Ailagor ym Mehefin yn 'ail opsiwn gorau'
- Cyhoeddwyd
Ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin oedd yr ail opsiwn gorau, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
Dywedodd Dr Frank Atherton yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru y byddai'n well ganddo ef weld ysgolion yn ailagor ychydig yn ddiweddarach.
Ddydd Mercher cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y byddai ysgolion Cymru yn ailagor ar 29 Mehefin.
Fe fydd yr holl flynyddoedd ysgol yn dychwelyd yng Nghymru, ond dim ond un o bob tri o'r disgyblion fydd yn bresennol ar yr un amser, a bydd y dosbarthiadau yn llawer llai.
Dywedodd Dr Frank Atherton: "Wrth i mi drafod gyda'r gweinidog iechyd, yr opsiwn gorau i mi fyddai ailddechrau tua diwedd yr haf yn Awst, er mwyn rhoi ychydig mwy o amser, ond dwi'n deall nad oedd hyn yn ddeniadol i'r undebau.
"Felly mae gennym yr ail opsiwn orau, sef ein bod yn mynd i ailagor tua diwedd Mehefin am gyfnod byr, gyda gwahanol drefniadau fel bod modd gwneud hyn yn ddiogel.
"Rwy'n credu y gallwn ni wneud hyn yn ddiogel ac mae angen i ni fonitro a'i olrhain."
Mae undebau UCAC, NASUWT a NEU wedi beirniadu'r cyhoeddiad ddydd Mercher, gydag ymateb rhieni yn amrywio.
Dywedodd un pennaeth ysgol gynradd yn y gogledd fod pryder hefyd fod niferoedd sydd yn profi'n bositif ar gyfer Covid-19 yn uwch yn yr ardal nawr na phan wnaed y penderfyniad gwreiddiol i gau'r ysgolion ar 20 Mawrth.
Yn ôl Eirlys Edwards, pennaeth ysgol Cerrigydrudion yn ardal Uwchaled, Sir Conwy, roedd cynnwys cyhoeddiad ddoe "yn 'chydig o sioc".
"Nid y ffaith ein bod yn mynd yn ôl ond y modd mae disgwyl i ni fynd yn ôl a chael yr amrywiaeth oedrannau yn ôl gyda'i gilydd," meddai ar raglen Post Cyntaf, Radio Cymru.
"Pan ddaeth y datganiad roedd yna fwy o gwestiynau nac atebion.
"Mi ddywedodd Kirsty Williams y bydd yna ganllawiau gweithredu yn cael eu cyflwyno ymhen yr wythnos - a phe tai'r cynlluniau wedi eu cyflwyno gyda'r datganiad fe fyddai wedi gwneud y gwaith yn dipyn haws i ni er mwyn gallu cynllunio ymlaen.
"Oherwydd nid yn unig y bydd gennym ni gwestiynau ond fe fydd gan rieni gwestiynau ac yn anffodus fydd gennym ni fel penaethiaid ddim yr atebion gan nad yw'r manylion i gyd gyda ni."
Dywedodd ei bod yn gallu gweld problemau yn enwedig i deuluoedd a phlant o wahanol oedrannau.
"Bydd plant o wahanol oedrannau yn dod mewn ar wahanol ddiwrnodau yn mynd i greu poen pen i rieni, o ran trefnu.
"Ella bod ganddyn nhw un plentyn yn yr ysgol a dau adre... 'di hynny ddim yn mynd i helpu rhieni o ran dychwelyd i gwaith chwaith."
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ei bod hi'n hyderus y bydd y trefniadau yn barod ar gyfer diwedd y mis a bod y cyfarwyddwr addysg wedi bod yn trafod gyda phenaethiaid ysgolion a chadeiryddion llywodraethwyr ddoe a heddiw.
Ychwanegodd eu bod eisoes "wedi paratoi arweiniad manwl ynglŷn â chymryd y camau yma pryd bynnag oedden nhw'n mynd i ddigwydd".
Roedd yn rhaid, meddai, cofio am blant mewn sefyllfaoedd bregus.
"Mae gennym ni blant sydd yn fregus. Ma' gennym gartrefi lle 'di plant ddim yn cael y driniaeth byddwn yn hoffi iddyn nhw gael.
"Mae hwn yn gyfle i ni weld y plant yma ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gofal bugeilio."
LLIF BYW: Y diweddaraf ar 4 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Ar raglen y Post Cyntaf dywedodd dau o rieni eu bod â theimladau cymysg, a'u bod yn poeni am ddiogelwch.
Mae gan Julie Ann Richards ferch 13 oed, Crisiant, ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Garth Olwg, ger Pontypridd.
Dywedodd ei bod yn dal i bendroni am y sefyllfa a'i bod yn poeni am lefel yr afiechyd.
"Yn Rhondda Cynon Taf mae dal, yn fy marn i, yn rhy uchel, dwi'n dueddol i beidio danfon Crisiant 'nôl," meddai.
"Ond neithiwr ma' hi wedi bod yn trafod gyda'i ffrindiau a ma' hi eisiau mynd 'nôl.
"Os ma' hi yn mynd yn ôl fi fydd yn cludo hi yn y car, fydd hi ddim yn mynd ar y bws."
Dywedodd John Pockett o Gyd Ffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r cwmnïau teithio: "O ran agor ysgolion does dim un gair am unrhyw drafodaethau rhwng y llywodraeth a'r cwmnïau ynglŷn â'r cynlluniau, ar wahân i wybodaeth anghywir nos Fawrth nad oedd yr ysgolion yn mynd i ailagor.
"Ond dyma'r newyddion yn dod ddoe eu bod nhw yn mynd i ailagor ar raddfa fwy nag y byddai rhywun yn disgwyl fel cam cyntaf, felly ry'n ni'n siomedig iawn gyda'r Llywodraeth nad ydyn nhw wedi ystyried hyd yn oed sôn bod hyn yn mynd i ddigwydd cyn y cyhoeddiad."
Yn siarad ar raglen Newyddion nos Fercher, dywedodd Trystan Edwards, pennaeth Ysgol Garth Olwg, nad oedd wedi cael rhag-rybudd am yr hyn oedd yng nghyhoeddiad y gweinidog addysg.
"Os ydy'r gweinidog yn ymddiried yn y wasg dylen nhw ymddiried ym mhenaethiaid ysgolion Cymru," meddai.
Fe ddaeth cyhoeddiad Kirsty Williams am 12:30 ddydd Mercher. Roedd y wasg wedi cael y wybodaeth ychydig oriau cyn hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020