Arian i atgyfnerthu amddiffynfeydd môr Hen Golwyn
- Cyhoeddwyd

Mae £6m yn ychwanegol wedi ei glustnodi ar gyfer atgyfnerthu amddiffynfeydd môr ar y promenâd yn Hen Golwyn.
Roedd gwaith gwerth £1.6m wedi dechrau'n barod ar wal gerrig ym mis Ionawr.
Ond roedd pryder yn lleol nad oedd y buddsoddiad hwn yn ddigonol i amddiffyn y promenâd rhag effaith llanw uchel a'r môr.
Roedd difrod tywydd wedi golygu fod y promenâd ar gau yn achlysurol yn y gorffennol.
'Newyddion gwych'
Dywedodd Cyngor Sir Conwy fod y cyhoeddiad am yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn "newyddion gwych".
Mae'r buddsoddiad newydd yn rhan o Gronfa Ffyrdd Cydnerth gwerth £16m gafodd ei gyhoeddi gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd ddydd Gwener.

Mae difrod sylweddol wedi ei wneud i bromenâd Hen Golwyn yn y gorffennol
Ar Facebook, dywedodd y cyngor y bydd yr arian "yn cael ei ddefnyddio i wella amddiffynfeydd arfordirol a gwella'r llwybr teithio llesol i gerddwyr a seiclwyr."
Difrod tywydd
Mae rhan Hen Golwyn o bromenâd a llwybr beicio Bae Colwyn wedi ei ddifrodi gan stormydd a thywydd garw dros y blynyddoedd.
Mae pryderon hefyd wedi bod am gledrau'r rheilffordd gyfagos sydd yn dan ofal Network Rail, a system garthffosiaeth Hen Golwyn, sydd dan ofal Dŵr Cymru.
Dywedodd Mr Skates y bydd yr arian "o gymorth i awdurdodau lleol i dalu am waith angenrheidiol."
Mae disgwyl i'r promenâd yn Hen Golwyn fod ar gau tra bod y gwaith atgyfnerthu'n cael ei gwblhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020