Ateb y Galw: Y cerddor Heledd Watkins
- Cyhoeddwyd

Y cerddor Heledd Watkins sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Katie Hall yr wythnos diwethaf.
Heledd yw un hanner y band seicadelic HMS Morris.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Wel, pan o'n i'n fach iawn iawn o'n i'n hoff iawn o lanw bwced â lego mawr a wedyn tipio'r lego dros y'm mhen a gadael y bwced ar fy mhen a gweiddi 'Maaaaaam'. Credu o'n i'n hoffi'r teimlad o lego yn cwmpo drosta i a hefyd o'n i'n hoff iawn o'r sŵn o'n i'n creu yn y bwced, yr echo a'r reverb. Falle bod hyn yn dweud lot am y math o berson ydw i nawr - fydd angen seicolegydd i ddadansoddi hynny.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Does dim lot o atgof gen i o ffansio rhywun penodol pan yn iau, o'n i'n meddwl bod bechgyn yn ych a fi am sbel fawr (dal yn meddwl hynny rili...) Ond galla i ddweud wrtho chi pwy fi'n ffansio nawr - Paul Dano, Adam Driver a Cillian Murphy. Unrhyw actor sy'n gallu chwarae rhannau tywyll a dirgel, a sydd â llygaid tamed bach yn frawychus.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi'n cofio'r foment yn glir. Diwedd ail flwyddyn yn y coleg, o'n i ar gwrs BA drama ac yn perfformio Y Bacchae gan Euripides. Roedd yna ran o'r sioe lle o'dd y corws i gyd yn gwneud symudiadau fel bod nhw mewn rhyw fath o swyngwsg yn erbyn catwalk o'dd wedi ei osod ynghanol yr ystafell (anodd esbonio). Ro'n ni gyd mewn shorts a crys t gwyn, a dwi'n cofio'n iawn, fi oedd yr olaf i gael gwisg a ro'dd yr unig shorts ar ôl rhyw ddau faint rhy fawr i fi. O'n nhw'n ofnadwy a o'n i'n trio ngore i glymu nhw'n dynn fel bo' nhw ddim yn cwympo lawr.
Ond un perfformiad, ro'n i'n mynd amdani efo'r dawnsio a lawr â'r shorts. Nes i esgus fel bod dim byd yn bod a cicio nhw'n gyflym allan o'r ffordd o dan y catwalk a gobeithio fydde neb yn sylwi. Wrth gwrs, o'n i wedi anghofio mod i'n gwisgo pants superman odanodd, felly roedd hi'n go amlwg. Nes i gario mlaen hyd diwedd y ddawns wedyn gadael yn dawel allan o'r drysau ar yr ochr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Tua pythefnos yn ôl yn gwylio'r film 1917. Os y'ch chi 'di gweld hi chi'n gwbod pam. Dim spoilers.

