Safle Pencoed 'yn ganolog' ar gyfer profion Covid
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ffatri ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu prawf newydd ar gyfer gwrthgyrff Covid-19 ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal.
Mae Ortho Clincial Diagnostics (OCD) yn un o nifer o gwmnïau fydd yn cynhyrchu'r prawf-gwaed ac mae'r cwmni eisoes yn darparu miliynau o brofion gwrthgyrff led led y byd.
Dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething y bydd Cymru yn penderfynu sut y bydd y profion yn cael eu dosbarthu yma - ond mae disgwyl y byddant ar gael ar gyfer cartrefi gofal.
Daw'r newyddion yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd miloedd y profion ar gael i filoedd o weithwyr iechyd a gweithwyr gofal.
Credir mai OCD ym Mhencoed yw'r unig gwmni sy'n cynhyrchu'r profion yn y DU.
Mae BBC Cymru yn deall fod y prawf gwrthgyrff wedi ei brofi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Bydd y profion gwrthgyrff yn cael eu defnyddio i ddarganfod os yw pobl wedi eu heintio gan y feirws yn y gorffennol.
Credir y bydd OCD ym Mhencoed yn gallu cynhyrchu hyd at filiwn o brofion unigol bob mis.
Eisoes mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sêl bendith i gwmnïau Roche (Y Swistir) ac Abbot (Unol Daleithiau) i fwrw mlaen gyda'u cynlluniau nhw ar gyfer profion gwrthgyrff.
Mae'r profion gwaed yn chwilio am wrthgyrff, er mwyn gweld os yw person eisoes wedi cael y feirws ac o bosib wedi datblygu rhywfaint o imiwnedd.
Dywedodd Paul Hales, cyfarwyddwr gyda OCD ym Mhencoed: "Prydferthwch y profion hyn yw nid yn unig eu cywirdeb ond hefyd y cyflymdra mae modd eu prosesu.
"Mae'n golygu y gallwch fod a photensial i brofi cannoedd o samplau bod awr, er mwyn cael y canlyniadau."
Dywedodd Mr Gething fod cael sêl bendith i'r profion gwrthgyrff yn gam pwysig ymlaen "er mwyn atal ymlediad y feirws."
"Fe fydd y prawf yn dweud wrthym a yw pobl wedi cael y feirws. Ond mae'n bwysig dweud hyn... er ei bod yn gallu dweud a yw rhywun wedi cael y feirws, nid yw'n bendant faint o imiwnedd y bydd ganddynt rhag y feirws yn y dyfodol."
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Fe ddaw cyhoeddiad heddiw yn sgil addewid Boris Johnson i gyflwyno beth ddisgrifiodd fel y cynllun olrhain "gorau yn y byd" i ddechrau yn Lloegr ym mis Mehefin.
Y gred yw bod Llywodraeth y DU eisoes wedi gwario £16m ar brofion gwrthgyrff - oedd wedi profi yn aneffeithiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020