Rhybudd: Bydd hi'n anodd i bobl ifanc ddod o hyd i swydd
- Cyhoeddwyd
Mae corff sy'n cynrychioli myfyrwyr yn rhybuddio y bydd disgyblion sy'n gadael yr ysgol a graddedigion newydd yn ei chael yn anodd dod o hyd i swyddi o ganlyniad i argyfwng Covid-19.
Yn ôl y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr mae nifer y swyddi lefel mynediad wedi gostwng 23% ar draws Prydain.
Mae Alaw Davies, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth yn University College London, wedi ymgeisio am nifer o swyddi sydd bellach wedi rhoi'r gorau i dderbyn mwy o geisiadau am y flwyddyn.
"Mae pethau'n edrych bach yn fwy tricky na'r arfer," meddai.
"O'n i yn gobeithio dechrau swydd cyn gynted ag i mi orffen fy nghwrs ym mis Mai, a dwi dal i edrych am swydd, ac wedi ymgeisio am lot ond heb lwc 'to.
"Yr ansicrwydd sydd wedi bod yn anodd yn y sefyllfa yma. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n graddio yn ffeindio'r cyfnod yma bach yn ansicr, ond mae'r pandemig wedi cynyddu'r ansicrwydd yma."
Mae'r sefyllfa hefyd yn anodd i bobl fel Dan Clarke, 19 o Gaerdydd, ac sydd ar flwyddyn saib cyn mynychu Prifysgol Caergrawnt yn yr hydref.
"Fy nghynlluniau i am y flwyddyn oedd gwneud tymor sgïo yn Japan, ac ar ôl hynny trafeilio o gwmpas y wlad tan fis Mai," meddai.
"Ond yn anffodus roedd yn rhaid i fi ddod 'nôl o Japan ddeufis yn gynnar.
"Pan ddychwelais i, roedd lot o'r swyddi yn yr archfarchnadoedd wedi eu cymryd yn barod, so dwi wedi cael trafferth i ffeindio swydd yng Nghaerdydd. Mae'n gystadleuol iawn."
Mae'r sefyllfa hefyd wedi gorfodi pobl ifanc sydd eisoes yn cael eu cyflogi fel prentisiaid i addasu.
Yn eu plith mae Gwern Rowlands, 19 o Lanuwchllyn, sy'n astudio ar gyfer prentisiaeth adeiladwaith.
"Dwi'm yn gallu mynd i ngwaith dim mwy," meddai.
"Wedyn dwi'n teimlo bach yn gas... gorfod aros adre a jyst cario ymlaen y mwyaf dwi'n gallu gyda gwaith coleg.
"O'n i fod i orffen [y brentisiaeth], dwi'n siŵr mai wythnos yma oedd o. Oedd gennym ni exam ar-lein i'w wneud, ond dwi'm yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen efo hwnna.
"Ar ôl gwneud yr holl waith, dwi jyst eisiau cael o 'di 'neud a chael y radd."
Gydag ofnau y bydd cyfleodd i sicrhau prentisiaethau neu swyddi yn prinhau dros y misoedd nesaf - mae'n gyfnod anodd i bobl ifanc fel Gwern, Dan ac Alaw.
Yn ôl Dylan Evans, cynghorydd o Gyrfa Cymru: "Mae yna lot o bobl ifanc a teuluoedd yn cysylltu hefo ni ar hyn o bryd yn gofidio am beth maen nhw'n mynd i wneud nesa'.
"Mae lot o bobl ifanc eisiau cario ymlaen efo'u haddysg.
"Mae yna bobl ifanc eraill wedyn sydd eisiau mynd mewn i'r byd gwaith, a gwneud prentisiaethau, ac mae hynny yn ansicr ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod cyflogwyr ddim yn siŵr o beth sy'n digwydd chwaith.
"Felly mae o'n bwysig bod pobl ifanc yn edrych ar gynlluniau wrth gefn, ac yn defnyddio'r sgiliau sydd ganddyn nhw i edrych ar opsiynau gwahanol, falle i wneud bach o brofiad gwaith, gwaith gwirfoddol, i wneud yn siŵr bod eu sgiliau nhw yn datblygu."
Yn ôl Deborah Watson, cyfarwyddwr gwefan hysbysebu swyddi GraddedigionCymru, maen nhw wedi gweld gostyngiad o hyd at 90% yn nifer yr hysbysebion swyddi ar eu gwefan.
Er bod arwyddion o rywfaint o welliant, ychwanegodd Ms Watson: "Beth ry'n ni'n ei weld yw bod swyddi graddedigion sy'n cael eu cynnig gan gyflogwyr bach a canolig yn diflannu, gan fod nifer o'r cwmnïoedd hyn wedi gorfod rhoi eu staff presennol ar gyfnod o segurdod a dydyn nhw yn bendant ddim yn recriwtio.
"Mae hyn yn cael effaith arwyddocaol ar swyddi i raddedigion."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020