Rhoddion o £350k yn gymorth i'r Gelli gynnal gŵyl rithiol
- Cyhoeddwyd
![Peter Florence](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10D84/production/_112269986_gettyimages-1146379060.jpg)
Dywed y cyfarwyddwr, Peter Florence, bod ffyddloniaid yr ŵyl wedi bod yn garedig
Wedi ofnau na fyddai Gŵyl y Gelli yn cael ei chynnal, dywed y cyfarwyddwr Peter Florence ei fod yn falch bod y digwyddiad yn gallu cael ei gynnal ar-lein.
Eleni bydd y digwyddiadau llenyddol am ddim ac yn cael eu darlledu ar-lein o ddydd Llun, 18 Mai tan 31 Mai.
Mae cyfraniadau ariannol o £350,000 wedi bod o gymorth mawr i'r digwyddiad, medd y cyfarwyddwr.
Dywedodd: "Roedd pethau'n edrych yn ddrwg i ddechrau ond mae ffyddloniaid yr ŵyl wedi bod yn hynod hael a chreadigol yn y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r argyfwng.
"Pan ddaeth y cyhoeddiad am y cyfyngiadau roedd trefnwyr Gŵyl y Gelli newydd ymrwymo i wario £1m ar y digwyddiad.
"Roedd pethau i weld yn eitha' drwg am fis ond ry'n ni wedi cael ein syfrdanu gan ymateb ein cynulleidfa a'n noddwyr - mae'r cyfan wedi bod yn galonogol."
![Hay Festival crowds in 2017](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9C3C/production/_112269993_zzzgettyimages-689349814-1.jpg)
Fel arfer mae 275,000 o docynnau yn cael eu gwerthu i'r digwyddiad sy'n para am bythefnos
Fel arfer mae'r ŵyl ym Mhowys, sydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr.
"Mae 70% o incwm yr ŵyl yn dod o werthiant tocynnau ac mae effaith y pandemig arni yn fawr," ychwanegodd Mr Florence.
'£28m i'r economi leol'
Dywedodd hefyd bod y trefnwyr wedi gorfod lleihau nifer y digwyddiadau yn sylweddol ac wedi gorfod rhoi hanner y staff ar gyfnod seibiant.
Ond dywedodd bod yr "effaith fwyaf" ar yr ardal leol gan fod yr ŵyl yn rhoi hwb economaidd o oddeutu £28m i'r ardal yn flynyddol.
Bydd awduron, gwneuthurwyr polisi, haneswyr ac eraill yn perfformio yn fyw o'u cartrefi ac yn ateb cwestiynau gan wylwyr.
Rhwng 18 a 22 Mai bydd cyfres o ddarllediadau i blant - yn eu plith sgwrs gan yr awdures Cressida Cowell.
![Helena Bonham Carter, Margaret Atwood and Benedict Cumberbatch](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/177A6/production/_112166169_1.jpg)
Ymhlith y rhai a fydd yn diddanu o'u cartrefi eleni mae Helena Bonham Carter, Margaret Atwood a Benedict Cumberbatch
Ymhlith eraill a fydd yn sôn am eu gwaith mae'r awduron Hilary Mantel, Roddy Doyle, Ali Smith a Sandi Toksvig.
Eisoes mae 200,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer digwyddiadau ac fel arfer mae'r ŵyl yn gwerthu 275,000 o docynnau.
Mae Gŵyl y Gelli yn un o nifer o wyliau sydd wedi'u canslo ar draws Cymru yn sgil haint coronafeirws.
Mae'r cyfarwyddwr Peter Florence yn hyderus y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal fel arfer yn 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2018