'Her enfawr' cefnogaeth hirdymor i gleifion Covid-19
- Cyhoeddwyd
Bydd darparu cymorth hirdymor i gleifion sy'n gwella o Covid-19 yn her "enfawr" i'r gwasanaeth iechyd, medd arbenigwyr.
Mae cyrff sy'n cynrychioli therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen strategaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau adfer (rehabilitation).
Maen nhw'n honni bod y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn "ddarniog" a heb y cymorth cywir fe allai ansawdd bywyd pobl gael ei effeithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn paratoi i ymateb i alw cynyddol am gefnogaeth a bod £10m yn cael ei roi i helpu cleifion wella o'r feirws yn eu cartrefi.
'Trawma sylweddol'
Bydd sicrhau bod cymorth adfer effeithiol ar gael yn allweddol i gyfnod nesa'r ymateb i'r argyfwng coronafeirws, yn ôl Dr Dai Davies, swyddog polisi Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol yng Nghymru.
Eglurodd bod cleifion yn profi gwendid a blinder enbyd, trafferth anadlu, symptomau niwrolegol megis diffyg canolbwyntio, yn ogystal â phryder, iselder a diffyg hyder yn eu cyrff eu hunain - effeithiau allai bara am fisoedd.
Dywedodd fod gan therapyddion galwedigaethol â rôl "o'r dechrau wrth eu helpu i eistedd, gydag ystum y corff a magu cyhyrau".
"Mae bod mewn uned gofal dwys, neu hyd yn oed jyst yn yr ysbyty gyda'r cyflwr ofnadwy yma, yn drawma sylweddol. Mae'n cael effaith seicolegol," esboniodd.
"Mae'n anodd pan ry'ch chi wedi mynd o fod yn aelod llawn a gweithgar o gymdeithas i fethu allu gwisgo'ch hun, felly mae hynny yn broblem arall sylweddol y mae ein therapyddion yn gweithio arno."
Yn ogystal â helpu cleifion Covid-19 ddychwelyd i'w bywydau bod dydd wedi triniaeth ysbyty, mae Dr Davies yn rhagweld y bydd staff yn gorfod delio ag anghenion nifer o'r 80,000 o bobl fregus yng Nghymru sy'n hunan ynysu yn eu cartrefi.
"Mae llawer iawn o bobl fydd wedi colli cyflwr, ac ry'n ni wir angen i'r gwasanaethau fod yno i ateb eu hanghenion nhw," meddai.
"Mae rehab yn mynd i fod yn enfawr i ni yn y dyfodol.
"Cyn yr argyfwng yma roedden ni'n barod yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd gwasanaethau mor dda â ddylai pobl ddisgwyl.
"Ry'n ni am weld Llywodraeth Cymru a'r gweddill ar draws y DU yn sicrhau bod gwasanaethau adsefydlu wrth galon eu sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol."
Mae hynny'n golygu "ariannu timoedd amlddisgyblaeth" yn y gymuned, meddai.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Annog gweinidogion i ddatblygu strategaeth genedlaethol wnaeth Calum Higgins, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion.
Mae'n dadlau y dylai'r argyfwng Covid-19 arwain at newid diwylliant yn y gwasanaeth iechyd fel bod adfer yn cael ei weld fel hawl claf yn hytrach na rhywbeth sy'n "neis i'w gael".
"Mae rehab yn arbed arian i'r GIG ac amser i bobl sy'n gweithio ynddo," meddai.
"Mae ystadegau'n dangos os nad y'ch chi'n rhoi rehab i bobl ar yr amser iawn... mae pobl yn cysylltu â'r GIG eto mewn cyflwr gwaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn rhagweld galw cynyddol i adfer pobl yn gwella o'r coronafeirws ac "yn paratoi i gwrdd â'r galw yma".
Bydd hefyd yn ymateb i "anghenion adfer pobl eraill sy'n gwella o gyflyrau eraill".
