Covid-19: Addewid o £23m yn ychwanegol i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd yn darparu hyd at £23m o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i'w helpu ymateb i argyfwng coronafeirws yng Nghymru.
Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gymreig ei bod yn ymateb wedi i Lywodraeth y DU addo ariannu gwasanaeth i fonitro pobl ddi-gartref yn Lloegr. Maen nhw'n dweud bod y cyfanswm sy'n dod i Gymru wedi cynyddu i dros £2.2 biliwn.
Mae'r hwb ariannol yn dilyn penderfyniad llywodraeth San Steffan i ddarparu degau o filoedd o brofion gwrthgyrff ar draws Lloegr. Y llywodraeth hon sydd hefyd yn trefnu dosbarthu'r profion ar ran holl wledydd y DU.
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio'r profion orau.

Simon Hart - Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: "Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i wneud popeth posib i orchfygu'r coronafeirws.
"Ry'n ni'n cefnogi Llywodraeth Cymru i wynebu'r heriau aruthrol mae'n ei wynebu, gan ddarparu £23 miliwn yn fwy o gyllid.
"Mae'r gyllideb ychwanegol yn pwysleisio ein dymuniad i symud ymlaen gyda'n gilydd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws."

AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
