'10,000 o swyddi twristiaeth y gogledd i ddiflannu'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y bydd 10,000 o swyddi'r sector twristiaeth a lletygarwch yn diflannu yng ngogledd Cymru, hyd yn oed os fydd modd i fusnesau ddechrau ailagor ar 1 Gorffennaf.
Yn ôl casgliadau arolwg gan y mudiad sy'n cefnogi busnesau twristiaeth y rhanbarth, byddai 2,000 yn rhagor o swyddi yn y fantol petai'r busnesau ddim yn cael ailagor tan fis Awst.
Cyfrannodd dros 320 o fusnesau i arolwg Twristiaeth Gogledd Cymru, a gafodd ei gynnal gyda chefnogaeth Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.
Mae'r casgliadau'n tanlinellu effaith "drychinebus" yr argyfwng coronafeirws ar y sector, medd prif weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones.
Dywedodd 60% o'r ymatebwyr eu bod yn rhagweld ond gallu cyflawni hyd at hanner y busnes arferol pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Edrychodd yr arolwg ar effaith ailagor ar 1 Gorffennaf ac 1 Awst, ar sail y rheolau pellter cymdeithasol presennol. Roedd hefyd yn cymryd bod rhyddid i deithio unrhyw le o fewn y DU a bod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben ym mis Hydref.
"Os fydd busnesau'n cael agor ar 1 Gorffennaf, bydd y trosiant a gollwyd am y flwyddyn ar gyfartaledd yn 58%," meddai Mr Jones. "Yr hyn sy'n cael ei ddarogan yw 10,500 o swyddi'n diflannu, sy'n cynrychioli 25% o'r rhai y mae'r sector yn ei gyflogi ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru.
"O ohirio'r dyddiad ailagor tan 1 Awst, bydd nifer y diswyddiadau'n codi tua 500 yr wythnos i 12,500 am y flwyddyn, neu tua 30% o'r bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector.
"Dydy hynny ddim yn cynnwys diswyddiadau o fewn y busnesau sy'n cyflenwi'r sector twristiaeth."
Ychwanegodd Mr Jones fod bron i hanner yr ymatebwyr â phryderon ynghylch pa mor gynaliadwy fyddai rhedeg busnes ar lai na'i gapasiti arferol yn sgil cost ychwanegol cadw i'r rheolau pellter cymdeithasol presennol.
Mae hefyd yn awgrymu fod angen adolygu'r rheol dau fetr o bellter ac ystyried ymestyn y cynllun ffyrlo wedi mis Hydref yn achos y sector twristiaeth "os mae modd osgoi'r diswyddiadau yma".
Un sy'n ategu'r rhybuddion yw Juliana Delaney, prif weithredwr cwmni Continuum Attractions sy'n berchen ar atyniad Y Gelli Gyffwrdd, ger Bangor.
"Os na thynnir yr arwydd 'ar gau' oddi ar sector twristiaeth Cymru, bydd yn peryglu'r tymor yma a thymor y flwyddyn nesaf," meddai.
Dywedodd llywydd cwmni Zip World, Sean Taylor: "Rwy'n gwerthfawrogi fod pwysau mawr ar y Prif Weinidog [Mark Drakeford] ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio y bydd ganddo'r hyder i godi'r rheol osgoi teithio dros bum milltir ddydd Gwener."
Byddai hynny, meddai, yn helpu economi twristiaeth Cymru "i osgoi dirwasgiad economaidd catastroffig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020