11% o bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd - arolwg cenedlaethol

- Cyhoeddwyd
11% o oedolion yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau yn yr iaith, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024/25.
Dyna brif ganlyniad arolwg 2024/2025, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith dadansoddi ac yn cyhoeddi manylion pellach maes o law.
Mae'n union yr un ffigwr ag arolwg 2022/23.
Mae adroddiad trylwyr ar ffigyrau 2022/23 wedi ei gyhoeddi fis yma hefyd.
Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, roedd 34% o bobl 16 oed neu'n hŷn yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg - dywedodd 18% eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a dywedodd 16% arall fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "canolbwyntio'n llwyr ar gynyddu defnydd dyddiol o'r Gymraeg, sy'n ganolog i'n strategaeth hir dymor i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".
Dywedodd cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, Heini Gruffudd, bod y "ganran o 34% o siaradwyr Cymraeg yn addawol, ond mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg bob dydd, sef 11%, yn bryderus, ac yn fwy o arwydd o fywiogrwydd yr iaith".
Pobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd
Roedd pobl mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r rhai a oedd yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar, yn ôl arolwg Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Roedd 12% o bobl mewn cyflogaeth yn siarad Cymraeg bob dydd, o'i gymharu â 9% o bobl a oedd yn economaidd anweithgar.
"Ychydig iawn o bobl" a oedd yn ddi-waith oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, medd yr arolwg.
Cafodd ei ganfod bod pobl yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oedden nhw'n byw mewn aelwyd sy'n cynnwys o leiaf un person o dan 19 oed.
Roedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o siarad Cymraeg mewn bywyd bob dydd na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd trefol.
Dywedodd 21% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau, o'i gymharu â 6% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol.
Roedd pobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru yn llawer mwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd na'r rhai sy'n byw mewn rhanbarthau eraill o Gymru, gyda 40% o bobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru yn siarad Cymraeg bob dydd.
Pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru oedd leiaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, sef 4%.
Yr holl bobl sy'n siarad Cymraeg
Ymhlith y ffactorau demograffig a ddaw i'r amlwg yn yr arolwg o ran yr holl bobl sy'n siarad Cymraeg:
Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn fenywod na gwrywod, gyda 37% o fenywod yn dweud eu bod yn siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 31% o wrywod.
Roedd pobl rhwng 16 a 44 oed yn fwy tebygol o allu siarad Cymraeg na phobl mewn grwpiau oedran hŷn, gyda phobl 65 oed neu'n hŷn yn lleiaf tebygol.
Roedd 39% o bobl rhwng 16 a 44 oed yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 32% o bobl rhwng 45 a 65 oed, a 29% o bobl 65 oed neu'n hŷn.
Dywedodd 36% o bobl wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg, o'i gymharu â 16% o bobl a oedd yn ddu, yn Asiaidd, neu o grŵp ethnig lleiafrifol arall.
Roedd pobl sengl yn fwy tebygol o siarad Cymraeg na phobl a oedd yn briod, mewn partneriaeth sifil, wedi ysgaru, wedi gwahanu, neu bartneriaid sy'n goroesi, gyda 39% o bobl sengl yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg.

Nod Ysgrifennydd y Gymraeg Mark Drakeford yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn canolbwyntio'n llwyr ar gynyddu defnydd dyddiol o'r Gymraeg, sy'n ganolog i'n strategaeth hir dymor i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Dywedodd llefarydd: "Mae ein buddsoddiad mewn technoleg, mannau gwaith, a mentrau diwylliannol yn helpu i wneud Cymraeg yn rhan naturiol o fywyd bob dydd.
"Eleni, roedd Dydd Miwsig Cymru yn fwy nac erioed, a dim ond wythnosau yn ôl, roedd Eisteddfod Wrecsam yn dangos sut mae ein cyllid yn helpu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Ym mis Mai, ymatebodd y llywodraeth i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg am heriau sy'n wynebu'r iaith mewn ardaloedd gyda dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.
"Mae'r Comisiwn bellach yn archwilio'r ardaloedd sydd â lefelau canolig ac isel a disgwylir adroddiad nesaf y Comisiwn tua dechrau 2026."
Ffigyrau 16-44 oed yn 'elfen obeithiol'
Dywedodd cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, Heini Gruffudd mai "un elfen obeithiol yw'r cyswllt rhwng rhai 16 a 44 oed sy'n gallu siarad yr iaith".
"Mae hyn yn adlewyrchu'r twf a welwyd yng nghyfrifiad 2021 yn y grŵp hwn, sy'n dangos effaith twf addysg Gymraeg.
"Ond mae'n bryder nad yw'r grŵp oed hwn ymysg y ffactorau sy'n gysylltiedig â siarad y Gymraeg bob dydd.
"Mae angen creu sefyllfaoedd teuluol, cymunedol a gwaith fydd yn rhoi modd i'r rhain ddefnyddio'r iaith yn feunyddiol."

"Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg bob dydd, sef 11%, yn bryderus, ac yn fwy o arwydd o fywiogrwydd yr iaith," meddai Heini Gruffudd
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Casglwyd y data ar gyfer 2022-23 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac yna fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddadansoddi ac adrodd ar y canlyniadau.
Maint y sampl ar gyfer 2022-23 oedd 11,140 o bobl.
Mae eu statws fel "Ystadegau Gwladol" yn golygu bod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn "bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf