Merch drywanodd ei hathrawon â 'diddordeb anarferol' ag arfau a rhyfel
Fe welodd yr achos llys yn erbyn y ferch luniau camera cylch cyfyng o'r digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad wedi canfod bod merch yn ei harddegau a drywanodd ddau athro a disgybl y llynedd wedi cael ei darganfod gyda chyllell, gwn BB a memorabilia rhyfel yn ei bag ysgol yn y gorffennol.
Roedd y ferch, na ellir ei henwi oherwydd ei hoedran, yn 13 oed ar adeg yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill 2024.
Yn gynharach eleni, cafwyd hi'n euog o geisio llofruddio a chafodd ei dedfrydu i 15 mlynedd dan glo.
Dywedodd yr adolygiad aml-asiantaeth y byddai'r ferch wedi elwa o "gymorth wedi'i dargedu" pe bai "gwybodaeth wedi'i rhannu a'i hasesu'n llawn".
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a phennaeth yr ysgol y byddan nhw'n gweithio ar gynllun gweithredu.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Fe wnaeth yr adolygiad annibynnol gan Gladys Rhodes White ganfod bod y ferch yn cael ei gweld fel "rhyfedd" a bod ganddi "ddiddordebau anarferol" mewn memorabilia rhyfel ac Adolf Hitler.
Ychwanegodd ei bod hi'n hoff iawn o arfau ac y byddai'n esgus siarad Almaeneg a Rwsieg.
Cafwyd hyd i wn BB (gwn awyr) yn ei bag mewn ysgol yr oedd hi'n ei mynychu cyn iddi symud i Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin eu trywanu yn y digwyddiad yn Ebrill 2024
Ym mis Mai 2023 fe wnaeth y ferch fygwth ddefnyddio cyllell ar ddisgybl arall, ac fe gafwyd hyd i gyllell yn ei bag ym mis Medi 2023.
Wedi'r digwyddiadau hyn, fe wnaeth ei thad gytuno y byddai ei bag yn cael ei wirio yn ddyddiol, ac fe wnaeth yr adolygiad ganfod bod cefnogaeth cwnsela wedi'i chynnig, ond ei bod wedi'i gwrthod.
Fe ystyriwyd atgyfeiriad at y rhaglen gwrthderfysgaeth Prevent, ond ni chafodd hyn ei ddilyn.
Dywed yr adroddiad fod atgyfeiriad arall wedi'i wneud ar gyfer asesiad Cymorth Cynnar, ond cafodd hyn ei wrthod gan dad y ferch.
'Rwy'n mynd i dy ladd di'
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, clywodd y rheithgor fod y ferch yn cario cyllell i'r ysgol bob dydd fel "peth greddfol" oherwydd ei bod yn cael ei bwlio.
Defnyddiodd gyllell ei thad ar 24 Ebrill 2024 ac roedd wedi dweud wrth ddisgyblion eraill y byddai'n trywanu'r athrawes Fiona Elias.
Trywanodd hi dro ar ôl tro gan ddweud "rwy'n mynd i dy ladd di" cyn i athrawes arall, Liz Hopkin gael ei thrywanu hefyd wrth iddi ymyrryd.
Yna rhedodd y ferch at ddisgybl 14 oed gyda'r gyllell a'i thrywanu, cyn iddi gael ei hatal gan yr athro Darrel Campbell.
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu mai dyma "un ffordd o fod yn enwog" ar ôl iddi gael ei harestio.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC nad oedd y ferch wedi dangos edifeirwch, ai bod wedi ymosod ar y tri er mwyn cael sylw.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill 2024
Awgrymodd yr adolygiad fod gan y ferch heriau iechyd meddwl a phlentyndod cythryblus, gyda "pherthnasoedd toredig" gyda'i rhieni, a'i bod wedi bod yn dyst i gam-drin domestig.
Fe wnaeth yr adolygiad ddarganfod bod yr ysgol wedi ei disgrifio fel un a oedd yn dangos ymddygiadau a oedd yn gwneud iddi sefyll allan o'i chyfoedion o ran datblygiad.
Roedd yr ysgol wedi codi pryderon yn ystod ymgynghoriad iechyd meddwl yn yr ysgol bod cyllell wedi'i darganfod yn ei bag, a oedd wedi arwain at ymyrraeth yr heddlu.
Dywedodd athrawon wrth yr adolygiad annibynnol fod bwlio yn broblem barhaus i'r ferch, gan gynnwys ar y bws ysgol.
Dywedodd Ms Rhodes White OBE ei bod yn debygol ei bod wedi cael ei heffeithio gan sawl profiad niweidiol o'i phlentyndod.
Cafodd y ferch ei chyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl, ond dywedodd yr adolygiad ei bod yn anodd gwybod a allai niwroamrywiaeth fod wedi effeithio ar ei hiechyd emosiynol, gan na chynhaliwyd asesiad na diagnosis penodol ar gyfer hynny.

