drychineb ofnadwy" a'u bod yn cydymdeimlo â'r teulu.

Ychwanegodd cymydog fod "un o'r ych wedi dianc o'i loc ac ymosod pan wnaethon nhw geisio'i hel yn ôl i mewn".