Ysgrifennydd Cymru yn trydar gwybodaeth 'anghywir'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Gwnstabl wedi dweud fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn anghywir i ddweud fod gan bobl hawl i deithio hyd at 15 milltir i wneud ymarfer corff.
Roedd Mr Hart wedi gwneud y sylw ar Twitter ar ôl bod mewn cyfarfod gyda Chomisiynwyr Heddlu a phedwar Prif Gwnstabl Cymru.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd ar ei gyfrif Twitter, fod "consensws" y gallai pobl deithio 10-15 milltir i "bysgota, chwarae golff, syrffio neu wneud ymarfer corff" - gan gadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Ond dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Mark Collins, wrth y BBC ei fod wedi trafod gyda Mr Hart ynglŷn â sut y gallai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig deithio.
"Roeddwn i'n siarad yn benodol am ardal Dyfed-Powys," meddai.
"Dywedais y byddai'n gwneud synnwyr i gael ardal 10 milltir o amgylch eich cartref."
Mewn ymateb i sylw Mr Hart y gallai pobl deithio 10-15 milltir i ymarfer corff, dywedodd Mr Collins: "Nid yw'n gywir... ni ddylid gyrru er mwyn gwneud ymarfer corff."
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai ymarfer corff gael ei wneud yn lleol - mor agos â phosib at y cartref - ac yn gyffredinol, na ddylid gyrru i leoliad i ffwrdd o'r cartref i wneud hynny.
Roedd Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert hefyd yn y cyfarfod, a dywedodd mai sylw am sefyllfa arbennig yn Nyfed-Powys oedd y sgwrs yr oedd Mr Hart yn cyfeirio ati.
"Yn bendant, doedd o ddim yn safbwynt ynglŷn â theithio yng Nghymru yn gyffredinol. Ein cyngor ni yw aros yn lleol," meddai.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae disgwyl adolygiad o'r canllawiau ddydd Mawrth.
Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford eu bod yn parhau'n ofalus, a ddim am ruthro i wneud penderfyniadau a allai achosi cynnydd arall mewn achosion o'r haint.
Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ganddo fwy o fanylion yr wythnos nesaf, ond pwysleisiodd mai dim ond pan oedd hi'n ddiogel i wneud hynny y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu codi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020