Awdures boblogaidd yn creu llyfrgell yng ngwaelod yr ardd

  • Cyhoeddwyd
Clare Mackintosh
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdures Clare Mackintosh a'i 'llyfrgell'

Gyda'r pandemig coronafeirws yn golygu bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn dal ar gau, mae awdures boblogaidd wedi creu llyfrgell answyddogol yng ngwaelod ei gardd.

Mae nofelau Clare Mackintosh wedi gwerthu dros 2m o gopïau, ond ers tua dwy flynedd mae hi wedi bod yn rhannu rhai o'r llyfrau o'r llyfrgell helaeth bersonol i'w chymdogion.

Bocs pren yng ngwaelod ei gardd ydi cartre'r llyfrgell, ac erbyn hyn mae'r gwasanaeth wedi ehangu i gynnwys llyfrau plant hefyd.

Ac nid dyna'r cyfan sy'n cael ei adael yma.

Mae pobl yn gadael deunyddiau ar gyfer gwneud offer diogelwch PPE hefyd yn ogystal â bwyd i'w rannu yn yr ardal.

Mae pobl yn dychwelyd y llyfrau ar ôl eu darllen, ac yn ychwanegu rhai eraill eu hunain hefyd.

Ond mae Clare yn mynnu fod pawb yn glynu at y rheolau diogelwch a glendid - dewis llyfrau wrth fynd i'r siop ar gyfer nwyddau hanfodol neu wrth fynd allan i wneud ymarfer corff.

Mae hylif di-heintio wrth law hefyd ar gyfer y benthycwyr.

Dywedodd Clare wrth BBC Cymru Fyw: "Mae gen i lawer o lyfrau - casgliad mawr - a dwi'n caru rhannu fy llyfrau efo fy ffrindiau.

"Ac ro'n i'n meddwl.. be' am gael bocs neu gwpwrdd tu allan i'r tŷ a'i lenwi efo llyfrau i rannu efo'r cyhoedd, pobl Y Bala."