Cwmnïau'r de yn 'awyddus i ddychwelyd i'r gwaith'

  • Cyhoeddwyd
Paul Slevin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Slevin yn credu ei bod yn or-optimistaidd credu y gall yr economi adlamu'n ôl yn syth

Mae yna awydd ymhlith cwmnïau yn ne Cymru i "fynd yn ôl i'r gwaith" a "chael yr economi i symud eto", yn ôl Cadeirydd Siambr Fasnach De Cymru.

Ond mae Paul Slevin yn rhybuddio y bydd busnesau'n wynebu "amser heriol" a'i bod yn "or-optimistaidd" meddwl y bydd yr economi yn "adlamu yn ôl o hyn".

Mae Toyota ymhlith y cyflogwyr mawr yng Nghymru sydd wedi ailgychwyn cynhyrchu yn ddiweddar gyda mesurau diogelwch ychwanegol ar waith.

Yn ôl cyfarwyddwr ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy, mae'r cwmni yn canolbwyntio ar ddiogelwch gweithwyr ac nad ydyn nhw "dan bwysau" i gynhyrchu'r maint arferol o waith o ganlyniad i'r amgylchiadau.

Fel rheol mae'n cymryd 44 eiliad i gynhyrchu injan yn y ffatri ond bydd hynny 10% yn arafach oherwydd y mesurau newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Freeman bod Toyota'n awyddus i helpu cwmnïau eraill drwy rannu ymarfer gorau

Dywedodd Tim Freeman, Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr Toyota Manufacturing yn y DU bod y cwmni hefyd yn awyddus i helpu busnesau eraill a dysgu oddi wrthyn nhw ynglŷn â mesurau diogelwch yn ystod y pandemig.

"Dy'n ni'n siarad â sefydliadau fel y CBI a 'dy'n ni'n rhannu'r hyn 'dy'n ni'n ei wneud fel bod modd rhannu hynny â sefydliadau eraill," meddai.

"Ond os oes sefydliadau eraill sydd â diddordeb i ddysgu o'r hyn dy'n ni'n ei wneud ac efallai'n rhannu eu harferion gorau gyda ni, bydden ni'n hapus i gydweithredu a chydweithio â nhw."

Disgrifiad o’r llun,

"Bydd amrywio lle mae cwmnïau'n caffael â deunydd yn gwneud mwy o synnwyr," medd Lorenzo Angelucci

Mae Transcend Packaging, sydd â'i ffatri yn Ystrad Mynach, yn cynhyrchu pecynnau cynaliadwy ar gyfer y diwydiant bwyd ac yn cyflogi 180 o staff.

Yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr, Lorenzo Angelucci, mae disgwyl y bydd dychwelyd i'r drefn arferol yn "raddol" gydag ailagor araf bwytai bwyd cyflym yn effeithio ar y gadwyn gyflenwi.

Mae Mr Angelucci yn cytuno bod rhannu arfer da yn fanteisiol i bawb yn y diwydiant.

Mae hefyd yn credu y gall y pandemig arwain at newidiadau strwythurol mewn gweithgynhyrchu.

"Rhaid i'r gadwyn gyflenwi ystyried y risg pan chi'n rhoi gormod o wyau mewn un fasged - yn benodol, Asia," meddai.

"Mae caffael neu brynu deunydd o Asia yn unig yn agored i risg yn y gadwyn gyflenwi. Bydd amrywio lle mae cwmnïau'n caffael â deunydd yn gwneud mwy o synnwyr ac yn creu mwy o gyfleoedd i Ewrop a Gogledd America."

Dywedodd Mr Slevin y bydd cyflogwyr yn wynebu "problemau sylfaenol" wrth sicrhau diogelwch staff sy'n dychwelyd i'r gweithle yn y tymor byr a'r tymor canolig.

Ond, ychwanegodd fod busnesau yn wynebu nifer o broblemau, y tu hwnt i'r mesurau i gadw gweithwyr yn ddiogel.

"Mae yna nifer o heriau difrifol y mae busnesau yn eu hwynebu nawr," meddai.

"Os oes gennych chi staff sydd wedi bod ar y cynllun furlough, maen nhw wedi bod yn segur yn economaidd - sut ydych chi'n dod â nhw yn ôl?

"Y rhai sydd wedi bod yn weithgar yn economaidd - yn gweithio gartref - sut ydych chi'n eu dychwelyd nhw yn ôl i'r gweithle?"

Dywedodd fod pob math o gwmnïau'n ymgysylltu â'i gilydd i hyrwyddo ffyrdd mwy diogel o weithio.

"Rwy'n credu bod arferion gorau yn cael eu rhannu gan lawer o fusnesau - ac mae hyn yn dda - oherwydd efallai bod gan y cwmnïau mwyaf rhywfaint o brofiad uniongyrchol ar sut i wneud hyn a bod ganddyn nhw'r cyfleusterau i allu gwneud. Efallai y bydd cwmnïau llai yn gallu dysgu o hynny."