Ateb y Galw: Yr awdur Dyfan Lewis

  • Cyhoeddwyd
Dyfan LewisFfynhonnell y llun, Dyfan Lewis

Yr awdur Dyfan Lewis sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Beth Celyn yr wythnos diwethaf.

Bydd llyfr Dyfan, Amser Mynd, yn cael ei gyhoeddi yn yr haf - sydd yn gasgliad o ysgrifau yn seiliedig ar gyfnod yn teithio yn ne-ddwyrain Asia.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'n anodd gwybod beth sy'n atgof a beth sydd wedi'i greu neu'i freuddwydio erbyn hyn. Mae fy mrawd yn cofio pethau o'n plentyndod ni'n glir, dw i ddim go iawn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Padmé o Star Wars.

Ffynhonnell y llun, Star Wars
Disgrifiad o’r llun,

Padmé, oedd yn cael ei actio gan Natalie Portman yn y ffilmiau Star Wars

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod o bethau bach twp sy'n neidio arna i'n annisgwyl tra mod i'n trio cysgu. Un peth nes i ychydig o fisoedd yn ôl - gweld cyn-ddarlithydd yn y theatr a chodi llaw arno cyn sylwi mai dweud helô wrth rywun y tu ôl i mi oedd e. Fyse'n iawn heblaw i'r peth ddigwydd dro o'r blaen gyda'r un boi a nes i ddim dysgu fy ngwers.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwylio pennod olaf Midnight Gospel, rhaglen ryfedd ar Netflix gan Duncan Trussel a Pendleton Ward.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwarae gormod o fy Nintendo Switch.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n siŵr mai mynydd Gelliwastad yw fy hoff le yng Nghymru. Lle hudol i mi'n bersonol gan mai dyma'r mynydd y magwyd innau oddi tano. Dyw e ddim yn fynydd fel bysai nifer o Gymry'n dychmygu mynydd, nid yw'n dal iawn, ond mae ganddo hynodrwydd arall.

Mae bron â bod yn union yng nghanol de Cymru, ac yn teimlo fel dy fod di'n gallu gweld de Cymru i gyd o'r copa. Rwyt ti'n bendant yn gallu gweld rywbeth sy'n cynrhychioli pob rhan o dde Cymru yn fy nychymyg i 'ta beth - Abertawe ddinesig, y môr, Cymru ddiwydiannol ym Mhort Talbot, a'r amaethyddol gyda chaeau ffermydd Felindre. Mae hyd yn oed modd gweld Pen y Fan ar ddiwrnod clir.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

'Nath fy ffrind i George gynnal parti mawr yn ei ardd gefn ddiwedd haf 2016 oedd yn arbennig. Mae lluniau ohona i rywle'n mwynhau gyda gwên fowr dwp ar fy wyneb.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Mwlsyn hipi-dipi.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Mae hwn yn newid yn gyson. Ar hyn o bryd, Lanark gan Alasdair Gray sy'n mynd â hi. Mae wedi plygu fy nghanfyddiad i o'r hyn sy'n bosib ei wneud o fewn ffuglen. Yr hyn sy'n dod ar draws fwyaf yw pa mor uchelgeisiol ydy hi o bersbectif Albanaidd, digon i wneud rhywun yn eiddigeddus nad oes rhywbeth cyffelyb i'w gael am Gymru. Mae'n ddigon posib nad oes dim byd cyffelyb i'w gael am unrhyw le arall.

Dw i'n meddwl pe bai Alisdair Gray yn sgwennu am ddinas heblaw am Glasgow mi fysai'n cael ei weld fel un o Awduron Mawr yr iaith Saesneg heb unrhyw amheuaeth. Dw i'n meddwl hynny'n barod wrth reswm.

Fy hoff ffilm yw The Muppet Christmas Carol.

Ffynhonnell y llun, The Muppet Christmas Carol
Disgrifiad o’r llun,

The Muppet Christmas Carol - ffilm swrreal ble mae Michael Caine yn actio Ebenezer Scrooge, ochr-yn-ochr â phypedau blewog

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Faswn i'n hoffi cael botel neu ddwy o win Pant Teg, y gwin roedd fy nhaid arfer ei gynhyrchu, a'u rhannu nhw gydag ef a Nain a Mamgu a Tadcu er mwyn cael y profiad o fod ar y sesh gyda nhw.

Beth yw dy hoff gân?

Anodd dweud o ran hoff gân, ond dw i'n cofio gwrando ar Starman David Bowie un tro yn y car pan oeddwn i'n fach, a daeth y lyric "let the children boogie" ymlaen a gwnaeth rywbeth oleuo yn fy mhen i - bod Bowie'n rhoi caniatâd i fi bŵgio. Dyna'r tro cyntaf i fi gofio cerddoriaeth yn effeithio arna i mewn ffordd mor ysgubol.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Rhywbeth syml fyddai'r cwrs cyntaf; bara da gydag olew olewydd a finegr balsamig.

Prif gwrs - dw i am blygu'r rheolau ychydig a chael tapas, gydag amrywiaeth o brydau a thameidiau bach i fwyta a rhannu. Pulpo, patatas bravas, escalivada ac yn y blaen.

Pwdin - Tarte au Citron bob tro.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Yr unig fwyd dw i'n gwrthod ei fwyta yw Jaffa Cakes.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dw i'n casáu gwneud cynlluniau'n rhy bell i ffwrdd o'r diwrnod, a dw i'n gobeithio bod y diwrnod hwnnw'n ddigon pell i ffwrdd. 'Na'i ddewis ar y dydd siŵr o fod. Rhywbeth yn ymwneud â bwyd mae'n debyg fydd e.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dw i ddim wir eisiau bod fel neb arall. Fyse Rhys Meirion yn ddiddorol efallai, i weld sut brofiad yw hwnna.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i ti ganu gyda llawer o gorau os wyt ti am fod yn Rhys Meirion, Dyfan

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Steffan Dafydd

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw