Nifer sy'n ceisio am fudd-dal wedi bron dyblu

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn cerdded heibio canolfan Credyd Cynhwysol ynghanol pandemig CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Credyd Cynhwysol ynghanol pandemig Coronafeirws

Mae'r ffigyrau diweithdra diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod 4,000 yn rhagor o bobl yn ddiwaith rhwng mis Ionawr a Mawrth, a nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi bron dyblu.

Mae'r ffigyrau ond yn cynnwys wythnos gyntaf y cyfnod clo ac mae disgwyl iddyn nhw waethygu'n ddifrifol dros y misoedd nesaf.

Roedd graddfa diweithdra Cymru yn 3.2% o gymharu â 3.9% yn y Deyrnas Unedig.

Roedd diweithdra o fis Ionawr i fis Mawrth yn 22,000 yn is na'r un cyfnod yn 2019 yng Nghymru.

O ran y darlun ehangach, fe gynyddodd diweithdra yn y DU gan 50,000 o bobl i 1.35 miliwn yn y tri mis tan fis Mawrth.

Cyn i'r cyfnod clo ddechrau, roedd mwy o bobl mewn gwaith nag oedd wedi bod ers cyfnod hir.

Mwy yn hawlio budd-dal

Yn ôl y ffigyrau, roedd nifer y bobl oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 104,000 ym mis Ebrill, o gymharu â 59,000 am y mis blaenorol.

Mae'n golygu bod nifer y ceiswyr budd-dal yng Nghymru nawr yn 6.8% o'r gweithlu - i fyny o 3.9%.

Y raddfa yn y DU yw 5.8%.

Dadansoddiad Gohebydd Economi BBC Cymru, Sarah Dickins

Dyma'r ffigurau mwyaf dramatig hyd yn hyn am effaith y strategaethau i daclo'r coronafeirws ar yr economi. Dyma adlewyrchiad cywir o'r niferoedd go iawn o bobl yng Nghymru sydd yn hawlio budd-daliadau oherwydd eu bod nhw yn ddi-waith, tra bod y ffigurau diweithdra yn seiliedig ar arolwg.

Rhaid cofio mai darlun tymor byr yw hwn ac y gallai gael ei droi ar ei ben. Serch hynny, dydyn ni ddim yn gwybod eto faint o'r gweithwyr sydd ar saib cyflog dan gynllun ffyrlo'r llywodraeth fydd yn ail-gydio yn eu swyddi, a faint fydd yn colli eu swyddi wedi i'r cynllun ddod i ben.

Mae'r ffigurau gyhoeddodd yr ONS heddiw yn dangos cwymp mawr yn nifer y swyddi gwag yn y DU. Rhwng Chwefror ac Ebrill roedd 170,000 yn llai, lawr i 637,000 - record o gwymp dros 3 mis - a thystiolaeth nad yw cwmnïau yn recriwtio gymaint ag arfer.

Sut mae Cymru'n cymharu?

Dim ond Gogledd Iwerddon, de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr sydd â graddfa diweithdra is na Chymru.

Mae'r ffigyrau newydd yma gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos bod 44,000 yn llai o bobl yn gweithio yng Nghymru yn nhri mis cynta'r flwyddyn o gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Heblaw am Ogledd Iwerddon, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o bobl rhwng 16-64 oed sydd ddim yn gweithio ac yn analluog i weithio, oherwydd problemau iechyd, cyfrifoldebau gofal neu oherwydd eu bod yn fyfyrwyr.

Ar draws y DU, fe syrthiodd nifer y swyddi gwag yn fwy nag erioed rhwng mis Chwefror a mis Ebrill - cwymp o 170,000 i 637,000.

Bu cwymp hefyd yn nifer yr oriau gweithio - lawr o gyfartaledd o 32 awr yr wythnos i bob gweithiwr i 25 awr.