Pryder bod addysgu gartref yn her i rieni di-Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i wneud cyhoeddiad ynglŷn ag ailagor ysgolion, mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg wedi dweud bod pob opsiwn dan ystyriaeth wrth benderfynu pa blant fydd yn dychwelyd gyntaf.
Yn ôl Eluned Morgan, un opsiwn yw cynnwys plant o gartrefi di-Gymraeg sy'n cael addysg Gymraeg.
I rai o'r teuluoedd hynny, mae addysgu gartre' wedi bod yn her.
Mae Annette Pool, sy'n fam i dri ac yn byw yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, yn poeni nad yw hi'n gallu gwneud digon i helpu'r plant gyda'u gwaith.
"Dwi'n poeni mod i wedi rhoi nhw dan anfantais wrth ddewis addysg Gymraeg a ninnau fel rhieni ddim yn gallu siarad Cymraeg," meddai.
'Profi'n her'
Dyw profiad y teulu hwn ddim yn anghyffredin - dyw 70% o'r plant sy'n cael addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ddim yn clywed yr iaith gartre'.
"Pan maen nhw yn yr ysgol maen nhw'n cael eu trochi yn yr iaith a dwi'n teimlo eu bod nhw'n dod yn eu blaenau'n dda ond mae Covid-19 wedi profi'n her, yn enwedig a ninnau'n addysgu gartre' hefyd," meddai Ms Pool.
Mae Ffredi, sy'n 10 oed, yn dweud fod yna lai o gyfle iddo siarad Cymraeg tra bod yr ysgol ynghau.
"Dwi ddim wedi siarad lot heddi," meddai. "Yn yr ysgol ro'n i'n siarad Cymraeg bob munud.
"Dwi yn cael cyfle pan dwi'n chwarae ar y cyfrifiadur gyda ffrindiau neu'n gwneud zoom neu gwis."
Yn ôl ei fam, dyw hi ddim yn poeni gymaint am golli sgiliau llafar ond mae hi yn poeni am ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg.
Ag yntau wedi ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg, mae pennaeth Ysgol Treganna yn y brifddinas yn dweud na ddylai rhieni boeni'n ormodol.
Mae Rhys Harries yn dadlau mai agwedd teuluoedd at yr iaith sy'n bwysig.
"Mae'r atgofion fydd gan y plant am weithgareddau yn mynd i bara'n hirach nag unrhyw gynnydd academaidd neu ieithyddol yn ystod y cyfnod hwn," meddai.
"Dwi'n meddwl bod agwedd at iaith yn arfogaeth bwysicach na'r gallu ieithyddol.
"Ry'n ni'n gwybod sut i ddysgu plant i siarad Cymraeg fel addysgwyr, ond y darn anos - ac mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn hyn - yw pam.
"Pam ddylen ni siarad Cymraeg? Pam ddylen i ddefnyddio fy iaith?"
'Popeth dan ystyriaeth'
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher ynglŷn ag ailagor ysgolion, ac yn ôl Ms Morgan fe allai plant o gartrefi di-Gymraeg sydd mewn ysgolion Cymraeg fod ymhlith y cyntaf i ddychwelyd.
"Mae popeth dan ystyriaeth" meddai.
"Ar hyn o bryd ni dal yn aros i weld os allwn ni anfon plant 'nôl i'r ysgol cyn gwyliau'r haf, a byddwn ni'n asesu hynny ar yr amser cywir."
Dywedodd y gweinidog ei bod yn ymwybodol fod rhai rhieni yn ei chael hi'n anodd, ond mynnodd nad oes tystiolaeth fod rhai'n ailystyried dewis addysg Gymraeg oherwydd y profiad o ddysgu gartre'.
Mae'r llywodraeth yn pwysleisio fod yna gymorth ar gael i rieni ar wefan Hwb.
"Mae hwnnw'n adnodd unigryw i Gymru, ac ry'n ni'n gobeithio bod rhieni yn ei ddefnyddio," meddai Ms Morgan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020