"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi £10m ychwanegol i gefnogi pobl sy'n gwella o coronafeirws, gan gynnwys gwell pecynnau gofal cartref," meddai.
Profiad therapyddion galwedigaethol un ysbyty
Dilynodd BBC Cymru daith Edna Unsworth, sy'n 88 oed ac o'r Rhyl, wrth iddi adael yr ysbyty ar ôl gwella o Covid-19.
Dywedodd bod staff Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan wedi bod "yn gymorth mawr".
"Doedd dim posib iddyn nhw wneud mwy," meddai.
Mae'r tîm therapi galwedigaethol wedi paratoi pecynnau hunan ynysu arbennig i gleifion coronafeirws sy'n dychwelyd adref, gan ddefnyddio arian a gyfrannwyd yn lleol.
Mae Edna yn derbyn bag mawr llawn bwyd, deunyddiau ymolchi a hylendid, gweithgareddau a chyngor o ran iechyd meddwl ac ailsefydlu patrwm i'w diwrnod yn ôl adref.
"Ry'n ni'n deall pan eu bod nhw'n mynd o'r ysbyty y gall hyn fod yn gyfnod pryderus iawn iddyn nhw a'u teuluoedd," meddai Alana MacPherson, y therapydd a gafodd y syniad.
"Ry'n ni'n gobeithio bod y pecynnau'n cynnig cysur ac yn eu helpu i deimlo'n fwy hyderus."
Yn ôl Jamy Ashton, pennaeth therapi galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer canol gogledd Cymru, bydd 'na "rôl enfawr" i'w staff wrth ymateb i'r coronafeirws.
"Mae'n anodd iawn ar yr adeg orau i ddod i'r ysbyty, ond mae mynychu gyda diagnosis newydd, brawychus a methu â chael eich teulu a'ch ffrindiau gyda chi yn ei gwneud hi'n hynod heriol," meddai.
"'Dan ni wedi gwneud lot o waith o ran rhoi cymorth, cwnsela a gweithio'n agos gyda chleifion ar eu dyheadau nhw o ran cyrraedd adre'.
"'Dwi'n falch iawn fod gen i dîm mor weithgar o therapyddion. 'Dan ni wedi gofyn i staff symud i ardaloedd nad ydyn nhw wedi gweithio ynddyn nhw ers blynyddoedd.
"'Dan ni wedi darparu hyfforddiant yn ogystal â newid ein horiau gweithio o ddydd Llun i Gwener i wasanaeth saith diwrnod yr wythnos."
Annibyniaeth arferol
Mae'r therapydd oedd yn gyfrifol am waith adsefydlu Edna yn yr ysbyty, Lindsey Macintyre, ymhlith y rhai sydd wedi symud i rôl newydd.
Mae'n arfer gweithio yn y gymuned gyda phlant a phobl ifanc, ac yn rhagweld heriau ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Dywedodd: "Fydd yr holl bobl sydd wedi bod yn hunan ynysu, yr holl hen bobl fydd wedi colli cyflwr yn eu cartrefi, cleifion fyddai fel arfer wedi dod i mewn i'r ysbyty ond sydd heb - bydd rhaid i ni drio'u hadfer nhw 'nôl i'w hannibyniaeth arferol."
Yn ôl yn ei fflat, bydd Edna yn cael ymweliad ddwywaith y dydd gan hyfforddwraig dechnegol, Beth Jones.
"Mae'n anarferol iawn i'r tîm acute adael yr ysbyty fel hyn ond dwi'n siŵr bod pawb yn gytûn ein bod ni'n barod iawn i wneud dan yr amgylchiadau," meddai Ms Macintyre.
"Mae'n golygu gyda phopeth sy'n digwydd ein bod ni'n gallu cael pobl yn ôl i'w cartrefi'n gynt a sicrhau bod ganddyn nhw'r help a'r cymorth angenrheidiol."
Dywed Edna ei bod hi'n teimlo'n hapus iawn i fod adref a'i bod "methu aros i syllu ar yr awyr las a'r haul a theimlo'n well".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020