Galw am gyflymu canlyniadau profion cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
staff gofal a phreswylydd oedrannusFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rheolwr sy'n gyfrifol am ddwsin o gartrefi gofal ar draws de Cymru yn galw am gyflymu'r gwaith o brosesu canlyniadau profion Covid-19.

Mae Matthew Jones, o gwmni Caron Group Care Homes, yn awyddus hefyd i weld mwy o brofion yn cael eu cwblhau o fewn y sector.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae tua 80% o brofion Cymru'n gysylltiedig â'r sector gofal.

Mae Llywodraeth Cymru'n addo prosesu'r rhan fwyaf o brofion o fewn tridiau.

'Profi, profi, profi'

Dywedodd Mr Jones wrth raglen Newyddion fod sicrhau profion yn haws erbyn hyn, ond mae'r oedi cyn derbyn canlyniadau'n achosi trafferthion a straen i staff a phreswylwyr.

Pan ofynnwyd beth oedd ei neges i Lywodraeth Cymru, atebodd Mr Jones: "Profi, profi a profi."

Matthew Jones

"Tydi unwaith y mis ddim digon, tydi unwaith yr wythnos ddim digon.

"Rhaid i ni brofi bron iawn bob dydd i 'neud siŵr bod ni'n edrych ar ôl y preswylwyr - dim jyst y preswylwyr sydd gyda Covid-19 ond y preswylwyr eraill sy'n byw yn y cartref gofal.

"Mae'n rhaid i ni 'neud yn siŵr bod nhw'n saff hefyd."

Staff a phreswylydd cartref gofal Caron
Disgrifiad o’r llun,

Staff a phreswylydd cartref gofal Caron yng Nghaerdydd

Ychwanegodd fod y sefyllfa wedi "dechrau gwella".

"Mae'r cartrefi nawr yn gallu ca'l y profion yn reit sydyn, ond dydy y results ddim yn dod yn ôl am hir iawn, a ma' hynny'n gallu ca'l effaith mawr ar y staff ac ar y preswylwyr."

Er gwaethaf mesurau llym o fewn cartrefi gofal Caron, mae nifer o breswylwyr un o'u cartrefi, ym Mlaenau Gwent, wedi marw ar ôl cael coronafeirws.

"Mae wedi bod yn reit trawmatig," meddai Mr Jones.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar draws Cymru, mae tua 89% o'r holl samplau prawf Covid-19 yn cael eu prosesu o fewn 48 awr a bron 96% yn cael eu prosesu erbyn 72 awr.

"Rydym yn gweithio gydag ein partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflymu hysbysu canlyniadau profion."

Ychwanegodd: "Mae pob preswylydd ac aelod staff cartrefi gofal nawr yn gymwys i gael prawf, ac mae unedau profi symudol nawr ar waith ar draws Cymru i sicrhau fod hynny'n digwydd yn gyflymach."

Pwysau enfawr

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau enfawr y mae staff cartrefi gofal yn eu hwynebu".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod y gall yr amser y mae'n ei gymryd i gael canlyniadau profion coronafeirws fod yn rhwystredig, ond nid yw unrhyw oedi rhag derbyn canlyniadau profion yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymateb i achosion mewn cartrefi gofal."