Tudur Owen yn ennill gwobr y cyflwynydd radio gorau

  • Cyhoeddwyd
tudur owen

Tudur Owen, un o gyflwynwyr Radio Cymru sydd wedi ennill y wobr 'Cyflwynydd Radio y Flwyddyn' yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn Llydaw ond oherwydd haint coronafeirws bu'n rhaid gwobrwyo'n ddigidol eleni.

'Balch o'i gyfraniad'

Wrth ymateb nos Iau dywedodd golygydd Radio Cymru, Rhuanedd Richards: "Rydym mor falch bod Tudur wedi ennill y wobr hon - mae hyn yn gwbl haeddiannol ac rydym yn falch ofnadwy o'i gyfraniad e ynghyd â'i dîm, Dyl Mei a Manon Rogers i Radio Cymru bob p'nawn Gwener a Sadwrn.

"Rydym hefyd yn falch o raglenni eraill yr orsaf a lwyddodd i gyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Ŵyl Geltaidd gan adlewyrchu'r cyfoeth a'r amrywiaeth yr ydym yn ceisio ei gynnig ar y gwasanaeth.

"Diolch o galon i'r gwrandawyr am y gefnogaeth a'u teyrngarwch - yn enwedig dros y misoedd digynsail diwethaf.

"Rydym yn gobeithio fod Tudur a'i griw wedi bod yn gwmni da ac wedi llwyddo wrth godi calonnau ein cynulleidfa yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Buddugwyr eraill

Ymhlith eraill o Gymru a gafodd lwyddiant mae cyfres Prosiect Pum Mil (cynhyrchiad Boom ar gyfer S4C) a enillodd y categori adloniant gorau.

Roedd yna lwyddiant hefyd i gwmni Avanti am y rhaglen Cân i Gymru: Dathlu'r 50 - dyma'r rhaglen a enillodd y categori adloniant ffeithiol.

Rhaglen am y seiclwr Geraint Thomas gan adran chwaraeon BBC Cymru a enillodd y categori chwaraeon radio. Cafodd Super G: How Geraint Won the Yellow Jersey ei darlledu ar Radio Wales a 5 Live.

Mae modd gweld rhestr lawn o'r enillwyr yma, dolen allanol.