Cynnydd mewn tanau gwyllt dros gyfnod y cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae llun yn y stori isod all beri gofid.
Mae cynnydd wedi bod mewn tanau gwair yng Nghymru yn ystod cyfnod y cyfyngiadau yn sgil haint coronafeirws.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, bu dros 1,000 o danau ledled Cymru yn ystod yr wyth wythnos ddiwethaf.
Mae tanau gwair o fewn awdurdod Dyfed-Powys wedi cynyddu hyd at 24% o'i gymharu â 2019.
Ar hyn o bryd, mae criwiau'n delio gyda digwyddiad mawr yng Nghwm Einion ger Ffwrnais, Ceredigion.
Mae'r ardal yn cyfateb i 240 o gaeau pêl-droed gyda swyddogion yn credu ei fod wedi'i gynnau yn fwriadol.
Fe ddechreuodd y tân ger Llyn Conach ac mae wedi bod yn llosgi ers dydd Sul gan roi pwysau enfawr ar wasanaethau'r ardal, gyda chriwiau yn gorfod teithio o bell i ddelio gyda'r fflamau.
Cynnydd yn nifer y tanau
Yn disgrifio'r pwysau cynyddol o geisio ymbellhau'n gymdeithasol wrth ymgymryd â'r gwaith, dywedodd y gwasanaeth tân bod y sefyllfa'n "heriol".
"Rydyn ni wedi gweld dros 1,000 o danau gwyllt ledled Cymru dros yr wyth wythnos ddiwethaf," meddai Neil Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae ffigyrau yn ardal Dyfed-Powys yn dangos cynnydd o 24% yn y cyfnod hwn o'i gymharu â'r un amser y llynedd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae tystiolaeth o'r safle'n awgrymu bod y tân wedi cychwyn yn fwriadol, gan bobl yn gwersylla yn y coed.
"Maen bosib bod tywydd sych wedi cael effaith, ond gyda'r lockdown byddech chi'n disgwyl gweld llai o bobl allan ac felly llai o danau'n digwydd," meddai Mr Evans.
"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y mwyafrif, os nad pob un o'r tanau hyn yn rhai bwriadol."
Costau ariannol ac ecolegol
Daw'r difrod diweddaraf i dir Cyfoeth Naturiol Cymru â goblygiadau ariannol, gyda'r swyddog Rhys Jenkins yn dweud fod tanau wedi costio dros £500,000 mewn difrod i'r corff.
"Mae'r costau ecolegol, trwy golli bioamrywiaeth, yn enfawr hefyd," meddai.
"Rydyn ni'n gofyn i bawb barchu eu hardaloedd a gweithio law yn llaw â ni i atal tanau gwyllt ac atal costau i'r trethdalwyr."
Dros yr wyth wythnos ddiwethaf, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod tanau bwriadol hefyd wedi eu cynnau mewn ardaloedd fel Cwm Afan, Ystalyfera, Glyn-nedd, Llanllwni a'r Gŵyr.
Dywedodd y Sarjant Mark Davies o'r llu: "Ar ôl treulio ychydig oriau ar leoliad y drosedd yma yng Ngheredigion, rydym wedi dod o hyd i nifer o campfires.
"Ni allwn ddweud yn bendant iddo gychwyn y tân mawr, ond mae awgrym cryf iddo gyfrannu at y digwyddiad yma.
"Mae'n dystiolaeth bod pobl wedi bod yma, heb ganiatâd, yn enwedig yn ystod cyfnod y coronafeirws. Mae'r ardal hon ar gau i'r cyhoedd."
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020