Sut ydw i'n archebu prawf Covid-19 yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno gyda system Llywodraeth y DU o drefnu profion coronafeirws i bobl - ond mae'r broses yn parhau i fod yn wahanol yma.
Os ydych yn credu eich bod angen prawf mae ffyrdd gwahanol o fynd ati i drefnu un - yn dibynnu os ydych yn aelod o'r cyhoedd neu weithiwr hanfodol.
Precynnau profi yn y cartref i'r cyhoedd
Os oes gennych o leiaf un symptom o Covid-19 - tagu'n barhaus, gwres, colli'r gallu i flasu neu arogli - fe ddylie chi fod yn gallu archebu pecyn profi yn y cartref dros y we.
Nid yw'r profion yn addas i blant dan bump oed.
Er mwyn sicrhau prawf mae angen galw 119 neu mynd i'r wefan hon, dolen allanol a chlicio ar "request a home test kit".
Mae galw mawr wedi bod ar y gwasanaeth yma ac am gyfnodau yn ystod y dyddiau diwethaf nid oedd modd sicrhau pecyn prawf.
Beth am weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae Llywodraeth Cymru'n cynghori gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n dangos symptomau i siarad gyda'u cyflogwyr am gyngor am y ffordd orau i dderbyn prawf Covid-19.
Beth am 'weithwyr hanfodol' eraill?
Gall "gweithwyr hanfodol" eraill gydag o leiaf un symptom o cornafeirws wneud cais am becyn profi yn y cartref ar y wefan yma, dolen allanol.
Er fod modd i'r cyhoedd dderbyn pecyn profi, mae blaenoriaeth i weithwyr hanfodol ar hyn o bryd.
Neu fe all weithwyr hanfodol archebu lle mewn canolfan brofi gyrru-i-mewn neu canolfan brofi symudol.
Er mwyn gwneud hyn mae angen i bobl gysylltu gyda'u canolfan agosaf. Mae lleoliad y canolfannau a'u manylion cyswllt ar gael yma., dolen allanol
Mae rhestr o swyddi sydd yn cael eu hystyried fel rhai hanfodol yng Nghymru ar gael yma., dolen allanol
Yn wahanol i'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon nid oes modd archebu lle dros y we mewn canolfan profion gyrru-i-mewn neu ganolfan symudol yng Nghymru.
Bydd clicio ar y dewis ar gyfer Cymru yn eich harwain i wefan Llywodraeth Cymru sydd yn eich cynghori i gysylltu gyda'ch canolfan brofi lleol, fel sy'n cael ei esbonio uchod.
Mae disgwyl y bydd y drefn yn newid yn y dyfodol fel bod modd gwneud hyn, ond nid oes dyddiad wedi ei osod eto.
Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddai modd i weithwyr hanfodol a'r cyhoedd ddefnyddio gwefan y DU gyfan i archebu lle mewn canolfannau gyrru-i-mewn neu rhai symudol "yn fuan".
Pryd ddyliwn i gymryd y prawf?
Mae'n bwysig nodi fod angen i unigolyn gymryd y prawf o fewn y pum niwrnod cyntaf o ddangos unrhyw symptomau.
Dywed y llywodraeth mae'r peth gorau yw i wneud cais am brawf yn ystod y tri diwrnod cyntaf gan y gall gymryd "un neu ddau" ddiwrnod i'w drefnu.
Mae prawf yn chwilio am fodolaeth y feirws. Nid yw'n dweud os ydych wedi eich heintio erioed.
Nid yw'r math yna o brawf - y prawf gwrthgyrff - ar gael eto.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ddydd Mercher
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020