Fe wnaeth y ferch ymosod ar y tri gyda'r gyllell yma
Dywedodd ei thad wrth yr adolygiad ei fod yn teimlo bod y gwasanaethau wedi gadael ei ferch a'i deulu i lawr.
Ond awgrymodd yr awdur fod "patrwm" yng nghofnodion asiantaethau bod cynigion o gymorth yn cael eu "gwrthod neu heb eu dilyn".
Dywedodd Ms Rhodes White wrth BBC Cymru nad oedd yr achos yn "cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth Prevent, ond roedd hi'n amlwg yn cyrraedd y trothwy ar gyfer archwilio pryderon pellach, a gwneud asesiad risg".
"Yn anffodus, pan gafodd hi ei chyfeirio am asesiad Cymorth Cynnar, wnaeth y tad ddim cytuno i ddilyn hynny, wnaeth hi ddim, a doedd gan y gwasanaethau plant ddim pwerau statudol ar y pwynt hynny i'w orfodi."
'Wedi profi sawl her'
Daeth yr awdur i'r casgliad bod y ferch wedi profi "sawl her yr oedd asiantaethau'n ymwybodol ohonynt ar wahanol adegau ac mewn gwahanol ffyrdd".
"Roedd gan bob asiantaeth eu darnau eu hunain o'r jig-so. Wrth gasglu holl ddarnau'r jig-so, mae darlun llawer cliriach o faint y pryderon ynghylch ei chyflwr meddwl a'i hymddygiadau cysylltiedig," meddai.
Ond dywedodd "nad oedd unrhyw wybodaeth a gedwir gan asiantaethau yn nodi gallu clir i ragweld y digwyddiadau brawychus ac annisgwyl a ddigwyddodd ym mis Ebrill 2024".

Gwnaeth gyfanswm o 11 o argymhellion, a oedd yn cynnwys y dylid "rhoi ystyriaeth ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau digon o adnoddau a chapasiti i asiantaethau, ar draws pob sector, allu ymateb i lefelau cynyddol parhaus o gymhlethdod ac anghenion plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn ysgolion".
Ychwanegodd y dylid archwilio'r "potensial ar gyfer hwyluso rhannu gwell o wybodaeth gynhwysfawr, berthnasol a chronolegol rhwng asiantaethau".
"Pan fydd plant yn destun oedi ar gyfer asesiadau, diagnosis neu driniaeth, oherwydd rhestrau aros hir, mae angen i asiantaethau ystyried sut mae plant o'r fath yn cael eu monitro a'u helpu yn ystod y cyfnod hwnnw," ychwanegodd.
Dywedodd Ms Rhodes White hefyd y dylai asiantaethau ystyried blaenoriaethu hyfforddiant.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Gladys Rhodes White, nad oedd modd rhagweld y byddai'r ymosodiad yn digwydd
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, gofynnwyd i Ms Rhodes White pa mor bryderus oedd hi wedi iddi fynd trwy'r dystiolaeth.
"Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o achosion difrifol, ac roedd gen i lefel o bryder am rhai o'r cyfleoedd a gollwyd, ond yn anffodus dyw hynny ddim yn anghyffredin," meddai.
"Rydyn ni wedi gweld gormod o achosion ble mae diffyg rhannu gwybodaeth allweddol yn codi ei ben fel thema, ac mae angen i ni wneud mwy i fynd i'r afael â hynny.
"Mae'n her fawr yn nifer o adolygiadau, ac roedd yn her yn yr achos yma.
"Yn ffodus, mae hynny'n brin, a doedd dim modd rhagweld ar y diwrnod y byddai hyn yn digwydd, a dwi wir yn gobeithio bod y dioddefwyr yn clywed y neges yna."
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, pennaeth Ysgol Dyffryn Aman, Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "cydnabod yr amgylchiadau heriol ac anodd y mae'r dioddefwyr a'r gymuned gyfan yn eu hwynebu" ar ôl y digwyddiad.
"Rydym wedi derbyn yr adroddiad annibynnol mewn perthynas â'r Fforwm Proffesiynol Aml-Asiantaeth (MAPF), a byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'i argymhellion."
"Er nad yw'n arferol cyhoeddi adolygiadau o'r math hwn, nac i adolygiad o'r fath gael ei gynnal yn annibynnol, cytunwyd y byddai Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi'r adroddiad ar ran yr asiantaethau sy'n ymwneud â'r MAPF i sicrhau bod pob ymdrech bosibl wedi'i gwneud i ddysgu o'r digwyddiadau hyn ac i wneud hynny mewn ffordd dryloyw ac agored."
Fe dalon nhw deyrnged i ddisgyblion, athrawon, staff a rhieni Ysgol Dyffryn Aman.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.