Coronafeirws yn taflu goleuni newydd ar ddatganoli

  • Cyhoeddwyd

Wrth i wahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ymateb yn wahanol i'r argyfwng Covid-19, mae'r pandemig wedi taflu goleuni newydd ar ddatganoli. Felly oes yna le i gredu bod ymwybyddiaeth pobl o waith Senedd Cymru wedi gwella? Ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies sydd wedi bod yn sgwrsio gyda sylwebwyr a gwleidyddion.

"Mae yna gyfnodau mewn gwleidyddiaeth ac mewn bywyd cyhoeddus ble mae rhywbeth yn torri trwyddo i'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth," meddai Llywydd Senedd Cymru wrtha'i, "ac mae'r drafodaeth ar coronafeirws a'r penderfyniadau ynglŷn â coronafeirws yn sicr wedi gwneud hynny yng Nghymru."

Ers dechrau datganoli dros 20 mlynedd yn ôl mae'n anodd meddwl am unrhyw adeg arall ble mae gwahaniaethau polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi creu cymaint o ddiddordeb - yma a thu hwnt.

Pam fod pobl yn Lloegr yn cael teithio ond bod yn rhaid i bobl Cymru aros mor lleol â phosib i'w cartref?

Pam fod yna gynlluniau i ailagor ysgolion yn Lloegr ddydd Llun nesa', ond nid yng Nghymru?

Maen nhw'n gwestiynau amlwg i'w gofyn a'r ateb yw taw dwy lywodraeth wahanol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yng Nghymru ac yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones yn weinidog amaeth yn 2007

Ond beth bynnag fo barn etholwyr am y penderfyniadau hynny does dim amheuaeth, yn ôl y Llywydd, Elin Jones, bod ymwybyddiaeth pobl o ddatganoli wedi gwella.

Mae hi'n cymharu'r sefyllfa gydag argyfwng clwy'r traed a'r genau yn 2007 pan roedd hi'n weinidog amaeth ac yn gweld ffermwyr yn ymgyfarwyddo â datganoli.

Y gwahaniaeth mawr y tro hwn wrth gwrs yw bod "pob un unigolyn yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau yma".

"Felly nawr mae bron pob un ohonyn nhw'n ymwybodol o le mae penderfyniadau i reoli'r haint yma'n digwydd, ac mae hynny'n digwydd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru," meddai.

Mae'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru'n cytuno. "Mae rhywbeth wedi newid yn y cyfnod hwn," meddai.

"Mae pobl nawr yn siarad gyda fi, pobl oedd â dim diddordeb o gwbl yng ngwleidyddiaeth Cymru, yn dweud 'wel nawr fi'n deall beth mae'r llywodraeth yn neud a pa fath o bwerau sydd gan y Senedd a'r llywodraeth hefyd'.

"Mae hwn yn beth pwysig a pheth da."

A beth am yr ymateb yn Lloegr? Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yr wythnos diwethaf ei bod hi'n ymddangos bod pobl yn Lloegr wedi deffro o'r diwedd ar ôl bod mewn trwmgwsg ers dechrau datganoli.

"Dwi'n credu am y tro cyntaf mae pobl wedi sylweddoli mae yna bedair gwlad yma," meddai'r sylwebydd gwleidyddol, Syr Deian Hopkin.

"Beth sy'n ddiddorol am ffin ydy mae'n anweledig nes bo chi'n cael rheolaeth wahanol, a dwi'n credu be sydd wedi digwydd yw bod pobl yn croesi'r ffin ac mae'r gyfraith yn wahanol, mae'r addysg yn wahanol ac i'r graddau hynny dwi'n meddwl bod ni nawr yn gweld aeddfedrwydd datganoli.

"Mae datganoli wedi cyrraedd o ddifri'."

Mae yna rai sy'n dadlau bod y gwahaniaethau polisi rhwng gwahanol lywodraethau'r Deyrnas Unedig yn creu dryswch ac yn codi cwestiynau am werth datganoli.

Daeth galwad yn ddiweddar gan Aelod Seneddol Ceidwadol yn ardal Amwythig i ailfeddwl a oes angen Senedd yng Nghymru o gwbl.

Cafodd y sylw yna ei feirniadu gan Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn, ond mae gan eraill eu pryderon hefyd.

Dywedodd Llŷr Powell o Blaid Brexit bod datganoli wedi creu "mwy o broblemau" yn ystod y pandemig.

"Fi'n falch iawn bod mwy o bobl yn gwybod pa bwerau sydd fan hyn, ond ar y funud byddwn i'n lico gweld un neges yn dod mas fel bod pobl yn gw'bod beth i'w wneud i gadw pawb yn saff - dim rhyw fath o vanity project fel ni'n gweld fan hyn."

Tra bod lle i gredu bod mwy o bobl bellach yn ymwybodol o bwrpas a gwaith Senedd Cymru, mae'n debyg y bydd yn rhaid aros tan yr etholiad fis Mai nesa i gael gwell syniad o wir effaith yr argyfwng ar ein democratiaeth.

Dim ond 45.3% o etholwyr Cymru fwriodd eu pleidlais yn 2016. Dydy'r ffigwr hwnnw erioed wedi bod yn uwch na 46%. A fydd pethau'n wahanol ymhen blwyddyn?