Llywodraeth Cymru i gyhoeddi camau i lacio cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
CamauFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio cyhoeddi cynllun yn nodi'r camau allan o gyfyngiadau cymdeithasol coronafeirws ddydd Gwener, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford wrth gyfarfod o'r Senedd dros y we fod y cynllun yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

"Rwyf am iddo fod yn eglur ac rwyf am iddo gael ei ddeall yn hawdd gan y cyhoedd yng Nghymru fydd yn ei ddarllen," meddai.

Roedd Mr Drakeford yn ateb cwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies.

Roedd gweinidogion y llywodraeth wedi wynebu galwadau i egluro sut maen nhw'n bwriadu llacio'r cyfyngiadau cymdeithasol, wedi i Boris Johnson gyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer Lloegr.

22 yn rhagor o farwolaethau

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 22 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws. Mae cyfanswm y meirw yma bellach yn 1,154.

Cafodd 133 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 11,706 o bobl wedi profi'n bositif am yr haint.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod llawer yn uwch yn y ddau achos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates na ddylai'r diwydiant gwerthu tai fod yn cynnal ymweliadau oni bai bod modd cadw pellter cymdeithasol

Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Economi Ken Skates mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o fusnesau sydd wedi gwneud cais am gynllun furlough Llywodraeth y DU.

Roedd Mr Skates yn siarad yn ystod y gynhadledd ddyddiol i'r wasg sydd yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru.

Esboniodd fod 74% o gwmnïau yng Nghymru wedi gwneud cais am y cynllun. 67% oedd y ffigwr yn Lloegr, 72% yn yr Alban a 65% yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd fod y cynllun yn hanfodol er mwyn i ran fawr o'r economi gymryd ysbaid gwaith, ac nad oedd y llywodraethau datganoledig yn meddu ar y grym economaidd i redeg y fath gefnogaeth eu hunain.

Wrth droi ei sylw at y rheolau sydd mewn grym ar hyn o bryd i gyfyngu ar symudiadau pobl yn wyneb y pandemig, dywedodd na ddylai prynwyr tai fynd i edrych ar dai newydd os nad oedd modd cadw at y rheol pellter dau fetr.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi llacio'r rheolau fel bod modd i gwmnïau gwerthu tai ailagor, ac fe fydd modd i bobl ymweld â thai dan ystyriaeth o hyn allan.

"Mae'n sefyll i reswm felly os nad oes modd i chi gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, y dylech chi ddim fod yn dangos tai i brynwyr," meddai Mr Skates.

"Os ydych yn gallu gwneud hyn yna fe fyddwn yn edrych ar y rheolau ac fe fyddwn yn eu hadolygu'n gyson."