Babi tri diwrnod oed yn marw wedi i'w fam gael Covid-19
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r bachgen yn Ysbyty Singleton
Mae babi tri diwrnod oed wedi marw yn Ysbyty Singleton, Abertawe wedi i'w fam gael prawf Covid-19 positif.
Clywodd gwrandawiad cychwynnol yn Llys Crwner Pontypridd fod Coolio Carl Justin John Morgan â bradycardia ffetysol - cyflwr sy'n arafu'r galon.
Cafodd ei eni yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ar 2 Mai a'i symud i Ysbyty Singleton pan waethygodd ei gyflwr.
O Faesteg y daw rhieni'r bachgen.

Cafodd y bachgen ei eni yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Clywodd y gwrandawiad fod y fam wedi ei heintio gyda Covid-19 "yn fuan wedi'r enedigaeth".
Clywodd hefyd fod archwiliad post-mortem heb ei gynnal a bod dau achos cychwynnol wedi eu nodi i esbonio'r farwolaeth - niwed i'r ymennydd o ganlyniad diffyg ocsigen a gwaed, a Covid-19 yn y fam.
Gofynnodd Crwner Canol De Cymru, Graeme Hughes i'w swyddogion ymchwilio i'r achos, gyda'r bwriad o gynnal gwrandawiad llawn ar 28 Ebrill 2021.
Dywedodd: "Rwy'n cydymdeimlo gyda'r teulu dan yr amgylchiadau mwyaf trist a thorcalonnus."

