Adam Price: Neges Boris Johnson yn 'ddryslyd' a 'byrbwyll'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price bod angen atal unrhyw farwolaethau y mae modd eu hosgoi

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod cyhoeddiad Boris Johnson yn un "byrbwyll", ac nad yw pedair gwlad y DU yn cyd-weld ar y cyfyngiadau bellach.

Dywedodd Adam Price bod neges Llywodraeth y DU o fod yn wyliadwrus yn hytrach nac aros adref yn "ddryslyd", ac yn "tanseilio" ymdrechion hyd yn hyn i daclo'r haint.

Yn ei araith nos Sul dywedodd Prif Weinidog y DU na fydd y cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr yn dod i ben yn fuan ond mae e wedi llacio rywfaint ar y mesurau.

O ddydd Mercher ymlaen bydd hawl gan bobl sy'n byw yn Lloegr yrru i fannau eraill.

Yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ddydd Gwener, bydd hawl gan bobl yn Lloegr hefyd eistedd yn yr haul yn eu parc lleol.

Bydd modd ymgymryd â chwaraeon ond dim ond ymhlith y rhai sy'n byw yn yr un cartref.

"Dyma'r penderfyniad anghywir i Loegr, ond fe fydd hefyd yn anfon negeseuon cymysg," meddai Mr Price.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond yn gyfrifol am yr ymateb i coronafeirws yn Lloegr. Tu allan i Loegr, y llywodraethau datganoledig sy'n rheoli'r ymateb.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau "bychan" i'r cyfyngiadau ddydd Gwener, fydd yn dod i rym ddydd Llun.

Dywedodd Boris Johnson hefyd ei fod yn hyderus y bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol erbyn Mehefin fel bod plant sy'n sefyll arholiadau flwyddyn nesaf yn derbyn rhywfaint o wersi yn y flwyddyn ysgol bresennol - mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud na fydd ysgolion yn ailagor yn llawn erbyn 1 Mehefin.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y diwydiant lletygarwch ar ei draed erbyn diwedd Gorffennaf.

'Cynllun fel un Seland Newydd'

Mae Mr Price eisiau i Gymru fabwysiadu cynllun tebyg i un Seland Newydd i leihau achosion ac atal unrhyw farwolaethau y mae modd eu hosgoi.

Mae cynllun saith-pwynt y blaid yn cynnwys aros yn y cyfnod clo a chael y gyfradd drosglwyddo'n is na 0.5.

Mae Seland Newydd yn dweud ei fod wedi llwyddo i atal y feirws rhag trosglwyddo yn y gymuned ar ôl cyflwyno mesurau llym ar deithio a chymdeithasu, a chynnal strategaeth ar brofi a thracio cysylltiadau pobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Seland Newydd yn dweud ei fod wedi llwyddo i atal y feirws rhag trosglwyddo yn y gymuned

Mae Mr Price yn annog Cymru i fabwysiadu strategaeth debyg, gan ddweud bod cyfradd trosglwyddo Covid-19 yma yn "drawiadol o uchel".

Dywedodd bod angen lledaenu'r neges i aros adref yn "glir a chryf".

"Dyma'r unig ffordd i achub bywydau," meddai. "Wrth barchu'r cyfnod clo fe fyddwn yn adfer yn gynt."

Mae cynllun Plaid Cymru'n cynnwys:

  • Cadw'r cyfnod clo mewn lle, gan y byddai gadael yn rhy gynnar yn "wael i Gymru";

  • Caniatáu i Gymru atal pobl rhag teithio neu symud o le i le;

  • Sicrhau bod y gyfradd drosglwyddo yn is na 0.5;

  • Cael cynllun profi a thracio cysylltiadau pobl mewn lle erbyn diwedd y mis;

  • Strategaeth benodol i atal nifer yr achosion mewn cartrefi gofal, a phrofi pob cartref;

  • Cyflwyno cynllun mwy lleol a hyblyg unwaith y bydd pethau'n gwella;

  • Cadw'r lefel o gymorth ariannol ar ei lefel bresennol yn y gwledydd sydd ei angen.