Ateb y Galw: Y ddawnswraig Elan Elidyr
- Cyhoeddwyd
Y ddawnswraig Elan Elidyr sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Heledd Watkins yr wythnos diwethaf.
Y llynedd roedd Elan yn teithio ledled Ewrop yn perfformio, ond yn ddiweddar wedi bod yn gweithio yn agosach at adref, fel yn sioe Nadolig Theatr Clwyd a Pontio.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fi'n credu yr atgof cynta sydd efo fi yw o doilet awyren, pan o'n i'n hedfan i America - o'n i tua 10 mis oed
Os chi ddim yn credu fi gofynnwch i Mam achos nes i bwyntio allan bod 'na doliet yng Nghaerdydd oedd yn union yr un peth ag un yr awyren, pan o'n i tua 4 - ac o'n i heb fod mewn awyren yn y cyfamser!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fi ddim rili'n cofio pwy o'n i'n ffansio pan o'n i'n iau ond alla i ddeud ar hyn o bryd bod Connell o Normal People ar dop y rhestr yna y dyddiau yma!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi ddim yn meddwl bo' fi'n berson sy'n cywilyddio'n hawdd ond fi'n cofio bod yn Ysgol Penweddig a mynd i Fabolgampau'r Sir i 'neud y sbrint 100m. Tua hanner ffordd drwy'r ras o'n i'n gallu gweld y cystadleuwyr eraill i gyd - yn glir - o 'mlaen i. Saff i 'deud nes i ddim cystadlu'r flwyddyn ganlynol.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
'Sai'n cofio - fi ddim yn crio'n aml. Ond mi oedd clywed canlyniad refferendwm 2016 (Brexit) - tra'n mwynhau byw yn yr Almaen a chyd-astudio gyda phobl o bob cwr o Ewrop - yn dorcalonnus.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes - cnoi ewinedd, dant melys uffernol, gwylio gormod o rybish... mae'r rhestr yn parhau...
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae hwnna'n amhosib i ddewis. Mae Ynyslas yn bendant lan yna, hefyd Portmeirion achos bod e'n gymaint o brofiad pryd bynnag ti'n mynd. Ac wrth gwrs, unrhyw Faes Eisteddfod Genedlaethol!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gormod ohonyn nhw. fel arfer efo ffrindie a cherddoriaeth byw da!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Lot. O. Egni.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fi ddim yn berson sy' 'di gweld lot o ffilmie (er mae Jojo Rabbit yn arbennig!), ond fi 'di darllen eitha' lot.
Fi ddim yn meddwl mai hwn yw fy hoff lyfr i ond mae e'n llyfr 'nath adael ei farc arna i a fi'n meddwl amdano fe'n eitha' aml - And I Don't Want to Live Like this - stori bywyd Nancy Spungen trwy lygaid ei mam. Mae'n llyfr pwerus a thrist iawn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mae hwnna'n gwestiwn anodd ond fi'n credu Michelle a Barack Obama, a bydden i'n gwrando arnyn nhw'n siarad am orie!
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân?
Gan mai dawnswraig ydw i, pan fi'n dawnsio, dwi'n gwrando i gerddoriaeth gwahanol o hyd, ac felly mae 'fy hoff gân' yn gallu newid o ddiwrnod i ddiwrnod, efallai o awr i awr. Ond fi yn meddwl bod cerddoriaeth fyw yn well. Mae'n class! (Hefyd mae unrhyw gerddoriaeth Cymraeg yn mynd i fynd lawr yn dda efo fi!)
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Duck gyozas, fel rhai Wagamama.
Prif gwrs - Trio o gig eidion efo sglodion crispy a chiwcymbr (neu ham, egg and chips cartre Mam).
Pwdin - Tri phwdin: hufen iâ, brownie, rhywbeth efo mafon.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Nes i ennill Cadair Eisteddfodol blwyddyn 3. Dechre a diwedd fy ngyrfa barddol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Fi'n credu bydden i isho 'neud popeth fi heb - parachute jump, handbrake turns - a wedyn parti efo ffrindie a theulu.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Gymnast Olympaidd, fel Simone Biles - er mwyn gallu gweld beth mae'n teimlo fel i 'neud yr holl flips yna. Neu Beyoncé achos pwy fydde ddim ishe bod yn Beyoncé?!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Cêt Haf