Pryder Comisiynydd: 'Torri 'hawliau dynol' yr henoed?'

  • Cyhoeddwyd
Joyce CreanFfynhonnell y llun, Crean family
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joyce Crean 10 diwrnod ar ôl symud o ysbyty i gartref gofal yng Nghaerdydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gofyn i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Dywed Helena Herklots fod system brofi gynhwysfawr ar gyfer Covid-19 yn y sector gofal yn "rhy araf."

Yn rhaglen BBC Wales Investigates nos Iau, mae hi hefyd yn cwestiynu a gafodd yr "hawl i fyw" ei dorri, gan ddweud ei bod wedi trafod y mater gyda'r CCHD.

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething nad yw'n "cydnabod" achos o dorri hawliau dynol a bod y polisi'n seiliedig ar gyngor gwyddonol.

Ers dechrau'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu, roedd 27% o'r bobl fu farw o'r coronafeirws yng Nghymru yn byw mewn cartref gofal, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Dydy'r ffigwr yma ddim yn cynnwys trigolion cartrefi gofal fu farw mewn ysbytai.

Mae cwestiynau nawr yn codi a ellir fod wedi achub mwy o fywydau petai'r trefniadau profi wedi bod yn wahanol?

Pwysau i dderbyn cleifion

Mae Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli dros 450 o ddarparwyr gofal, yn galw am system brofi ehangach ers mis Mawrth.

Mae rhaglen Wales Investigates wedi gweld casgliadau arolwg gafodd ei gomisiynu gan y fforwm, oedd yn holi 87 o aelodau ar draws Cymru.

Dywedodd rhai bod rhaid aros hyd at 20 diwrnod i gael prawf, a dywedodd un ei bod hi wedi cymryd 10 diwrnod i dderbyn canlyniadau prawf.

O'r 38 cartref gofal a ymatebodd, dywedodd 17 eu bod yn teimlo dan bwysau i dderbyn cleifion â Covid-19 neu heb gael prawf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed staff yn y cartref gofal yma ym Mhort Talbot eu bod yn cael trafferth ymdopi â marwolaethau coronafeirws

Un sy'n dweud iddo deimlo pwysau o'r fath yw Nigel Clark, sy'n rhedeg Cartref Gofal Alma Lodge ym Mhort Talbot. Penderfynodd yn gynnar na fyddai'n derbyn cleifion oedd heb gael prawf.

"Bydden nhw [Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe] yn ffonio bob dydd yn gofyn faint o lefydd gwag oedd gyda ni," meddai. "Os oedd gyda ni le, roedden nhw'n gofyn pam na allen ni dderbyn pobl."

Yn ôl Mr Clark, fe ddywedwyd wrtho fod angen iddo helpu lleihau'r pwysau ar ysbytai, ac y byddai ei wrthwynebiad yn dod i sylw lefel uwch o awdurdod.

"Dywedodd [cynrychiolydd y bwrdd iechyd] y byddai'n mynd at yr Arolygiaeth Gofal i fy ngorfodi i ddechrau derbyn pobl yma, petawn nhw wedi'u profi ai peidio, gan fod rhaid i mi helpu rhyddhau gwelyau yng Nghastell-nedd Port Talbot."

Fe wnaeth yr Arolygiaeth Gofal gefnogi penderfyniad Mr Clark.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe na fydden nhw "fyth yn esgusodi unrhyw sylw fel yr un a honnir," a bod pob claf bellach yn cael prawf cyn mynd i gartref gofal yn unol â pholisi diweddaraf Llywodraeth Cymru.

'Fel taflu rhywun i'r bleiddiaid'

Ffynhonnell y llun, Crean family
Disgrifiad o’r llun,

Joyce Crean gyda'i gŵr

Bu farw Joyce Crean o'r coronafeirws mewn cartref gofal yng Nghaerdydd, 10 diwrnod ar ôl symud yno. Roedd mewn ysbyty cyn hynny ar ôl cael strôc tua diwedd 2019.

Wrth i'r feirws ymledu a'r pwysau gynyddu i wagio gwelyau ysbyty, cafodd Mrs Crean brawf Covid-19 ac roedd y canlyniadau'n negatif.

Roedd ei theulu ar ddeall y byddai yna brawf arall cyn ei symud, ond fe ddaeth yn amlwg, wedi iddi gael ei chludo i Gartref Gofal Romilly nad oedd hynny wedi digwydd.

Ychydig dros wythnos ar ôl iddi gyrraedd y cartref gofal, sydd â 70 o welyau, cafodd perthnasau wybod ei bod â symptomau coronafeirws. Roedd staff y cartref wedi gweld symptomau tebyg ymhlith preswylwyr eraill.

Dywedodd ei mab, Phil Crean: "Gallwch ddychmygu taswn ni wedi clywed fod Covid-19 yn y cartref gofal yna, na fyddwn ni wedi gadael iddi symud yno."

Ddyddiau cyn ei marwolaeth, un o nifer yn y cartref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau'n dweud y gall ysbytai ddanfon cleifion Covid-19 i gartrefi gofal, a doedd dim rhaid profi cleifion oedd heb symptomau cyffredin cyn eu symud.

Roedd hynny, medd Mr Crean "yn hollol warthus." Mae'n galw am ymddiswyddiad y Gweinidog Iechyd.

"Yn sylfaenol, mae fel taflu rhywun i'r bleiddiaid, on'd yw e?" meddai. "Yn bersonol, rwy'n meddwl bod e'n bolisi gwael eithriadol."

Dywed rheolwyr Cartref Gofal Romilly na chafodd Mrs Crean eu phrofi oherwydd diffyg symptomau cyffredin ond fe wnaethon nhw gytuno y gallai profion mwy cynhwysfawr ar y pryd fod wedi gallu achub bywydau.

Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae angen ymchwilio i'r oedi cyn cyflwyno system brofi gynhwysfawr yn y sector gofal.

"Mae gen i bryderon gwirioneddol fod hawliau pobl hŷn, o bosib, wedi'u torri - yr hawl sylfaenol i fyw," meddai Helena Herklots.

"Y ffaith yw nad oedd profion ar gael mor gyflym ag oedd eu hangen nhw ar gyfer pob preswylydd a phob aelod staff.

"Rwy'n siomedig eithriadol a thrist na symudodd Llywodraeth Cymru yn gyflym yn hyn o beth.

"Dyna pam rwy'n credu fod angen i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio i driniaeth pobl hŷn gydol y pandemig yma."

'Dewisiadau i gadw pobl yn saff'

Mae'r Gweinidog Iechyd yn gwrthod awgrymiadau fod diffyg profion wedi arwain at farwolaethau diangen.

Dywedodd Vaughan Gething wrth y rhaglen: "Fe wnaethon ni newid y ffordd o brofi pobl oedd yn gadael yr ysbyty o 22 Ebrill ymlaen.

"Dydw i ddim yn cydnabod ein bod wedi torri hawliau pobI hŷn. Fel gweinidog rwy'n gwneud dewisiadau i gadw pobl yn saff."