Y gwyddoniaeth tu ôl i gynlluniau codi'r cloi
- Cyhoeddwyd
Draw yn Lloegr, mae yna ddyddiadau wedi eu cyhoeddi ynglŷn â phryd fydd cyfyngiadau cymdeithasol yn cael eu codi. Nid oes dyddiadau tebyg wedi eu cyhoeddi yng Nghymru eto, ac a hithau'n 10fed wythnos o 'lockdown' mae golygon nifer ohonom ni ar y dyddiau pan fydd gennym ni fwy o ryddid.
Ond ni fydd pethau'n llacio nes ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny, ac un o'r elfennau sydd yn cael ei ddefnyddio i fesur hynny yw'r rhif R.
Dyma'r Reproductive Number - y rhif atgenhedlu, sydd yn dweud wrthym faint o bobl sy'n debygol o gael eu heintio gan berson sy'n sâl â chlefyd.
Yn y bôn, mae'n dweud wrthym y siawns o drosglwyddo rhwng pobl ac mae'n un o'r amodau y mae'r llywodraethau'n eu defnyddio i benderfynu pryd a sut i ddechrau esmwytho mesurau cloi cymdeithasol.
Sut mae rhif R yn cael ei gyfrif?
Mae'n anodd iawn cyfrif y cyfraddau trosglwyddo mewn amser real, felly mae gwyddonwyr yn gweithio yn ôl, gan ddefnyddio'r data sydd ar gael iddynt - fel nifer y derbyniadau i'r ysbyty, marwolaethau a phrofion positif - i amcangyfrif pa mor hawdd mae'r firws yn cael ei drosglwyddo.
Os yw'r niferoedd yma yn gostwng, bydd y rhif R yn gostwng hefyd.
Oherwydd na allwn ni gasglu data mewn amser real, mae'r rhif R ar ei hôl hi o 2-3 wythnos. Mae hefyd yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau.
Felly dim ond fel amcangyfrif o'r hyn sy'n digwydd mae gwyddonwyr yn ei ddefnyddio, ac felly 'dyw ond yn un o'r dangosyddion mae'r llywodraeth yn eu defnyddio i wneud penderfyniadau ar gloi cymdeithasol.
Yn yr un modd na fyddai'r gyfraith byth yn carcharu person ar sail un darn o dystiolaeth yn unig, mae'r un peth yn wir am dystiolaeth wyddonol a gwneud penderfyniadau: rhaid pwyso a mesur sawl darn o dystiolaeth.
A yw'r rhif R yr un fath ledled y DU?
Mae'r rhif R yn amrywio'n fawr ledled y DU, yn rhanbarthol o fewn Cymru, ac hyd yn oed yn amrywio mewn cymunedau a lleoliadau.
Mewn adroddiadau ganol mis Mai, gosodwyd rhif R Llundain rhwng 0.4-0.6, Cymru yn 0.8 ac 1 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r rhif R yn seiliedig ar amcangyfrifon ac yn pennu'r risg o drosglwyddo.
Bydd y rhif R yn is mewn cymunedau gwledig o gymharu â dinasoedd wrth i'r siawns o ddod i gysylltiad â pherson arall leihau.
Bydd hefyd yn is mewn lleoliadau awyr agored o gymharu â lleoliadau dan do.
Mae'n debyg y bydd y ffeithiau hyn yn adlewyrchu'r ffordd y mae mesurau cloi yn cael eu llacio yng Nghymru.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
GWYDDONIAETH: Imiwnedd yn erbyn coronafeirws: Beth sy'n bosib
Gwyddoniaeth tu ôl i'r cynlluniau llacio
Mae llywodraethau Lloegr a'r Alban wedi nodi eu mesurau i godi cloi. Yn y ddau gynllun, gweithgareddau awyr agored yw rhai o'r cyfyngiadau cyntaf i gael eu codi. Mae'r mesur hwn yn adlewyrchu'r ffaith y bydd y rhif R yn isel ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau.
Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r buddion iechyd meddwl a chorfforol y gall awyr iach ac ymarfer corff eu darparu i'r boblogaeth.
Ail-agor tafarnau yw un o'r mesurau olaf ar y rhestr i'w codi, heb ddyddiad clir wedi'i bennu pryd y gallai hyn ddigwydd. Mae hyn oherwydd bydd y rhif R yn uchel ar gyfer gweithgareddau dan do sy'n gymdeithasol iawn, fel y tu mewn i dafarnau.
A yw ail don yn debygol?
Nid yw unrhyw ddau feirws yr un peth ac mae llu o ffactorau i'w hystyried wrth ystyried posibilrwydd ail don.
Mae hanes wedi ein dysgu bod ail don yn bosib, ond os ydym yn llwyddo i gadw'r rhif R o dan 1 yna byddwn yn gallu atal ail don. Dyna pam y bydd mesurau fel pellhau cymdeithasol ac olrhain cyswllt yn bwysig wrth i'r mesurau cloi cael eu godi.
Mae gwyddoniaeth yn dal i geisio ateb nifer o bethau anhysbys ynghylch y math hwn o goronafeirws;
a yw pobl yn datblygu imiwnedd,
a oes amrywiad tymhorol yn y ffordd y mae'r firws yn lledaenu,
ac a fydd y feirws yn trawsnewid i fod yn fwy neu lai angheuol.
Byddai datblygu brechlyn yn helpu'n ddramatig i atal ail don, ond tan hynny mae'n bwysicach nag erioed i ddilyn canllawiau newydd tra bod mesurau cloi ledled y DU yn dechrau cael eu codi.