Wyt ti'n siarad fel Dafydd ap Gwilym?

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ap GwilymFfynhonnell y llun, Wikipedia

Pwy fyddai'n meddwl mai yng ngherddi y bardd o Lanbadarn y gwelon ni eiriau fel 'bach' a 'siarad' am y tro cyntaf nôl yn yr 14eg ganrif?

Ond yn wir, mae dylanwad Dafydd ap Gwilym i'w weld yn glir ar ein Cymraeg ni heddiw, yn ôl yr Athro Dafydd Johnston.

Yn ei lyfr Iaith Oleulawn: Geirfa Dafydd ap Gwilym, mae'n edrych ar y geiriau a ddefnyddiodd y bardd, a gyda chymorth Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol, yn sylwi bod y cerddi yn adrodd hanes rhai o'r geiriau rydyn ni dal i'w defnyddio.

Geiriau newydd

Mae dros 900 o eiriau wedi eu cofnodi am y tro cyntaf yng ngherddi Dafydd, ac mae llawer ohonynt yn gyffredin hyd heddiw, yn enwau ar bethau bob-dydd na fu sôn amdanynt mewn llenyddiaeth o'r blaen, fel rholbren a twlc, a rhannau o'r corff fel y talcen a'r ffêr a gafodd ddolur yn Trafferth mewn Tafarn.

Un o eiriau mwyaf cyffredin a chartrefol yr iaith Gymraeg yw bach, ac mae'n dipyn o syndod bod hwn wedi dod i'r amlwg am y tro cyntaf yng nghyfnod Dafydd ap Gwilym.

Mae'r union berthynas â'r hen air bychan yn ansicr, ond roedd yn fwy teimladwy na hwnnw, yn cyfleu anwyldeb, a hefyd ambell waith ddirmyg. Dafydd oedd y cyntaf i fanteisio ar naws gynnes 'bach', gan ei ddefnyddio am adar - 'eos befrdlos bach' - ac am ferched - 'dynan fechan fach'.

Fe'i defnyddiodd hefyd i gyfleu ei ddirmyg tuag at ŵr Morfudd. 'Y Bwa Bychan' oedd llysenw hwnnw yn ôl cofnodion swyddogol ardal Aberystwyth, ond mynnodd Dafydd ei alw 'Y Bwa Bach' gan awgrymu ei fod yn debycach i blentyn na dyn go-iawn.

Gair na allen ni wneud hebddo yw siarad, ond mae hwn i'w weld am y tro cyntaf yng ngherddi Dafydd, lle mae'n cyfeirio ddwywaith at sŵn adar. Daeth yn gyffredin yn fuan wedyn am leferydd dynol, felly dyma ni'n gweld Dafydd yn dal ar air ar gychwyn ei ddefnydd.

Does dim tarddiad sicr i siarad, ond efallai fod rhyw gyswllt rhyngddo a'r Saesneg chatter, gair arall a ddynodai drydar adar yn wreiddiol ac wedyn iaith pobl.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Geiriau traddodiadau cyfnod

Mae rhai geiriau newydd yn rhoi cipolwg ar ofergoelion yr oes. Un sy'n digwydd sawl tro yng ngherddi Dafydd yw ellyll, ac mae un esiampl yn arbennig yn rhoi syniad am natur y creadur hwn, ac yn dangos hefyd hoffter Dafydd o chwarae ar ystyron deublyg geiriau.

Mewn cywydd am y profiad o aros yn ofer y tu allan i dŷ ei gariad gyda'r nos, dywed Dafydd:

Yna y mae f'enaid glân

A'm ellyll yma allan.

Yma, mae'n chwarae ar ddwy ystyr enaid, ei 'ysbryd' a hefyd ei 'anwylyd', sef Morfudd (ac ar ddwy ystyr glân, 'pur' a 'hardd').

Gallwn gasglu o hyn mai corff heb enaid (math o zombie) oedd ellyll.

Geiriau benthyg

Daeth llawer o eiriau newydd i mewn i'r Gymraeg yn y cyfnod hwn fel benthyciadau o ieithoedd eraill. Yn sgil y Goncwest a ddigwyddodd ychydig cyn i Dafydd gael ei eni, byddai Ffrangeg a Saesneg i'w clywed yn gyffredin yn nhrefi newydd Cymru ac yn llysoedd yr uchelwyr.

Roedd Dafydd yn fentrus iawn yn ei ddefnydd o eiriau benthyg mewn ffyrdd annisgwyl, fel pan ddisgrifiodd ei aelod rhywiol ei hun fel 'gwn ar gynnydd'. Nid rhyw ddryll bach tila fyddai'r gwn hwnnw, ond canon mawr yn poeri tân.

Technoleg filwrol newydd sbon oedd y gwn, ac er mai trwy'r Saesneg y daeth y gair, mae enghraifft Dafydd yn gynharach o dipyn na'r un gyntaf yn y Saesneg ei hun.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Johnston
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Ystyron newydd

Yn ogystal â geiriau newydd, mae sawl esiampl yng ngherddi Dafydd o hen eiriau'n cael eu defnyddio mewn ystyron newydd.

Gair a newidiodd ei ystyr yn llwyr yn y cyfnod hwn yw rheg.

Roedd yn gyffredin iawn yn yr hen farddoniaeth yn yr ystyr 'anrheg'. Yn y gerdd Merched Llanbadarn gwelwn yr enghraifft gynharaf o'r ystyr fodern 'melltith' wrth i un o'r merched ddiawlio'r bardd, ac yntau'n synnu cael y fath 'anrheg' ganddi.

Geiriau eraill a fagodd ystyron negyddol a welir am y tro cyntaf gan Dafydd yw gwirion ('pur' ac wedyn 'ffôl') a cyfrwys ('celfydd' ac wedyn 'dichellgar').

Ffynhonnell y llun, Gwasg Prifysgol Cymru

Mae llawer o eiriau newydd Dafydd wedi eu ffurfio trwy ychwanegu elfennau i fôn gair arall, ac yn hyn o beth roedd Dafydd yn manteisio ar batrymau cynhenid yr iaith.

Roedd yn hoff iawn o'r rhagddodiad di-, fel yn diamynedd a diarffordd, ac yn ei gerddi ef y ceir yr enghreifftiau cynharaf o ddwy ffurf sy'n dal yn gyffredin iawn ar lafar, sef difyr - 'hyfryd' - a diflas - 'anhyfryd'.

Mae modd hefyd rhoi dau air at ei gilydd i greu gair cyfansawdd, fel yr un a luniodd Dafydd i gynganeddu enw merch fonheddig: Dyddgu ddiwaradwyddgamp ('heb ddiffyg o gwbl ar ei rhinweddau').

Ar un olwg, geiriau mawreddog fel hwn oedd uchafbwynt ei grefft farddol a'r 'iaith oleulawn' y broliodd amdani. Ond mewn gwirionedd y peth syfrdanol yw ehangder ei eirfa a'r modd y mae'n adlewyrchu iaith fyw sy'n newid o hyd.

Dyna un o'r rhesymau pam y mae barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn dal i ennyn ymateb mor gryf gan ddarllenwyr heddiw.

Hefyd o ddiddordeb: