Vaughan Gething yn gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Vaughan Gething nad yw'r neges wedi newid yng Nghymru
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU, fydd ddim bellach yn defnyddio'r geiriau "aros adref".
Nos Sul mae disgwyl i Boris Johnson ddatgelu slogan newydd, sy'n dweud wrth y cyhoedd i "aros yn wyliadwrus, rheoli'r feirws, achub bywydau".
Bydd hynny'n cael ei ddefnyddio yn lle'r hen slogan, sef "aros adref, gwarchod y GIG, achub bywydau".
Dywedodd Vaughan Gething nad ydy llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i'r slogan newydd.

Bydd Boris Johnson yn cyhoeddi newidiadau i'r cyfyngiadau yn Lloegr nos Sul
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am yr ymateb i coronafeirws yn Lloegr yn unig.
Tu allan i Loegr, y llywodraethau datganoledig sy'n rheoli'r ymateb.
Dywedodd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon ei bod dod i wybod am y slogan newydd mewn papurau newydd fore Sul.
Neges Cymru heb newid
Dywedodd aelod cabinet Llywodraeth y DU, Robert Jenrick ddydd Sul mai "diweddaru ac ehangu" y neges i'r cyhoedd yw bwriad y slogan newydd.
Ychwanegodd bod "aros yn wyliadwrus yn golygu aros gartref cymaint â phosib".
Fe wnaeth Mr Gething bwysleisio mai neges i Loegr yn unig ydy hyn, gan ddweud nad yw neges Llywodraeth Cymru wedi newid.

Dywedodd Mark Drakeford y bydd mesurau'n cael eu llacio ar wahanol adegau mewn gwahanol wledydd
Mewn cyfweliad ddydd Sul dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y dylai pobl adael gartref ar gyfer ymarfer corff neu deithio allweddol yn unig.
Ddydd Gwener fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau "bychan" i'r cyfyngiadau, fydd yn dod i rym ddydd Llun.
"Os nad ydych chi'n gwneud un o'r pethau cyfyngedig sy'n rhoi caniatâd i chi fynd allan, dylech chi aros adref," meddai Mr Drakeford.
Ychwanegodd ei fod yn parhau i ffafrio "symud i'r un cyfeiriad â gweddill y DU", ond y gallai "union amseriad mesurau fod yn wahanol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020