Tlodi digidol 'yn fygythiad i blant mewn gofal'

  • Cyhoeddwyd
Menyw ifanc unigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae iechyd meddwl gwael ac unigrwydd ar gynnydd ymhlith y rhai maen nhw'n eu cefnogi, medd yr elusen

Mae diffyg mynediad i dechnoleg sylfaenol yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws yn "fygythiad digynsail" i les plant mewn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, yn ôl elusen.

Dywedodd Voices from Care Cymru (VFCC) ei bod hi'n amhosib i rai o'r plant a phobl ifanc mwyaf bregus gadw mewn cysylltiad â'r grwpiau a gwasanaethau sy'n rhoi cefnogaeth hanfodol iddyn nhw.

Mae'r elusen yn rhybuddio fod unigrwydd ac iechyd meddwl gwael ar gynnydd, ac yn galw ar awdurdodau lleol i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael.

Mae'r cynghorau'n derbyn fod yna "heriau technolegol" ond mae'r corff sy'n eu cynrychioli, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dweud fod gweithwyr cymdeithasol yn arddel ffyrdd newydd o wneud eu gwaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gallu siarad â gweithwyr cymdeithasol trwy Zoom neu Skype yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc, medd VFCC

Dywedodd VFCC fod rhai unigolion ddim yn gallu cysylltu â ffrindiau, perthnasau, ymgynghorwyr a gweithwyr cymdeithasol gan nad oes ganddyn nhw gyfrifiadur, gliniadur, ffôn neu fynediad i'r we.

Mae llawer o'r unigion dan sylw wedi cael profiadau trawmatig a chyfnodau o ansicrwydd yn eu plentyndod, a rhai eisoes yn cael trafferthion iechyd meddwl cyn i'r pandemig amharu ar wasanaethau iechyd meddwl.

"O wrando ar bobl ifanc ar draws Cymru sydd wedi bod mewn gofal, rydym yn gwybod fod Covid-19 yn fygythiad digynsail i les llawer o blant ac oedolion ifanc," meddai rheolwr rhaglenni VFCC, Christopher Dunn.

Eglurodd eu bod yn wynebu "ystod eang o anghydraddoldebau cymdeithasol ac ariannol", a bod "ymbellhau cymdeithasol yn dwysáu'r unigrwydd" y mae'r unigolion yn ei deimlo.

Mae rheolwyr yr elusen wedi canmol "gwydnwch" yr unigolion maen nhw'n eu cefnogi, ond yn pwysleisio pwysigrwydd gallu "gweld eu gweithiwr cymdeithasol trwy Zoom neu Skype, hyd yn oed yn sydyn i weld sut maen nhw".

'Digon i roi'r felan ichi'

Mae Sarah Crombie, 19, yn byw mewn tŷ â chymorth yn Nhorfaen wedi dwy flynedd mewn gofal.

Mae'n dweud ei bod wedi teimlo'n unig er bod ganddi ffôn a gliniadur, ac wedi cael pwl o iselder yn ystod pythefnos cyntaf y cyfyngiadau.

Ond mae sawl ffrind sydd mewn gofal, neu wedi gadael gofal, heb unrhyw ddyfeisiadau electroneg o gwbl.

"Pan 'dych chi ar ben eich hun, mae'n ddigon i roi'r felan i chi," meddai.

"Y rhan fwyaf o'r amser, yr unig gyfle i siarad ag unrhyw un yw'r cysylltiad gyda'ch cynghorydd personol neu weithiwr cymdeithasol, ac mae hynny'n gyfyng iawn.

"Ni'n gwybod bod ganddyn nhw lwyth gwaith mawr, ond ar yr un pryd mae'n anodd cysylltu gyda nhw hyd yn oed trwy neges destun neu alwad ffôn. Mae angen iddyn nhw gysylltu â phobl ifanc yn amlach."

Mae Sarah wedi gwneud yn ddigon da yn y coleg i ystyried mynd i un o ddwy brifysgol, ond gan fod diwrnodau agored wedi'u canslo, mae'n dweud nad yw'n gallu gwneud penderfyniad heb arweiniad.

Mae hi hefyd yn poeni am y posibilrwydd o gael ei heintio wrth i denant newydd symud i'w hadeilad, ble mae rhai adnoddau'n cael eu rhannu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Comisiynydd Plant, Sally Holland hefyd yn pryderu am effaith cyfyngiadau ar les plant a phobl ifanc

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland wedi galw ar bobl i gofio "fod pobl ifanc yn gallu bod yn unig hefyd".

Ychwanegodd: "Dychmygwch, am eiliad, byw trwy'r cyfyngiadau mewn bedsit ar ben eich hun, yn 18 oed, heb gefnogaeth teulu, bron dim arian, problemau iechyd corfforol a meddyliol o bosib, a mynediad prin i ddyfais ddigidol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn parhau i weithio'n galed eithriadol i oresgyn y rhwystrau yma drwy deilwra [gwasanaethau] yn ôl anghenion unigol a sicrhau eu bod yn cyflawni'u dyletswyddau statudol."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod cynllun gwerth £3m wedi ei sefydlu i roi gliniaduron a wifi symudol 4G i ddisgyblion "dan anfantais ddigidol".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi cael sicrwydd gan benaethiaid gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru fod plant mewn gofal yn cael cefnogaeth i gynnal cysylltiadau gyda pherthnasau a ffrindiau yn ystod y pandemig."