Enillodd y ffilm Rhyfel Byd Cyntaf, 1917, nifer o wobrau - ac achosi llawer o ddagrau...
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bydde mhartner i'n dweud mod i'n ddi-drefn a ddim yn edrych ar ôl fy stwff, ond fi'n anghytuno ac yn meddwl mod i'n berffaith ym mhob ffordd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ma' gen i sawl hoff le, ond mae rhai o'n atgofion melysa i yng Nghil-y-Cwm, rhyw 10 munud lawr yr hewl o Lanymddyfri lle ges i fy magu.
Roedd yna ddwy ŵyl yng Nghil y Cwm bob blwyddyn, Gŵyl Menter Bro Dinefwr a Gŵyl y Cenhedloedd Bychain. Yn y gwyliau yma chwaraeais i fy ngigs cynta i a dechre dysgu go iawn sut i berfformio ar lwyfan. Fi mor ddiolchgar i'r trefnwyr am roi'r cyfleoedd yna i ni. Ma' Cil y Cwm hefyd yn bentref mor brydferth, cewch os y'ch chi byth yn cael cyfle.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Erioed! Ooooof, anodd.
Un o'r goreuon oedd yn ystod trip i Tokyo llynedd Mae gen i ffrind o'r enw Dai sy'n byw allan yn Tokyo, a mae e'n gwybod am yr holl lefydd da a diddorol i fynd ynghanol Tokyo. Ro'n ni newydd berfformio am y tro cynta yn Japan ac ar dipyn o high ar ôl hwnnw, a cyn i ni sylweddoli ro'n ni mewn booth karaoke (sy'n hiwj yn Japan) nes tua 5 y bore efo rhai o ffrindiau Dai.
Roedd un ffrind penodol ganddo o'r enw Daiki oedd yn gallu canu pob gair o bob cân Disney erioed. Y peth mwya difyr dwi 'di gweld ers blynyddoedd, Daiki os wyt ti'n darllen hwn - diolch yn fawr.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Greddfol, cystadleuol, sinsir (ar hyn o bryd).
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Mae rhwng The Goonies a Splash.
O'n i eisiau bod yn un o'r Goonies pan o'n i'n fach siwt gymaint, a cwrdd â One Eyed Willy a bod yn ffrind gorau i Sloth.
O'n i hefyd eisiau bod yn Daryl Hannah yn Splash - pwy sy' ddim eisiau bod yn fôr-forwyn? Ma' 'na ddarnau go drist yn y film yna a dwi dal methu credu aeth Tom Hanks i fyw yn y môr efo hi ar ddiwedd y ffilm a gadael pob dim ar y ddaear ar ôl.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Efallai Ru Paul. Mae yna lot alla i ddysgu wrth Ru Paul fi'n credu - sut i fod yn hyderus ar y llwyfan, sut i wneud yng ngolur yn well (fi ddim yn grêt efo colur). Hoffen i hefyd glywed am ei brofiadau yn Efrog Newydd yn yr 80au a'r 90au.

Mae'r gyfres Americanaidd RuPaul's Drag Race wedi bod yn hynod boblogaidd, ac fel gafodd fersiwn Prydeinig ei chreu y llynedd
Beth yw dy hoff gân?
Mae'n annheg gofyn y cwestiwn yma i gerddor...
Ma na bedair cân yn y pwll o hoff ganeuon a dwi'n symud rhwng rhain yn dibynnu ar y mŵd.
1. Cyndi Lauper - Good Enough - ewch i edrych am y fideo ohoni hi'n perfformio'r gân yn fyw o Paris ar YouTube - anhygoel.
2. Dolly Parton - Jolene
3. T'Pau - China in your hand
4. Kate Bush - Runing up that Hill
Does dim gwell na menyw cryf ac emosiynol sy'n canu o'r galon.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Cregyn gleision marinère, ond nid unrhyw gregyn gleision - o na. Mae'r cregyn gleision gore erioed ar gael mewn tafarn o'r enw'r The Ship Inn yn Polruan yng Nghernyw. Rheiny os gwelwch yn dda, efo 'chydig o fara ar yr ochr.
Prif gwrs - Lobster roll efo llwyth o fenyn â chips tenau.
Pwdin - Snickers Ice Cream. Syml ond effeithiol.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i ar dîm buddugol pencampwriaeth pêl-rwyd Ysgolion Sul Cymru yn y flwyddyn 2000. MIC DROP.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Wel, ma' pawb sy'n nabod fi'n gwbod mod i'n caru cŵn poeth; sosejys frankfurter yw'r peth gore yn y byd. Dwi ddim yn bwyta cig rhagor, ac rwy'n gweld eisiau nhw siwt gymaint!
Felly, fe fydden ni'n eistedd yn yr ardd efo ci poeth mewn un llaw a mojito yn y llaw arall yn gwylio holl berfformiadau Glastonbury dros y blynyddoedd ar sgrin fawr.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Controversial... Hoffen i fod yn Donald Trump am ddiwrnod. Fi wir ishe gwbod siwt mae ei ymennydd e'n gweithio, ma' fe'n baffling. Fi ishe dysgu ei gyfrinache i gyd a wedyn pan fydda i nôl yn fy ngorff fy hun, rhannu nhw â'r byd a gwneud yn siŵr fod e byth yn arlywydd eto.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Elan Elidyr