Tipyn o Stad: Ble maen nhw nawr?
- Cyhoeddwyd
Tra mae'r wlad wedi bod yn sownd adref dros gyfnod y coronafeirws mae'r gyfres Tipyn o Stad wedi ailymddangos ar wefan Clic S4C gan roi cyfle i ffans y gyfres ddrama - wnaeth ddiflannu o'r sgrin yn 2008 - fwynhau ychydig o nostalgia am y teulu Gurkha ar stad ddychmygol Maes Menai yng Nghaernarfon.
Gyda'r cyfresi cyntaf wedi eu cyhoeddi ers mis Mai dyma bocs set mwyaf llwyddiannus y sianel erioed meddai S4C, gyda rhagor o gyfresi i ddod rhwng rŵan a diwedd Awst.
Bu Cymru Fyw yn dal fyny â rhai o aelodau'r cast, 18 mlynedd ers darlledu'r gyfres gyntaf.
RHYBUDD: Mae'r erthygl yn cynnwys spoilers i'r rhai sydd yn gwylio'r gyfres am y tro cyntaf... (neu ddim yn cofio mor bell yn ôl â hynny!)
Jennifer Jones: Heather Gurkha
Mae Jennifer Jones wedi cael dipyn o weddnewidiad o'r cymeriad lliwgar mewn lledr du, Heather Gurkha, ond mae hi'n dal yn wyneb cyfarwydd ar y teledu - y dyddiau yma fel cyflwynydd newyddion ar BBC Wales Today.
"Roedd chwarae Heather yn lot o hwyl," meddai. "Roedd hi'n ddadleugar, yn hunanol, yn fyrbwyll ac ar brydiau yn hollol wyllt! Ges i storylines gwych. Gafodd Heather sawl perthynas, mi roddodd hi enedigaeth yn ei lolfa, roedd hi'n bencampwr bocsio mewn un cyfres, fe drodd hi at werthu rhyw i dalu dyled cyn-gariad, ac mi gafodd ei saethu!
"Doeddwn i ddim yn disgwyl cael y rhan a bod yn onest, gan bod y cymeriad mor groes i fy mhersonoliaeth i!
"Mi ddes i a Russ yn tipyn o ffrindiau dros y blynyddoedd - er bod Heather a Stud yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ffraeo! Wrth ail-wylio'r gyfres gyntaf ar Clic ges i fy atgoffa o faint o ledr du oedden ni'n ei wisgo - a faint o amser wnaethon ni dreulio ar gefn ei feic-modur. Mae'r plant wedi bod yn gwylio'r gyfres hefyd, ond mae nhw'n gadael yr ystafell yn ystod y golygfeydd cusanu!"
Erbyn cyfres olaf Tipyn o Stad roedd teithio o Gaerdydd bob penwythnos i weithio yng Nghaernarfon wedi mynd yn ormod i Jennifer a'i gŵr a phan ddaeth y plant doedd gwaith fel actores ddim yn ymarferol meddai.
A hithau'n dechrau teimlo bod angen sialens newydd arni aeth am brofiad gwaith i adran newyddion Radio Cymru a datblygodd ei gyrfa newyddion o'r fan honno.
"Wrth weithio ar ddrama mor hir-dymor mae rhywun yn dod i adnabod eu cyd-weithwyr yn dda iawn - ac mi roedd y Gurkhas yn teimlo fel teulu go iawn erbyn y diwedd.
"Pan dwi adref yn y gogledd mae'r plant yn lecio mynd i'r ganolfan ddringo ar Stad Cibyn yn hen Stiwdio Barcud. Yn fanno roedden ni'n cael ein colur a gwisgoedd a darllen scriptiau. Piti mawr bod y stiwdio wedi mynd rŵan, ond mae'n braf iawn cael mynd yn ôl yno i hel atgofion. A phob tro da ni'n mynd i Doc Fictoria mae'r plant yn gofyn 'yn fanna gest ti dy saethu Mam?'
