Profion Covid-19 i bawb dros bump oed â symptomau
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, wedi cyhoeddi y bydd pawb dros bump oed gyda symptomau coronafeirws nawr yn gymwys i gael prawf Covid-19.
Pwysleisiodd Mr Hancock bod hyn yn wir ar gyfer pedair gwlad y DU, a bod gweinidogion iechyd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno.
Ychwanegodd y byddai cleifion ysbyty, trigolion a staff cartrefi gofal a gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn parhau i gael blaenoriaeth am brofion.
Yn gynharach heddiw, fe gafodd colli synhwyrau blasu ac arogl eu hychwanegu i'r rhestr o symptomau coronafeirws y dylai pobl fod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac y dylen nhw hunan ynysu os ydi hynny'n digwydd.
Roedd hynny ar gyngor arbenigwyr. Tan heddiw dim ond tymheredd uchel a pheswch parhaus oedd y symptomau cydnabyddiedig i bobl hunan ynysu.
Dywedodd Mr Hancock bod y cynnydd mewn profion yn rhan o strategaeth llywodraeth y DU i olrhain a phrofi am y feirws.
Ychwanegodd fod 21,000 o bobl wedi cael eu recriwtio i wneud y gwaith o olrhain cysylltiadau covid-19 yn Lloegr, gan gynnwys 7,500 o weithwyr gofal iechyd, ac y byddai app ffôn NHSX ar gael yn fuan i'w cynorthwyo.
Mae llywodraeth y DU wedi cael ei beirniadu am roi'r gorau i brofion cymunedol yng nghanol mis Mawrth.

LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf heddiw
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020