Galw ar Microsoft i ganiatáu cyfieithu ar y pryd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar gwmni cyfrifiadurol Microsoft i newid eu system cyfarfodydd, Microsoft Teams er mwyn sicrhau fod modd cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd fel rhan o'r drefn.
Ar hyn o bryd mae trefn y feddalwedd yn golygu nad oes modd cael mwy nag un trac llais ar un cyfrif, sy'n nadu cwmnïau rhag cynnig gwasanaeth cyfieithu.
Bellach mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi ysgrifennu llythyr at y sefydliad yn galw arnynt i addasu'r drefn ac mae deiseb hefyd wedi'i harwyddo gan bron i 2,000 o bobl.
Yn ôl llefarydd ar ran Microsoft maen nhw'n edrych ar ddatblygu "system o'r fath" ac eisoes yn cynnig "nifer o wasanaethau yn y Gymraeg".
Yn ôl un cwmni cyfieithu mae'n bwysig newid y system i sicrhau nad yw'r Gymraeg "ar ei cholled".
Fel arfer byddai cwmni cyfieithu Cymen o Gaernarfon yn edrych ymlaen at un o'u cyfnodau prysuraf yn y calendr.
Gyda digwyddiadau mawr fel Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn galw am eu gwasanaethau roedd hi'n addo fod yn gyfnod digon prysur.
Ond bellach mae hanner o'u 24 o staff ar gynllun saib o'r gwaith Llywodraeth y DU ac anawsterau technolegol fel yr un yma yn gwneud eu gwaith yn anoddach fyth.
'Patrymau wedi newid yn ofnadwy'
"Yn naturiol y dyddiau hyn mae rhaid defnyddio cyswllt fideo i gynnal cyfarfodydd," meddai Aled Jones, un o gyfarwyddwr Cymen.
"Ond os oes rhywun eisiau cyfieithu ar y pryd, dyw Microsoft Teams ddim yn galluogi i hyn ddigwydd."
Tra bod gwefannau fel Zoom a Skype yn cynnig y cyfle i gyfieithwyr weithio ochr yn ochr â chyfarfodydd, mae 'na alw bellach i un o fawrion y byd technoleg i ddilyn eu hesiampl.
"Fel mae pethau wedi symud ers mis Mawrth, mae patrymau pobl wedi newid yn ofnadwy - mwy yn y ddau fis diwethaf na sydd wedi digwydd yn y 10 mlynedd ddiwethaf," meddai Mr Jones.
"Mae'n bwysig bod y Gymraeg yn gallu cadw lan gyda'r datblygiadau hynny neu byddwn ar ein colled."
Tra bod nifer o wasanaethau Microsoft ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, mae arbenigwyr yn gadarn fod angen datblygu systemau'r cwmni nid yn unig ar gyfer y cyfnod hwn ond at y dyfodol hefyd.
"Dydy hyn ddim yn fater dim ond ar gyfer y cyfnod yma," meddai pennaeth Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Dr Llion Jones.
"'Da ni gyd yn sylweddol - wrth i ni gyd symud at gyfnod newydd ar ôl y pandemig mi fydd arferion gweithio pobl yn newid, felly mae angen cael y nodwedd yma ac mae o'n rhywbeth hirdymor hefyd," meddai.
"Mae arferion ieithyddol pobl yn gallu newid dros nos os nad yw'r dechnoleg yna i'w cefnogi."
Gyda bron i 2,000 o bobl wedi cefnogi deiseb yn galw am y newid, mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ategu at y galw gyda'r cynghorydd Nia Jeffreys, sy'n arwain ar faterion democratiaeth ar Gabinet Cyngor Gwynedd, yn dweud eu bod nhw'n "gyfan gwbl gefnogol i'r ymgyrch i berswadio Microsoft i gyflwyno darpariaeth cyfieithu ar y pryd fel mater o frys".
Wrth ymateb fe ddywedodd Microsoft eu bod bellach yn cynnig meddalwedd mewn 53 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a'u bod yn gweithio at greu system sy'n "galluogi cyfieithu ar y pryd i weithio".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020