Coronafeirws: Dyfodol bregus i sinemâu annibynnol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd bod Covid-19 wedi cael "effaith niweidiol" ar sinemâu annibynnol yng Nghymru, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw gael "cefnogaeth sylweddol am gyfnod hir er mwyn goroesi".
Mae rhaglen Newyddion wedi clywed na fydd nifer o sinemâu yn ailagor, pan fydd ganddyn nhw hawl i wneud hynny, gan na fyddai hynny'n gwneud synnwyr yn ariannol os fydd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn parhau.
Mae 'na 200 o seddi yn y sinema fwyaf yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd. Petai'n rhaid i bobl barhau i gadw dau fetr ar wahân, mae'n golygu mai dim ond 40 o bobl fydd yn cael eistedd yno.
Yn ôl Elin Wyn, Cadeirydd Chapter, bydd "lot o waith yn digwydd i baratoi" cyn y bydd modd iddyn nhw ailagor.
"Oherwydd yr ymbellhau cymdeithasol bydd rhaid i ni dorri nôl ar faint o seddi," meddai. "Felly bydd faint o docynnau fydd yn cael eu gwerthu gryn dipyn yn llai - fydd yn cael effaith sylweddol ar ein incwm ni dros y misoedd a blwyddyn neu ddwy nesaf.
"Mae gyda ni bobl sydd wedi bod yn gweithio i baratoi at yr ailagor, a dwi'n credu y byddwn ni'n gallu ailagor yn weddol gyflym, ond mae'n ansicr os fydd pobl eisiau dod nôl.
"Mae lot o'n cynulleidfaoedd ni'n hŷn felly 'falle bod nhw 'chydig yn fwy petrus am fynd yn ôl. Er bydd llai o seddi, falle bydd llai o ddangosiadau achos bydd angen gwneud gwaith glanhau. A falle bydd llai o ffilmiau newydd i'w dangos achos does dim gwaith cynhyrchu yn y cyfnod yma.
"Falle bydd rhaid dangos mwy o hen ffilmiau, felly a fydd pobl mor awyddus i ddod nôl? Falle bydd y sinema ddim yn ôl i arfer normal am flwyddyn neu ddwy."
Costau uwch
Yn ôl gwaith ymchwil gan yr Independent Cinema Office, fydd 41% o sinemâu annibynnol Prydain ddim yn gallu ailagor os fydd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn parhau.
O'r 59% o'r rhai fydd yn ailagor, maen nhw'n rhybuddio y bydd costau'n uwch ac y bydd gostyngiad mawr yn nifer y bobl yn y gynulleidfa.
Ym Mlaenau Ffestiniog, mae CellB - hen swyddfa a chelloedd yr heddlu yn y dref - yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithdai gyda phobl ifanc, ac mae 'na sinema yno.
"Mae'n un peth bo ni ddim yn gorfod mynd yr holl ffordd i Landudno i watsho ffilm pryd mae'n dod allan," meddai Owen, un o'r bobl ifanc sy'n rhan o 'Glwb Clinc'. "Mae'n dod â cymunedau at ei gilydd felly ma' ffrindiau'n gallu dod yma efo'i gilydd a ma'n codi pres i Blaenau sy'n beth da."
Does dim disgwyl i'r sinema ailagor tan fis Rhagfyr ar y cynharaf. Yr elw o'r sinema sy'n ariannu'r gweithdai a hyfforddiant i bobl ifanc, sy'n cael eu trefnu gan gwmni Gwallgofiaid.
Yn ôl Rhys Roberts o'r cwmni: "Mae'n ofnadwy o rwystredig. Ma' cwmni Gwallgofiaid wedi gweithio efo pobl ifanc o'r cychwyn ac achos bo gynnon ni'r sinema a'r loan ar y sinema, ma' hwnna'n bygwth ein gwaith efo pobl ifanc. Felly os na allwn ni sicrhau mwy o gyllid mae'n debyg y bydd y gwaith pobl ifanc mewn peryg hefyd.
"Mae'r sinema wedi dod i Blaenau, sy'n wych, a phobl ifanc sy' 'di greu o, ond achos bo' ni methu agor y sinema, efallai mai'r sinema fydd yn effeithio ar waith efo'r pobl ifanc.
"Ma'r bobl ifanc, ma' ganddyn nhw syniad o greu sinema awyr agored a chael hyd buwch o faint felly ma' nhw di galw fo'n Sinema Moo... mae'n debyg mai outdoor cinema ydi'r ateb i ddod nôl yn gychwynnol ond ma'n ddrud felly ma'n anodd cael pres yn ôl."
Chwe mis tyngedfennol
Er bod cefnogaeth ariannol brys ar gael ar gyfer sinemâu annibynnol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau a Chanolfan Ffilm Cymru, mae 'na rybudd bod angen cefnogaeth am fisoedd, os nad blynyddoedd i ddod.
Yn ôl Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri, Caernarfon: "Tra bod yr holl gymorth ariannol ar gael - ffyrlo yn enwedig - allwn ni orffen cyfnod y cyfyngiadau mwy neu lai yn ariannol lle oedden ni ar y cychwyn.
"Ar ôl hynny, mae'n ddiddorol achos os nad ydi'n incwm masnachol ni'n dod yn ôl i fel oedd o cyn y cyfyngiadau, fis ar ôl mis ar ôl hynny o fis Medi 'mlaen mi fydd ein sefyllfa ariannol ni'n gwaethygu.
"Chwe mis lawr y lein, dyna pryd fydd yn rhaid penderfynu a fydd yn rhaid i ni neud toriadau. Pan mae'r cyfyngiadau'n gorffen, dydi'r problemau ddim yn gorffen efo nhw."
"Ma gynnon ni ddwy sgrîn - yr un lleia' yn dal rhyw 60 o bobl. Os oes angen cadw dau fetr, dim ond rhyw wyth neu 10 o bobl fydd yn cael bod yna felly dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr masnachol i agor hwnna.
"Mae'r sgrîn mwyaf yn dal 120 felly allwn ni chwarae o gwmpas efo hwnna a neud iddo fo weithio, a defnyddio'r theatr o bosib i ddangos ffilmiau."
Mae Hana Lewis o Ganolfan Ffilm Cymru yn poeni am y dyfodol.
"Mae Covid-19 wedi cael effaith niweidiol ar nifer o sinemâu annibynnol," meddai. "Mae incwm y llefydd yma wedi dod i ben dros nos, a nhw fydd rhai o'r llefydd olaf i ailagor pan fydd y rheolau'n cael eu llacio. Mae'n rhaid i'r diwydiant gael cefnogaeth sylweddol am gyfnod hir er mwyn goroesi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydweithio'n agos â Ffilm Cymru a'r UK Cinema Association i baratoi canllawiau ar gyfer agor sinemâu pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Mae sinemâu wedi derbyn cymorth gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020