Llywodraeth Cym: Dim angen mynd i Loegr am brawf Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn gwadu bod yn rhaid i weithwyr allweddol groesi'r ffin am brofion yn dilyn awgrym mewn llythyr gan un o adrannau Llywodraeth Y DU.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ysgrifennu at staff yng Nghymru yn dweud wrthyn nhw am yrru i ganolfannau profi yn Lloegr os oes ganddyn nhw symptomau coronafeirws, yn ôl llythyr ddaeth i law BBC Cymru.
Ond mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud ei bod hi'n gwbl ddiangen i weithwyr yr adran groesi'r ffin a bod modd iddyn nhw gael eu profi yng Nghymru.
Yn y llythyr, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod canolfannau profi yng Nghymru yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol eraill, ac y dylai unrhyw staff sydd â symptomau deithio i "ganolfan brofi yn Lloegr pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny."
Dywedodd Mr Gething: "fe gafodd y mater ei godi gyda fi ddoe yn y Siambr."
"Mae'n anghywir. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cysylltiad â'r Adran Gwaith a Phensiynau.
"Mae gweithwyr allweddol yn gallu cael eu profi yma yng Nghymru ac maen nhw yn y broses o egluro wrthyn nhw (Yr Adran) sut y gallai aelodau o'u staff gael prawf."
Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r adran fwyaf o ran yr adrannau gwasanaethau cyhoeddus.
Mae staff yr Adran wedi eu rhestru fel gweithwyr allweddol.
Ond mae'r llythyr yn awgrymu nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn gymwys i fynychu canolfannau profi yng Nghymru - o ran y rhai sydd wedi eu blaenoriaethu.
"Rydym wedi llwyddo i ddatrys nifer o faterion o ran cael profion i'n cydweithwyr yn Lloegr a'r Alban, ond yn anffodus mae Cymru yn profi'n fwy o her."
Mae'r llythyr yn dweud y dylai'r neges gael ei rannu ymhlith staff yng Nghymru "er mwyn ceisio rheoli rhai disgwyliadau o ran cydweithwyr ond hefyd i adael iddyn nhw wybod ein bod yn gweithio yn galed i geisio datrys y broblem.
Sefyllfa 'absẃrd'
Wrth ymateb i gynnwys y llythyr dywedodd Helen Mary Jones, AS Plaid Cymru nad yw'r holl capasiti profi presennol yn cael ei ddefnyddio, ac y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r hyn sydd werth gefn ar gyfer gweithwyr allweddol sydd angen prawf.
"Ddylen ni ddim bod mewn sefyllfa lle bod gweithwyr allweddol yng Nghymru yn gorfod teithio i Loegr er mwyn cael prawf," meddai.
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gynyddu capasiti profi ers amser, ac eto ry'n ni yn clywed nad yw'r holl brofion yn cael eu defnyddio, a bod gofyn ar ein gweithwyr allweddol i deithio i Loegr i gael prawf."
Manylion llythyr
Mae'r llythyr hefyd yn dweud:
Er bod staff yr Adran yn cael eu rhestru fel gweithwyr allweddol yng Nghymru, nid ydym ar hyn o bryd yn cael ein blaenoriaethau ar gyfer mynediad i brofion sy'n cael eu trefnu gan lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu mynediad i'r canolfannau profion ar gyfer gweithwyr iechyd, gweithwyr gofal, yr heddlu, diffoddwyr a gweithwyr y carchardai.
Pan fod gan staff yng Nghymru symptomau COVID ac maen nhw'n gallu teithio yn ddiogel i ganolfan brofi yn Lloegr byddwn yn argymell eu bod yn gwneud hyn drwy archebu hyn ar safle GOV.UK ar y we.
Rydym yn gweithio yn galed i ddatrys y broblem yma ac unwaith bydd y sefyllfa yn newid gyda Llywodraeth Cymru byddwn yn rhoi gwybod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020