'Clymu dwylo' heddlu drwy beidio cynyddu dirwyon
- Cyhoeddwyd
Mae comisiynydd heddlu wedi beirniadu penderfyniad Prif Weinidog Cymru i beidio â chynyddu dirwyon i'r rhai sy'n torri rheolau ynysu yn ystod pandemig coronafeirws.
Dywedodd Arfon Jones, comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, bod cadw'r dirwyon ar £60 yn "clymu dwylo" yr heddlu.
Mae dirwyon bellach yn £100 yn Lloegr, ond dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford na fyddai ei lywodraeth yn dilyn yr un cam, ond yn cadw'r mater "dan ystyriaeth".
Daw hynny ar ôl i gomisiynwyr pedwar llu Cymru ysgrifennu ar y cyd yn gofyn am ddirwyon uwch.
Yng Nghymru, mae'r dirwyon yn cael eu haneru i £30 os ydyn nhw yn cael eu talu o fewn 14 diwrnod.
Ond yn Lloegr mae'r dirwyon yn dechrau ar £100, £50 os ydyn nhw yn cael eu talu'n brydlon, hyd at uchafswm o £3,200.
Ar Twitter, dywedodd Mr Jones ei fod "fel rhoi'r offer i chi a chlymu eich dwylo."
Cafodd ei rwystredigaeth ei adlewyrchu gan gomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llewellyn, a ddywedodd ei fod fel "rhoi llwy i chi dorri coeden".
Ychwanegodd y byddai'n galw ar Mr Drakeford i esbonio ei benderfyniad i'r cyhoedd.
Dirwyon 'dan ystyriaeth'
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn bwriadu newid y system ddirwyon yng Nghymru ar hyn o bryd ond rydyn ni'n cadw'r mater dan ystyriaeth."
Mae heddluoedd yn dweud bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cadw at y rheolau, er i Heddlu Gwent ddweud mai Gŵyl y Banc yr wythnos diwethaf oedd y prysuraf iddyn nhw ers i'r cyfyngiadau ddod i rym.
Mae'r heddluoedd hefyd yn rhagweld y gallai mwy o bobl deithio i mewn i Gymru ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, annog pobl yn Lloegr ddychwelyd i'w gwaith a llacio'r rheolau ar ymarfer corff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020