Gwefan ar agor i archebu profion Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
prawf mewn canolfan gyrru-i-mewn

Mae pobl yng Nghymru bellach yn gallu archebu profion coronafeirws drwy wefan sy'n cael ei ddefnyddio gan weddill y DU.

Pythefnos yn ôl fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dewis defnyddio'r system honno yn hytrach na datblygu un eu hunain.

Ond doedd yr opsiwn i ddefnyddio gwefan Llywodraeth y DU i archebu prawf mewn canolfan yrru-i-mewn ddim ar gael yn syth yng Nghymru.

Ddydd Sadwrn cafwyd cadarnhad fod hynny bellach yn bosib.

14 marwolaeth arall

Mae modd hefyd archebu cit drwy'r post er mwyn cynnal prawf adref, ac fe ddylai hwnnw gyrraedd o fewn diwrnod.

I weithwyr allweddol, mae modd iddyn nhw archebu prawf drwy gysylltu gyda chanolfannau profi yn uniongyrchol.

Roedd dros 11,000 o brofion wedi eu cwblhau mewn canolfannau gyrru-i-mewn yng Nghymru erbyn 24 Mai, gyda chanlyniadau 95% o'r rheiny yn dod yn ôl o fewn 48 awr.

Mae 27,600 o brofion pellach hefyd wedi digwydd mewn unedau profi.

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ddydd Sadwrn bod 14 person arall bellach wedi marw o Covid-19 yng Nghymru.

Mae'n golygu bod cyfanswm o 1,331 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif o'r haint.

Cafodd 86 achos arall hefyd eu cadarnhau, gan ddod â chyfanswm y nifer sydd wedi cael prawf positif yng Nghymru i 13,913.