Covid-19: 'Heriau digynsail ac ansicr' arholiadau 2021
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bydd angen cyflwyno newidiadau i arholiadau haf 2021 yn sgil y pandemig ar y rhai sydd hanner ffordd trwy gyrsiau Lefel A a TGAU.
Mae arholiadau'r haf wedi eu canslo, ond mae pryderon ynglŷn â sicrhau "chwarae teg" i ddisgyblion Blynyddoedd 10 a 12 sydd i fod i gwblhau cymwysterau y flwyddyn nesaf.
Mae deiseb wedi ei chyflwyno i Senedd Cymru sy'n honni bod y trefniadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 yn annheg.
Dywedodd y corff Cymwysterau Cymru eu bod yn cydnabod bod dysgwyr wedi wynebu "heriau digynsail ac ansicr".
Fe fydd pob disgybl oedd yn cwblhau cymwysterau Lefel A, TGAU ac Uwch Gyfrannol (AS) yr haf yma yn derbyn gradd sy'n seiliedig ar asesiad athrawon a gwaith maen nhw eisoes wedi'i gwblhau.
Ond mae'r effaith yn aneglur ar blant Blwyddyn 10 a Blwyddyn 12 ac sydd yng nghanol eu cyrsiau.
Mae Elin Maher o Gasnewydd yn fam i ferch sy'n Blwyddyn 10, ac mae hi hefyd yn un o lywodraethwyr Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn y ddinas.
Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydden nhw'n cael "yr un chwarae teg â beth ma' Blwyddyn 11 a 13 wedi cael".
"Dyw'r hyn ma' nhw wedi awgrymu ar hyn o bryd yn fy marn i ddim yn mynd i fod yn deg i bawb," meddai.
"Bydden i'n gobeithio bydde na gyfle i ni gyd fel rhieni, fel llywodraethwyr, fel ysgolion, fel awdurdodau lleol ac yn bwysig iawn y disgyblion eu hunain i gael rhyw fath o fodd i gyfrannu i sicrhau bod beth bynnag sy'n digwydd yn deg i bawb."
Dywedodd hefyd mai dyma oedd y cyfle cyntaf i blant oed Blwyddyn 10 i sefyll arholiadau mwy ffurfiol fel TGAU.
"Mae'r profiad hynny'n eu hadeiladu nhw ar gyfer profiadau Blwyddyn 11 ond hefyd mae'n rhaid cofio bod y gwaith ma' nhw wedi ei wneud yn waith sy'n adeiladu," meddai. "Dyna beth yw addysg a dyna yw pwrpas TGAU."
'Anodd ffocysu'
Mae Luke Jeremy yn ddisgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd ac yn astudio Graffeg, Cyfryngau a'r Bac Cymraeg.
"Mae wedi bod yn rili anodd i eistedd lawr a ffocysu ar waith ysgol," meddai.
"Cyn i ni adael ysgol roedd y cwrs graffeg wedi dweud y gallen ni fynd ag adnoddau adre gyda ni ond yn amlwg doedd neb yn gwybod faint o'dd y lockdown yn mynd i bara."
"Dyw galwadau ffôn a Zoom ddim wastad yn gweithio 'da graffeg, mae gwaith pawb mor wahanol."
Yn ogystal â cheisio gwneud ei waith ysgol mae Luke wedi bod yn gweithio mewn caffi ym Mae Caerdydd, ac er mor anodd yr amgylchiadau mae'n falch nad yw'n cwblhau ei Safon Uwch yr haf yma.
"'Da ni efo'r cyfle i fynd nôl i'r ysgol a chael blwyddyn arall o waith a bydd bawb yn gweithio'n galetach achos 'da ni'n gwybod beth sy'n gallu digwydd," meddai.
Sefyllfa gymhleth
Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd canlyniadau AS yr haf yn cyfrannu at raddau terfynol Lefel A.
Fel arfer mae arholiadau AS yn cael eu sefyll ar ddiwedd Blwyddyn 12, hanner ffordd trwy'r cwrs Lefel A, ac mae'n cyfrannu 40% at y radd derfynol.
Er y bydd gradd AS yn cael ei dyfarnu yn yr haf, ni fydd y marciau'n cario drosodd - sydd wedi siomi rhai disgyblion ac mae un wedi sefydlu deiseb a'i gyflwyno i'r Senedd.
Mae Cymwysterau Cymru'n dweud eu bod yn ceisio gwneud y penderfyniad tecaf posib.
Mae'r corff yn parhau i edrych ar sefyllfa Blwyddyn 10 a 12, sydd yn ôl un o'r cyfarwyddwyr, Emyr George, yn "wynebu rhwystrau hollol annisgwyl ac anarferol tu hwnt" yn sgil Covid-19.
Dywedodd eu bod yn ystyried os oes angen cymryd camau i addasu trefniadau arholiadau'r flwyddyn nesaf yn haf 2021.
"Mae'n rhywbeth da ni'n edrych arno'n ofalus," meddai. "Mae'n rhywbeth da ni'n edrych arno mewn partneriaeth gyda gwledydd eraill sy'n rhan o'r Deyrnas Unedig ond mae'r sefyllfa yn un cymhleth".
Maen nhw'n edrych ar y posibilrwydd o leihau neu addasu elfennau gwaith cwrs ar gyfer flwyddyn nesa.
"Yn anffodus mae'n sefyllfa gymhleth - mae'n amrywio o gymhwyster i gymhwyster" meddai.
"Mae gwahanol ganolfannau'n dilyn y cwrs mewn gwahanol drefn felly os da ni'n torri elfen o gwrs, elfen o gymhwyster mae'n bosib iawn fydd hynny'n creu annhegwch i rai disgyblion sydd eisoes wedi cwblhau a chanolbwyntio ar y rhan yna o'r cwrs."
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gallai Blynyddoedd 10 a 12 fod ymhlith y cyntaf i ddychwelyd pan mae ysgolion yn dechrau ailagor, ond mae'n debygol y bydd effaith y pandemig i'w deimlo ar eu hastudiaethau am fisoedd i ddod.
Pryderon undeb
Mae undeb athrawon UCAC yn dweud bod yr ansicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd i arholiadau Blwyddyn 10 a 12 yn achosi "lefel uchel o bryder" i ddisgyblion ac athrawon.
"Deallwn pa mor anodd yw rhoi atebion clir pan mae'r sefyllfa'n dal i fod mor aneglur," meddai'r undeb.
"Rydym yn ymwybodol bod Cymwysterau Cymru a CBAC yn edrych ar bosibiliadau fydd yn addasu gofynion y cyrsiau hyn, mewn modd sy'n gydnaws â chynnal y safonau arferol.
"Y flaenoriaeth fydd sicrhau bod modd cwblhau'r cyrsiau mewn ffordd resymol er gwaetha'r cyfnod estynedig o golli gwersi - a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud a'u cyfathrebu cyn gynted â phosib."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020