Russell Jones: Laurence 'Stud' Williams
Mae Russell Jones oedd yn chwara rhan Stud, yr hogyn drwg oedd yn gwerthu cyffuriau ac yn gariad i Heather, bellach yn gweithio fel swyddog gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae hefyd yn gerddor sy'n chwarae mewn band o'r enw Cherry White ac yn dal i actio pan mae'n cael cyfle.
"Mi oedd Stud yn eitha' gwahanol i mi. Er 'mod i'n gallu uniaethu gyda'r unigrwydd oedd yn teimlo, doedd gen i ddim ei hyder, na'i awch i reoli pobol, na'i angenrheidrwydd i ennill ar unrhyw amod," meddai.
"Ond dyna oedd yn hwyl am chwarae Stud, gan ei fod mor wahanol, mor hyderus, yn gweld y byd yn hollol wahanol i mi, roedd cael cerdded y byd yn ei esgidiau yn ddiddorol dros ben."
Mor ddiddorol, meddai Russell, nes bod ei deulu'n dweud wrtho ei fod yn dal i gerdded yn yr un osgo â Stud am wythnosau ar ôl saethu'r gyfres.
Un o Landudno ydy Russell yn wreiddiol ac roedd yn byw yn Llundain pan roedd yn ffilmio Tipyn o Stad.
Ond pan roedd yng Nghaernarfon roedd yn cael ei adnabod fel Stud weithiau.
"Dwi yn cofio rhedeg i mewn i ambell grŵp o hogia isho cwffio mwy nag unwaith, ond nes i allu eu darbwyllo mod i'n lot llai calad na'r cymeriad, a bysa'r frwydr ddim gwerth eu hamser!"
Siwan Llynor: Cheryl Gurkha
Roedd Siwan Llynor yn ei hugeiniau pan gafodd hi ran y ferch ysgol feichiog, Cheryl, a'i bryd ar y pryd ar weithio mewn sioeau cerdd. Cafodd gyfle i ymddangos yng nghorws y sioe Riverdance yr un pryd â'r cynnig i actio yn Tipyn i Stad ond "Tipyn o Stad aeth â hi", meddai.
Heddiw mae hi'n gweithio fel cyfarwyddwr ac ymarferydd creadigol ar brosiectau theatr a chelf yn y gymuned. Yn 2017 fe gyfarwyddodd gyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Môn.
"Cafodd yr hen Cheryl druan fywyd trafferthus, oedd bob dim i weld yn digwydd iddi. Dwi'n siŵr fy mod i wedi crio ym mhob golygfa am gyfres gyfan.
"Ond i mi fel actores ifanc roedd o'n brofiad gwych cael gymaint o straeon cryf a diddorol," meddai Siwan, sy'n wreiddiol o'r Bala.
"Mae golygfa geni'r babi wedi aros yn fyw yn fy nghof i. Bron i mi chwalu clustiau Dic Ben, y dyn sain, gyda'r holl weiddi wnes i! Ac roedd y gweiddi yn cynhyrfu'r paramedic nes i ni orfod ailwneud yr olygfa lawer gwaith drosodd."
Mae Caernarfon, lle bu hefyd yn diwtor drama gyda chwmni theatr cymunedol i blant yn ddiweddarach, yn dal i fod yn agos iawn at ei chalon.
"Oedd o'n gyfnod braf ac fe gafon ni lot fawr o hwyl fel cast a chriw, ac mae gen i ffrindiau oes o'r cyfnod.
"Pan fyddai'n mynd â'r plant i ddringo i hen adeilad Cibyn ma 'na deimlad rhyfedd yn dod drostai wrth gerdded fyny'r grisiau i'r caffi, fel mod i'n cerdded nôl mewn amser. Mae'r plant wedi laru ar yr un hen stori 'O'n i'n arfer gweithio'n fama chi', ' Ia, ia, 'da ni'n gwbod Mam'"
Neil Williams: Neil Gurkha
Roedd Neil Williams eisoes yn adnabyddus fel cerddor a chanwr gyda'r band Maffia Mr Huws pan ddechreuodd actio ac mae'n dal i weithio fel cerddor ac yn dysgu'r gitâr i blant ysgol.
