Cofio un o athrawon ysgol trychineb Aberfan
- Cyhoeddwyd
Mae athrawes a fu'n gyfrifol am achub rhai o ddisgyblion Ysgol Pant-glas, ddiwedd Hydref 1966, wedi marw yn 86 oed.
Roedd Rennie Williams o Ferthyr wedi cael ei chanmol am ei dewrder rhyfeddol yn Aberfan ar 21 Hydref 1966.
Roedd hi newydd gofrestru ei dosbarth pan glywodd dwrw anferth. Fe wnaeth y trychineb ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant.
Fe wnaeth Ms Williams achub nifer o'r plant oedd wedi'u caethiwo yn neuadd yr ysgol.
Bu farw ddydd Mercher wedi iddi fod yn cael triniaeth ar gyfer canser y gwaed.
Roedd Ms Williams o Benydarren, yn un o bedwar athro oedd wedi goroesi'r trychineb - hi, Mair Morgan, Hettie Williams a Howell Williams.
Fe barhaodd Ms Williams i ddysgu tan ei hymddeoliad.
Roedd Jeff Edwards yn wyth oed pan gafodd ei achub o'r rwbel.
'Menyw hyfryd'
Wrth gael ei holi gan y BBC dywedodd Mr Edwards fod Ms Williams yn "fenyw hyfryd - llawn gofal a theimlad".
"Fe achubodd hi nifer o blant ac fe arhosodd mewn cysylltiad â nhw."
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn drist gwybod mai ond nifer fechan o bobl fyddai'n gallu mynd i'r angladd oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
"Rwy'n drist," ychwanegodd Mr Edwards, "rwy'n siŵr y byddai cannoedd am fynd i'r angladd. Rwy'n gobeithio y bydd gwasanaeth coffa rhywdro eto iddi."
Wedi cyngerdd coffa i nodi 50 mlynedd ers y trychineb, dywedodd Ms Williams bod y perfformiad wedi ei chyffwrdd yn fawr.
Mae Ms Williams yn gadael mab Paul, wyrion a gorwyrion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2016