Gweinidog Addysg Cymru 'wedi ymgynghori'n llawn' ag undebau
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru yn dweud ei bod wedi ymgynghori'n llawn ag undebau addysg cyn cyhoeddi y byddai ysgolion yn ailagor yn rhannol ar ddiwedd y mis.
Bydd ysgolion Cymru - sydd wedi bod ar gau ers 20 Mawrth - yn ailagor ar 29 Mehefin.
Byddan nhw ar agor i ddisgyblion o bob grŵp blwyddyn am gyfnodau cyfyngedig yn ystod yr wythnos, gyda dim ond traean o'r disgyblion yn yr ysgol ar unrhyw un adeg.
Mae rhai undebau addysg wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud bod y mesurau "yn ormod, yn rhy fuan" a bod "ychydig neu ddim ymgynghori."
Wrth siarad ar Radio Wales, dywedodd Kirsty Williams: "Rydyn ni wedi treulio oriau lawer yn trafod gyda'r undebau ac mae gennym ni athrawon yn ein cynghori. Diogelwch a lles staff a disgyblion yw ein blaenoriaeth.
"Mae'n bwysig cael rhywfaint o amser wyneb yn wyneb a pharatoi ar gyfer yr hyn a fydd yn realiti newydd o sut olwg fydd ar addysg yn y dyfodol."
Ychwanegodd Ms Williams - sydd yn fam i ddwy ferch yn eu harddegau - bod dysgu gartref "wedi bod yn anodd."
Dywedodd ei bod yn deall bod pobl yn nerfus ynghylch anfon eu plant yn ôl i'r ysgol ond roedd hi'n teimlo mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
"Wrth gwrs rydyn ni i gyd yn nerfus - rydyn ni wedi byw trwy'r amseroedd mwyaf ofnadwy," meddai.
"Ond os ydym yn parhau i wneud y pethau iawn ar faterion fel pellhau cymdeithasol a golchi dwylo, rwy'n hyderus y byddaf yn anfon fy mhlentyn i amgylchedd diogel."
Dywedodd y gweinidog, os bydd y dystiolaeth wyddonol "dros y tair wythnos a hanner nesaf" yn dangos na allwn symud ymlaen yna byddwn yn meddwl eto am ailagor ysgolion".
Ychwanegodd "os nad yw'r system trac cyswllt ac olrhain yn gadarn yna byddwn yn meddwl eto am ysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020