Mae hefyd yn dal i actio - cafodd ran ar Pobol y Cwm yn 2019 yn actio Neville, dyn gafodd ei garchau am geisio magu perthynas amhriodol gyda mab Britt Monk, Aaron.
Wedi ymddangos eisoes ar y gyfresi fel Amdani a Cyw Haul cafodd y rôl yn chwarae tad Cheryl, mab hynaf y Gurkhas ar ôl digwydd gweld Rheolwr y Cynhyrchiad mewn archfarchnad a chlywed am y swydd a thrio amdani.
Enw ei gymeriad ar Tipyn o Stâd oedd... Neil. Oedd hi'n od chwarae rhan efo'r un enw â fo ei hun?
"Gen i ryw gof pan nes i gael fy nghastio eu bod nhw wedi gofyn i fi os fyswn i'n meindio. Ond dim o gwbl, mae'r boi yn foi iawn, oedd o'n foi reit straight ahead, so nes i ddeud y gwneith o'n helpu fi i gofio'n enw!"
Yn ystod y cyfnod clo mae Neil wedi bod yn parhau gyda'i waith o ddysgu'r gitâr - dros y we yn hytrach na wyneb-yn-wyneb - ac hefyd wedi cael swydd yn delifro bara i fecws lleol.
Ar Tipyn o Stad hefyd y gwnaeth Neil gyfarfod ei gariad Awel Lewis, oedd yn actio rhan Angie, y ferch drws nesa' yn y drydedd cyfres. Maen nhw a'u tri o blant bellach yn byw yn Groeslon ger Caernarfon.
"Mae pobl rownd ffordd hyn yn dal i'w gofio fo, oeddan nhw'n licio fo, wedyn dwi'n cael fy atgoffa ohono fo'n aml.
"Mae pobl yn ryw hanner 'nabod fy ngwyneb i ac yn gofyn 'Be' oeddach chdi ar?'"
Mae wedi gwylio'r gyfres eto yn ddiweddar.
"Be' o'n i ddim wedi cofio oedd bod Neil wedi pwyso ar Cheryl i gael y babi achos oedd hi isho cael gwared ohono. O'n i'n eitha licio bod y tad yn dweud 'Na dwisho i ti gadw fo' achos mae hwnna'n wahanol i'r stereioteip arferol.
"Oedd 'na sgwennwyr da arno fo."
Dewi Snelson: Iwan Lewis
Yn 2002 roedd Dewi Snelson yn actio rhan y bachgen ysgol diniwed oedd yn ffrind i Cheryl ac yn cael ei ddal yn helyntion pobl eraill. Bellach Dewi yw prif weithredwr Menter Gorllewin Sir Gâr, elusen sy'n hybu datblygiad cymunedol, ieithyddol ac economaidd.
Roedd yn gorfod siafio ddwywaith y dydd i chwarae'r rhan gan ei fod yn 21 ar y pryd, meddai Dewi.
"O'n i'n siafio ben bora, wedyn o'n i'n gorfod siafio eto ar ôl cinio achos oedd o'n dangos eto, fellyo'n i'n gorfod siafio o hyd!
"Roedd Iwan o ryw deulu dosbarth canol, ac yn gymeriad oedd yn bach o softie, bach yn ddiniwed ac yn ychydig bach o lipryn!
"Nathon ni ddechrau ffilmio y pythefnos ola' o'n i yn coleg yn y brifysgol ym Mangor felly roedd yn amseru briliant o ran cael gwaith.
