Rhybudd y gallai 'cannoedd' o fyfyrwyr orfod gadael eu cwrs
- Cyhoeddwyd
Gallai cannoedd o fyfyrwyr oedd mewn gofal neu'n byw i ffwrdd o'u teuluoedd orfod gadael y brifysgol oherwydd y pandemig coronafeirws.
Dyna rybudd elusen Unite Foundation, sy'n dweud bod swyddi'n brin ac nad yw'r myfyrwyr hynny'n gallu dibynnu ar symud adref at "fanc mam a dad".
Maen nhw eisiau i Gymru a Lloegr efelychu grant brys fel sydd wedi'i gynnig yn yr Alban.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnig y "pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU".
Ychwanegodd Llywodraeth y DU eu bod wedi darparu £23m ar gyfer cronfa caledi myfyrwyr ym mis Mehefin a Gorffennaf.
'Gwasgfa o ddau gyfeiriad'
Yn ôl ffigyrau o fis Rhagfyr gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, roedd tua 340 o fyfyrwyr yng Nghymru wedi colli cyswllt â'u teuluoedd.
Gall hynny fod am sawl rheswm, gan gynnwys trais teuluol, anghydweld ar werthoedd, a phobl ifanc ddim yn cael eu derbyn am eu rhywioldeb.
Fe aeth Stacey Watson, 20, i mewn i ofal maeth pan oedd hi'n 12 oed, ac fe wnaeth elusen Fabric o Abertawe ei helpu i sicrhau lle yn y brifysgol yn astudio gofal mamolaeth.
Mae hi wedi bod yn gweithio i gynnal ei hun drwy ei hastudiaethau, ac yn dweud ei bod hi'n lwcus fod dal ganddi swydd yn ystod y pandemig.
"Heb y gefnogaeth deuluol, allwch chi ddim gweld neb, gwneud unrhyw beth, a 'dych chi ar eich pen eich hun," meddai Stacey.
"Ie, mae gennych chi amser i astudio ond 'dych chi hefyd yn meddwl, sut allai fforddio i siopa bwyd wythnos 'ma neu wythnos nesa' os allai ddim gweithio i gael yr arian yna?"
Mae ymchwil eisoes yn dangos bod y myfyrwyr hyn yn fwy tebygol o stopio'u hastudiaethau, yn ôl cyfarwyddwr yr elusen Eluned Parrott, ac mae'r pandemig ond wedi gwaethygu hynny.
"Pan wnaeth pawb arall bacio lan a gadael y campws, doedd rhai pobl methu mynd adref achos doedd ganddyn nhw nunlle i fynd," meddai.
"Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o lefydd fyddai fel arfer yn cyflogi myfyrwyr hefyd wedi cau. Felly mae'n wasgfa o ddau gyfeiriad."
Ychwanegodd: "Does dim llawer o lefydd eraill ganddyn nhw i droi."
'Pecyn cymorth hael'
Dywedodd Ms Parrott fod rhai'n gorfod cysgu ar soffas, mynd i ragor o ddyled, neu adael y brifysgol yn gyfan gwbl.
Doedd cronfeydd caledi prifysgolion, sydd fel arfer yn un taliad o ychydig gannoedd o bunnoedd, ddim chwaith yn ddigon i wneud gwahaniaeth, meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ganddynt y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU, gan gynnwys grantiau o hyd at £10,124 i bobl sy'n gadael gofal.
"Ni yw'r unig wlad yn Ewrop gyfan sy'n darparu grantiau a benthyciadau o flaen llaw ar gyfer costau byw i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig llawn amser a rhan amser," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg Llywodraeth y DU: "Er mwyn helpu'r rheiny sydd fwyaf mewn angen, rydyn ni wedi gweithio gyda'r Swyddfa Myfyrwyr i helpu prifysgolion i ddefnyddio'r £23m y mis ar gyfer Mehefin a Gorffennaf tuag at gronfeydd caledi myfyrwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020