"Dwi'n cofio mynd i mewn i gael read through ar y diwrnod cynta efo'r cast i gyd a'r cyfarwyddwyr a phawb yn eistedd i lawr ac yn darllen y sgript a dwi'n cofio teimlo yn uffernol o nyrfys, achos oedd 'na gymaint o bobl a rhai ohonyn nhw yn adnabyddus. Ond buan iawn mae rhywun yn dod i adnabod pobl ac roedd o'n lot fawr o hwyl."
Wedi pum mlynedd o actio mewn theatr yng Nghymru a Lloegr, rhoddodd Dewi'r gorau i'r proffesiwn a mynd i weithio yn y sector cymunedol.
"Mae'n gymaint o amser yn ôl mae'n teimlo fel mai rhywun arall oedd yn ei wneud o a dweud y gwir! Mae'r amser wedi mynd heibio mor gyflym. Dwi'n hapus iawn yn gwneud be' dwi'n wneud rŵan achos dwi'n gallu datblygu prosiectau cymunedol a ieithyddol a helpu'r economi.
"Mae o'n rhywbeth dwi'n mwynhau ei wneud ac yn ymfalchio ynddo. Dwi ddim yn meddwl fyswn i'n mynd nôl!"
Huw Marshall: Tony Evans
Yn wreiddiol o Wrecsam fe gafodd Huw Marshall ran Tony, gŵr Susan a thad Harley a Whitney Marie yn y cyfresi olaf, ar sail ei ran yn y gyfres gomedi Mostyn Fflint. Cyn hynny roedd yn fwy adnabyddus fel perfformiwr a threfnydd stand-yp.
Mae bellach yn gweithio fel ymgynghorydd digidol a chyfryngol ar ei liwt ei hun. Mae'n byw ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr.
"Oedden nhw wedi dod â fi fewn fel rhyw fath o comedy turn achos oedden nhw'n meddwl bod y gyfres yn rhy depressing, so ro'n i fatha clown y gyfres," meddai Huw gan ddwyn i gof un olygfa lle mae Tony yn meddwl ei fod yn cael trawiad ar ei galon ar ôl bwyta gormod o fisgedi a chael diffyg traul.
"Roedd yn gymeriad larger than life - oedd o bascially yn fi mewn crys Everton a jogging bottoms," meddai.
"Pan o'n i yng Nghaernarfon ac yn mynd allan oedd 'na lot o bobl yn gweiddi 'Tonyyyy!' - a prynu peint i fi!"
Ar ôl Tipyn o Stad fe gafodd Huw ei benodi yn Bennaeth Digidol S4C ond mae'n gweld eisiau actio.
"Mae pobl yn anghofio meddwl amdanach chdi fel actor neu berfformiwr," meddai. "Dwi ddim wedi gwneud dim actio ers S4C, mae pobl yn meddwl dy fod yn rhy ddifrifol i feddwl gwneud rhywbeth fel'na.
"Fyswn i yn licio gwneud ond wedi dweud hynny, mae gen i yrfa gwahanol a dwi'n gwybod pa mor anodd ydi o i 'neud bywoliaeth fel actor."
Mae'n gresynu fod y gyfres wedi dod i ben "yn rhy sydyn", er iddi gael saith cyfres i gyd.
"Dwi'n meddwl y gwnaethon nhw golli lot o gynulleidfa [wedi hynny] achos oedd 'na lot o bobl o Gaernarfon, pobl dre, yn gwylio fo a'i fwynhau.
"O'n i wastad yn jocio bod o'n griw dosbarth canol yn cogio bod yn ddosbarth gweithiol yng Nghaernarfon ac i ryw raddau, dyna beth oedd o. Ond roedden ni'n ffilmio lot o gwmpas Sgubor Goch ac roedd y bobl wrth eu bodd efo fo.
"Fyse'n neis dod â fo nôl ar gyfer sbesial neu rhywbeth - 10 years later!"
Hefyd o ddiddordeb: